Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr Aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod: Mae'r
Cynghorydd C Galsworthy yn gynorthwy-ydd personol ac mae ganddi oddefeb i
siarad a phleidleisio. |
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 59 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020 fel cofnod cywir. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: 2. Diweddariad Blynyddol ar Gynllun Comisiynu Lleol
Cefnogi Pobl Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y
Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl blynyddol fel y manylir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Canmolodd y Pwyllgor dîm Ymgynghorwyr Trais Domestig Annibynnol
(IDVA) Cyngor Castell-nedd Port Talbot oherwydd eu bod wedi derbyn Gwobr Uchel
Siryf Gorllewin Morgannwg 2021 am eu gwaith wrth gefnogi dioddefwyr trais
domestig drwy gydol y pandemig. Roedd yr Aelodau'n falch o weld astudiaethau achos
yn cael eu cynnwys yn y cynllun. Hefyd, canmolwyd y ffaith bod y camau
gweithredu a awgrymwyd gan y defnyddwyr gwasanaeth wedi'u cynnwys a oedd wedi'u
manylu ar dudalen 27 yr adroddiad. Nododd y Pwyllgor fod y cyngor dan gyfarwyddyd
Llywodraeth Cymru, cyn dechrau'r pandemig presennol, i lunio Strategaeth y
Rhaglen Cymorth Tai 4 blynedd newydd erbyn diwedd 2020, gan ddisodli Cynllun
Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl, a byddai hyn hefyd wedi mynd i'r afael â holl
wariant cynghorau ar atal digartrefedd a gweithgarwch cymorth arall sy'n
gysylltiedig â thai. Fod bynnag, oherwydd y pandemig, cynigwyd estyniad i'r
cyngor lunio'r strategaeth newydd. Eglurodd swyddogion fod yr estyniad tan
ddiwedd 2021 ac nid 2022 fel a nodir yn yr adroddiad. Yn dilyn yr wybodaeth hon, trafododd yr Aelodau'r
cyfle in chwarae rhan pellach yn y gwaith o graffu ar ddatblygiad y strategaeth
hon ar gamau cynharach. Croesawodd swyddogion yr ymagwedd a chadarnhaodd y
byddai'r ymagwedd hon yn cael ei chynnwys yn y camau datblygu. Cafwyd trafodaethau ynghylch yr ymyrraeth yn
ymwneud â digartrefedd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Hysbysodd swyddogion yr
Aelodau fod digartrefedd yn parhau i beri bryder yng Nghastell-nedd Port
Talbot, oherwydd effeithiau'r pandemig. Nodwyd bod angen i strategaeth y cyngor
ar ddigartrefedd ystyried atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Trafododd yr Aelodau nad oedd pwynt cyfeirio
canolog ar gyfer iechyd meddwl neu achosion cam-drin domestig a gofynnwyd am
eglurder. Cadarnhaodd swyddogion fod hwn ar eu hagenda ar hyn o bryd ac y
byddai'n cael ei ystyried fel rhan o'r broses o ailfodelu’r Gwasanaethau i
Oedolion. Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch hygyrchedd y
dudalen ymgynghori ar wefan Castell-nedd Port Talbot. Cadarnhaodd swyddogion y
byddent yn ymchwilio i hyn ac yn mynd i'r afael â'r broblem. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Fframwaith Sicrhau Ansawdd ar gyfer Darpariaeth
Dysgu Gwasanaethau Byw â Chymorth i bobl ag Anableddau a
phroblemau Iechyd Meddwl yng Nghastell-nedd Port Talbot. Cyflwyno Fframwaith Sicrhau Ansawdd arfaethedig i'r
Aelodau a cheisio cymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus 90 niwrnod. Gofynnodd yr Aelodau i'r swyddogion ailystyried eu
hymagwedd ynghylch dogfennau hawdd i'w deall, oherwydd bod y cynnwys yn rhy
ddatblygedig. Trafodwyd yr Asesiad Effaith Integredig - rhoddodd
swyddogion sicrwydd pe nodwyd unrhyw effeithiau negyddol y byddai'r effeithiau
hyn yn cael eu trafod eto mewn cyfarfod yn y dyfodol. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. |
|||
Cofnodion: Nododd yr Aelodau fod fformat y Blaenraglen Waith
Craffu wedi'i diweddaru i gynnwys yr holl bwyllgorau Craffu, gan alluogi'r
Aelodau i gael cipolwg cyffredinol ar y meysydd oedd yn cael eu craffu ar draws
y cyngor. Nodwyd hefyd y cyfeirir at Flaenraglen Waith y Cabinet mewn Agendâu
Craffu yn y dyfodol i'w hystyried cyn craffu.
Gofynnodd y swyddogion am eglurhad pellach ynghylch
y cais am adroddiad ar effaith y rheini sy'n cael eu rhyddhau o ysbytai ar
argaeledd pecynnau gofal, yr wybodaeth ddiweddar ar Oedi wrth Drosglwyddo
Gofal. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i ohirio'r eitem i ddyddiad yn
y dyfodol, gan gasglu eglurder pellach ynghylch y manylion penodol sydd eu
hangen ar yr Aelodau i'w cynnwys yn yr adroddiad mewn sesiwn Blaenraglen Waith yn
y dyfodol. Yn dilyn y drafodaeth, nododd yr Aelodau'r
Blaenraglen waith. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd
i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol
yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r
paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||
Adroddiad Diweddaru ar Opsiynau Tai a Digartrefedd (Eithriedig o dan Baragraff 14] Cofnodion: Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr
effeithiau y mae COVID-19 wedi'u cael ar opsiynau tai a digartrefedd yng
Nghastell-nedd Port Talbot, fel a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol
o Agenda Bwrdd y Cabinet ar
gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau Bwrdd y Cabinet
ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Ildio Grant Cyfleusterau i'r Anabl Derbyniodd yr Aelodau wybodaeth mewn perthynas â
chais i ildio grant cyfleusterau i'r anabl fel y manylir yn yr adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn y broses graffu, roedd y Pwyllgor yn
gefnogol i'r argymhelliad fynd at Fwrdd y Cabinet. Dyfodol Cartref Gofal Preswyl Trem y Glyn Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am
ddyfodol Cartref Gofal Preswyl, Trem y Glyn, fel a nodir yn yr adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn y broses graffu, roedd y Pwyllgor yn
gefnogol i'r argymhelliad fynd at Fwrdd y Cabinet. |