Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles - Dydd Llun, 5ed Gorffennaf, 2021 10.00 am

Lleoliad: VIa Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 13 Mai 2021 fel cofnod cywir.

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Polisi Gosodiadau Tai a Rennir Ymgynghorol Drafft Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Tai Tarian 2021

 

Hysbyswyd yr aelodau o Bolisi Gosodiadau Tai a Rennir Ymgynghorol Drafft Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Tai Tarian 2021. Ynghyd â'r cais am ymarfer ymgynghori cyhoeddus 90 niwrnod, fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd yr aelodau'r falch o weld y polisi. Fodd bynnag, teimlwyd y byddai angen Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles ar wahân. Gan alluogi’r Pwyllgor i ystyried yr adroddiad manwl yn ofalus a bwydo i'r ymgynghoriad.

 

Yn dilyn y gwaith craffu, roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r argymhellion i’w cyflwyno i'r Cabinet ynghyd â threfnu Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles ychwanegol er mwyn caniatáu i'r Aelodau Craffu fwydo i mewn i'r broses ymgynghori.

 

Canolfan Adnoddau Ymyrryd yn Gynnar a Chyfiawnder Ieuenctid CNPT

 

Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am y Ganolfan Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar newydd sydd hefyd yn adnodd ar gyfer Gwasanaethau Plant, a adwaenid gynt fel Canolfan Ddydd Abbeyview ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth, fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Canmolodd y swyddogion yr adroddiad a chroesawyd yr adroddiad cadarnhaol.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Drefniadau Corfforaethol ar gyfer Diogelu - Castell-nedd Port Talbot, dyddiedig Mawrth 2020

 

Cyflwynwyd canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) i'r Aelodau yn dilyn ei hadolygiad o 'Drefniadau Corfforaethol ar gyfer Diogelu ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (NPTCBC)', fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch trefniadau adrodd Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Drefniadau Corfforaethol. Teimlai'r Pwyllgor ei bod yn bwysig bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant. Cadarnhaodd swyddogion y gallai'r canfyddiadau gael eu rhannu â phwyllgorau eraill pe bai'r Pwyllgor yn teimlo bod hynny'n angenrheidiol.

 

Gofynnwyd am eglurder ynghylch y flwyddyn y cyfeiriwyd ati yn y paragraff canlynol, 'Derbyniodd y Pwyllgor Archwilio’r cofrestrau risg diwygiedig yn eu cyfarfod ar 19 Medi 2018. Nid yw’r Pwyllgor Archwilio’n adolygu cofrestr risg y cyngor yn rheolaidd ac nid yw wedi derbyn adroddiad pellach ar reoli risgiau corfforaethol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.' Cadarnhaodd swyddogion fod 'y llynedd' a grybwyllir yn y paragraff yn cyfeirio at 2019.

 

Gofynnodd yr Aelodau pa mor dda yr oedd yr un pwynt mynediad yn gweithio o ran cynorthwyo diogelu. Cadarnhaodd swyddogion fod arolygiad diogelu wedi'i gynnal yn ddiweddar a oedd yn cynnwys adborth cadarnhaol mewn perthynas â'r un pwynt mynediad.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch y posibilrwydd o gael un polisi ar gyfer gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar draws yr awdurdod cyfan. Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith nad oedd polisi ar draws y cyngor ar gael ar hyn o bryd oherwydd y gwahanol reoliadau y mae angen eu hystyried. 

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Polisi Codi Tâl am Ofal Preswyl a Dibreswyl

 

Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am y Polisi Codi Tâl am Ofal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 633 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y Flaenraglen Waith

 

4.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

5.

Effaith COVID-19 ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (yn eithriedig dan baragraff 14)

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am yr effaith a gafodd pandemig COVID-19 ar y Gwasanaeth Grant Cyfleusterau i'r Anabl ac adferiad, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.