Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Polisi Gosodiadau Tai a Rennir Ymgynghorol Drafft
Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Tai Tarian 2021
Hysbyswyd yr aelodau o Bolisi Gosodiadau Tai a
Rennir Ymgynghorol Drafft Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Tai Tarian 2021.
Ynghyd â'r cais am ymarfer ymgynghori cyhoeddus 90 niwrnod, fel a nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd yr aelodau'r falch o weld y polisi. Fodd
bynnag, teimlwyd y byddai angen Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a
Lles ar wahân. Gan alluogi’r Pwyllgor i ystyried yr adroddiad manwl yn ofalus a
bwydo i'r ymgynghoriad.
Yn dilyn y gwaith craffu, roedd yr Aelodau'n
gefnogol o'r argymhellion i’w cyflwyno i'r Cabinet ynghyd â threfnu Pwyllgor
Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles ychwanegol er mwyn caniatáu i'r
Aelodau Craffu fwydo i mewn i'r broses ymgynghori.
Canolfan Adnoddau Ymyrryd yn Gynnar a Chyfiawnder
Ieuenctid CNPT
Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am y
Ganolfan Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar newydd sydd hefyd yn adnodd
ar gyfer Gwasanaethau Plant, a adwaenid gynt fel Canolfan Ddydd Abbeyview ar
gyfer pobl ag anghenion cymhleth, fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Canmolodd y swyddogion yr adroddiad a chroesawyd yr
adroddiad cadarnhaol.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Drefniadau
Corfforaethol ar gyfer Diogelu - Castell-nedd Port Talbot, dyddiedig Mawrth
2020
Cyflwynwyd canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru
(SAC) i'r Aelodau yn dilyn ei hadolygiad o 'Drefniadau Corfforaethol ar gyfer
Diogelu ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (NPTCBC)',
fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Cafwyd trafodaethau ynghylch trefniadau adrodd
Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Drefniadau Corfforaethol. Teimlai'r
Pwyllgor ei bod yn bwysig bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor
Archwilio a'r Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant. Cadarnhaodd
swyddogion y gallai'r canfyddiadau gael eu rhannu â phwyllgorau eraill pe bai'r
Pwyllgor yn teimlo bod hynny'n angenrheidiol.
Gofynnwyd am eglurder ynghylch y flwyddyn y
cyfeiriwyd ati yn y paragraff canlynol, 'Derbyniodd y Pwyllgor Archwilio’r
cofrestrau risg diwygiedig yn eu cyfarfod ar 19 Medi 2018. Nid yw’r Pwyllgor
Archwilio’n adolygu cofrestr risg y cyngor yn rheolaidd ac nid yw wedi derbyn
adroddiad pellach ar reoli risgiau corfforaethol yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf.' Cadarnhaodd swyddogion fod 'y llynedd' a grybwyllir yn y paragraff
yn cyfeirio at 2019.
Gofynnodd yr Aelodau pa mor dda yr oedd yr un pwynt
mynediad yn gweithio o ran cynorthwyo diogelu. Cadarnhaodd swyddogion fod
arolygiad diogelu wedi'i gynnal yn ddiweddar a oedd yn cynnwys adborth
cadarnhaol mewn perthynas â'r un pwynt mynediad.
Holodd yr Aelodau ynghylch y posibilrwydd o gael un
polisi ar gyfer gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar draws yr
awdurdod cyfan. Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith nad oedd polisi ar draws y
cyngor ar gael ar hyn o bryd oherwydd y gwahanol reoliadau y mae angen eu
hystyried.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Polisi Codi Tâl am Ofal Preswyl a Dibreswyl
Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am y
Polisi Codi Tâl am Ofal Preswyl a Dibreswyl yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol
a Llesiant (Cymru) 2014, fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Gofynnwyd am eglurder ynghylch gwerth y Bondiau
Angladdau.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.