Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles - Dydd Iau, 5ed Medi, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

 

That the Minutes of the previous meeting held on the 25 July 2019 be approved.

 

 

 

 

2.

Mesurau Lefel Uchel y Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc ac Odeolion (Chwarter 1) pdf eicon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd Aelodau drosolwg o Fesurau Lefel Uchel y Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion - Chwarter 1, fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd.

 

Amlygodd Aelodau fod angen eglurhad pellach ar y meysydd canlynol:

 

·        Beth oedd achos yr absenoldebau a oedd yn ymwneud â straen?  Eglurwyd bod hyn oherwydd materion personol, nid gwaith

·        Pam roedd y beichiau achosion yn is ond salwch yn uwch? Roedd hyn oherwydd oedi wrth goladu data; mae llai o salwch yn awr.

·        Mewn perthynas ag Atodiad 1, Tudalen 17, gofynnodd Aelodau am gynnwys y ffigurau ar gyfer cyfanswm y staff yn y graff fel y gallai Aelodau ddeall effaith y data'n well.

·        Beth oedd y diffiniad am salwch tymor hir?  Roedd hyn yn gyfnod o dros 4 wythnos a chafwyd y rhan fwyaf o achosion yn y Gwasanaethau i Oedolion oherwydd anafiadau codi.

·        Gofynnodd Aelodau i swyddogion ymchwilio i'r rheswm dros y gostyngiad yn nifer y goruchwyliadau a gafwyd.

·        Beth sydd wedi'i roi ar waith i fynd i'r afael â'r ffaith mai ychydig iawn o wybodaeth a roddir gan ofalwyr maeth allanol i egluro'r rhesymau pam roedd lleoliadau'n methu?  Esboniodd swyddogion fod y mater hwn wedi'i godi gyda'r swyddogion perthnasol a'i fod yn rhan o'r ymweliadau gan weithwyr cymdeithasol, y mae nifer o rwystrau a gwrthbwysau'n eu hwynebu.  Eir ar drywydd hyn fel rhan o'r cynllun gweithredu ôl-archwiliad.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad.

 

3.

Dewis eitemau priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu)

4.

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwaherddir y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 13 a 14 Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

5.

Diweddariad Chwarterol Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot

Cofnodion:

Derbyniodd Aelodau drosolwg o ddiweddariad Chwarterol Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd.

 

Cynhaliwyd trafodaeth am y Bwrdd Rheoli a oedd newydd ei sefydlu a'r cynnydd a wnaed. 

 

Byddai'r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid blynyddol ar gael i Aelodau ei ystyried yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Hefyd, bydd Aelodau'n derbyn adroddiad am y diweddaraf bob 6 mis.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad.

 

 

 

 

6.

Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

Adroddiad y Rheolwr am Gartref Diogel i Blant Hillside

 

Derbyniodd aelodau wybodaeth am y bobl ifanc, gwybodaeth am staff  a chynllunio a datblygu'r gwasanaeth am y cyfnod o 1 Mawrth 2019 i 31 Mawrth 2019 (3 mis) fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad preifat.

 

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru)

 

Derbyniodd y Pwyllgor Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad preifat