Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 55 KB ·
30 Ionawr 2020 ·
12 Mawrth 2020 ·
21 Gorffennaf 2020 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd blaenorol
canlynol o'r Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles: ·
30 Ionawr 2020 ·
12 Mawrth 2020 ·
21 Gorffennaf 2020 |
|||
Diweddariad Llafar am effaith COVID-19 ar gartrefi gofal, gwasanaethau gofal cartref ac oedi wrth drosglwyddo gofal Cofnodion: Cafodd yr Aelodau gyflwyniad gan y Cyfarwyddwr
Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai mewn perthynas â'r effaith y mae COVID-19
wedi'i chael ar gartrefi Gofal, Gwasanaethau Gofal Cartref, Oedi wrth
Drosglwyddo Gofal, Gwasanaethau Seibiant/Dydd a Digartrefedd. Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am yr
effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ers cyhoeddi'r pandemig. Amlygwyd mai'r
Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n bennaf gyfrifol am gefnogi unigolion diamddiffyn
yn y gymuned. Nodwyd bod COVID-19 wedi gwneud hyn yn heriol iawn i'r
Gwasanaethau Cymdeithasol, gan orfodi swyddogion i wneud penderfyniadau anodd a
chydbwyso adnoddau. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y pandemig yn ei
gyfanrwydd, gan gael diweddariadau o fis Mawrth 2020 a'r gweithdrefnau
cynllunio mewn argyfwng a roddwyd ar waith ar gyfer ton gyntaf y feirws. Yna
trafododd swyddogion y gostyngiad mewn achosion positif o feirws COVID-19 wrth
i ni nesáu at fisoedd yr haf. Wrth i swyddogion gynllunio ar gyfer dechrau ar
gam adfer, dechreuodd y ffigurau gynyddu wrth i ni nesáu at yr hydref, pan
gyhoeddwyd y cyfnod atal byr. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd
achosion wedi gostwng yn gyflym wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf. Nodwyd bod trefniadau llywodraethu cadarn wedi'u
rhoi ar waith, gan sicrhau bod aelodau'r cabinet a'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd
Craffu yn cael eu diweddaru'n gyson ar y broses yn ystod y pandemig. Nodwyd bod adroddiad trosolwg yn seiliedig ar y
gwersi a ddysgwyd wedi'i lunio, sydd ar gael i'r cyhoedd a'r pwyllgor. Manylu
ar y gwersi a ddysgwyd ar atal COVID-19 rhag ymledu mewn cartrefi gofal. Hysbyswyd yr Aelodau y bu cynnydd yng
nghyfrifoldebau’r cyngor yn ystod ail don COVID-19, fel cynnal profion a
chyflwyno brechiadau. Tynnwyd sylw'r Aelodau at y pwysau ar deuluoedd gan
eu bod wedi gofalu am aelodau diamddiffyn o'r teulu yn ystod cychwyniad y
feirws a'r angen am seibiant, sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel
gwasanaeth dewis olaf. Roedd yr Aelodau'n ymwybodol bod gofal preswyl a
gofal nyrsio yn cael eu cynnal ar gyfradd lleoedd isel. Gan fod 20 o'r 24
cartref dan gyfyngiadau symud ar hyn o bryd, gan adael 4 cartref ar gael yn
unig i breswylwyr newydd. Tynnwyd sylw'r aelodau at drafodaethau ynghylch
staff asiantaeth, oherwydd diffyg adnoddau. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y broses o ailfodelu'r
Gwasanaethau i Oedolion yn dal i fynd yn ei blaen ac yn cael i gael ei drafod. Trafodwyd galwadau gofal cartref a hysbyswyd yr
aelodau fod galwadau gofal cartref wedi'u graddio yn ôl statws CAG yn barod ar
gyfer cyfnodau problemus. Canmolodd y Pwyllgor waith y Gwasanaeth Gofal
Cymdeithasol a'u hymdrechion i sicrhau bod y gymuned yn cael y gofal mwyaf yn
ystod yr amserau digynsail hyn. Canmolodd yr Aelodau'r newyddion diweddar am gyflwyno'r brechlyn COVID-19 ac felly holwyd pryd y byddai'r brechlyn ar gael i Gastell-nedd Port Talbot, yn benodol i flaenoriaethu Staff Gofal. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod preswylwyr Cartrefi Gofal a staff ar frig y rhestr, fodd bynnag, roedd trafodaethau'n cael eu cynnal ar logisteg gweinyddu'r brechlynnau hyn gan fod ffactorau anodd iw’ ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|||
Diweddariad Llafar am effaith COVID-19 ar wasanaethau seibiant/dydd Cofnodion: Mae'r diweddariad ar gyfer Gwasanaethau
Seibiant/Dydd wedi'i gynnwys yng nghofnod rhif dau uchod. |
|||
Diweddariad Llafar am ddigartrefedd Cofnodion: Cafodd yr Aelodau ddiweddariad llafar am effeithiau
COVID-19 ar ddigartrefedd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd
y dylid darparu llety i bob un sy'n cysgu allan, gan sicrhau nad oedd neb yn
cysgu allan yn ystod yr amserau digynsail hyn. Nodwyd hefyd fod Llywodraeth
Cymru wedi dileu 'angen blaenoriaethol', gan arwain at gynnydd mewn ceisiadau
am dai. Roedd pwysau ychwanegol hefyd ar y tîm Digartrefedd gan y tynnwyd sylw
at y ffaith y bydd angen gadael 2 ganolfan llety, sy'n cael eu defnyddio ar hyn
o bryd, erbyn diwedd mis Mawrth 2021, gan arwain at nifer o unigolion o bosib
yn ddigartref. Sicrhaodd y swyddogion yr aelodau eu bod yn ystyried nifer o
opsiynau i sicrhau y byddai llety amgen ar gael. Gofynnodd yr Aelodau a yw asesiadau risg yn cael eu
cwblhau ar gyfer pobl ifanc sy'n ddigartref dros dro oherwydd cymhlethdodau yn
eu cartref. Sicrhaodd swyddogion yr aelodau y byddent yn bodloni bob protocol
angenrheidiol i sicrhau bod problemau unigolion sy'n ddigartref dros dro o'u
cartref arferol yn cael eu datrys neu eu bod yn cael cynnig llety amgen. Trafododd yr Aelodau'r amserlenni ynghylch pryd y
byddai'r newid diweddar yn y rheoliadau ynghylch digartrefedd yn dychwelyd i'w
ganllawiau gwreiddiol. Cadarnhaodd swyddogion y byddai'r canllawiau newydd yn
parhau am gyfnod eto. Canmolodd y Pwyllgor Craffu ynghyd ag Aelodau'r
Cabinet waith y Tîm Digartrefedd.
|
|||
Blaenraglen Waith 2020-21 PDF 77 KB Cofnodion: Nodwyd Blaenraglen Waith Craffu Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles. |
|||
Blaenraglen Waith y Cabinet PDF 44 KB Cofnodion: Soniwyd y byddai Blaenraglen Waith y Cabinet yn eitem sefydlog ar yr
agenda, er mwyn caniatáu i'r tîm craffu ddewis meysydd sy'n dod o fewn y cylch
gwaith Gofal Cymdeithasol y mae angen craffu arnynt. |
|||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnod
Rhif. 8 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau hyn yng nghyfarfod
heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol Rhif 2290 (fel y'i
diwygiwyd). Rhesymau dros y brys: Oherwydd yr elfen amser. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o
gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion:
|
|||
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 Cofnodion: Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr
ymweliadau chwarterol â Chanolfan Diogel i Blant Hillside gan yr Unigolyn
Cyfrifol i fodloni gofynion rheoliadau gwasanaethau a reolir (Darparwyr Gwasanaethau
ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, fel a nodir yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
|
|||
Adroddiad y Rheolwr am Gartref Diogel i Blant Hillside (yn eithriedig dan Baragraff 13) Cofnodion: Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y
bobl ifanc, y staff, cynllunio a datblygu gwasanaethau ar gyfer y cyfnod 1
Ionawr 2020 – 31 Hydref 2020 (10 mis), fel a nodir yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd. Nodwyd bod cyfnod amser yr adroddiad wedi'i estyn oherwydd
cyfyngiadau ynghylch pandemig COVID-19 ac adrodd i'r pwyllgor. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |