Cofnodion:
Cafodd yr Aelodau gyflwyniad gan y Cyfarwyddwr
Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai mewn perthynas â'r effaith y mae COVID-19
wedi'i chael ar gartrefi Gofal, Gwasanaethau Gofal Cartref, Oedi wrth
Drosglwyddo Gofal, Gwasanaethau Seibiant/Dydd a Digartrefedd.
Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am yr
effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ers cyhoeddi'r pandemig. Amlygwyd mai'r
Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n bennaf gyfrifol am gefnogi unigolion diamddiffyn
yn y gymuned. Nodwyd bod COVID-19 wedi gwneud hyn yn heriol iawn i'r
Gwasanaethau Cymdeithasol, gan orfodi swyddogion i wneud penderfyniadau anodd a
chydbwyso adnoddau.
Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y pandemig yn ei
gyfanrwydd, gan gael diweddariadau o fis Mawrth 2020 a'r gweithdrefnau
cynllunio mewn argyfwng a roddwyd ar waith ar gyfer ton gyntaf y feirws. Yna
trafododd swyddogion y gostyngiad mewn achosion positif o feirws COVID-19 wrth
i ni nesáu at fisoedd yr haf. Wrth i swyddogion gynllunio ar gyfer dechrau ar
gam adfer, dechreuodd y ffigurau gynyddu wrth i ni nesáu at yr hydref, pan
gyhoeddwyd y cyfnod atal byr. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd
achosion wedi gostwng yn gyflym wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf.
Nodwyd bod trefniadau llywodraethu cadarn wedi'u
rhoi ar waith, gan sicrhau bod aelodau'r cabinet a'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd
Craffu yn cael eu diweddaru'n gyson ar y broses yn ystod y pandemig.
Nodwyd bod adroddiad trosolwg yn seiliedig ar y
gwersi a ddysgwyd wedi'i lunio, sydd ar gael i'r cyhoedd a'r pwyllgor. Manylu
ar y gwersi a ddysgwyd ar atal COVID-19 rhag ymledu mewn cartrefi gofal.
Hysbyswyd yr Aelodau y bu cynnydd yng
nghyfrifoldebau’r cyngor yn ystod ail don COVID-19, fel cynnal profion a
chyflwyno brechiadau.
Tynnwyd sylw'r Aelodau at y pwysau ar deuluoedd gan
eu bod wedi gofalu am aelodau diamddiffyn o'r teulu yn ystod cychwyniad y
feirws a'r angen am seibiant, sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel
gwasanaeth dewis olaf.
Roedd yr Aelodau'n ymwybodol bod gofal preswyl a
gofal nyrsio yn cael eu cynnal ar gyfradd lleoedd isel. Gan fod 20 o'r 24
cartref dan gyfyngiadau symud ar hyn o bryd, gan adael 4 cartref ar gael yn
unig i breswylwyr newydd.
Tynnwyd sylw'r aelodau at drafodaethau ynghylch
staff asiantaeth, oherwydd diffyg adnoddau.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod y broses o ailfodelu'r
Gwasanaethau i Oedolion yn dal i fynd yn ei blaen ac yn cael i gael ei drafod.
Trafodwyd galwadau gofal cartref a hysbyswyd yr
aelodau fod galwadau gofal cartref wedi'u graddio yn ôl statws CAG yn barod ar
gyfer cyfnodau problemus.
Canmolodd y Pwyllgor waith y Gwasanaeth Gofal
Cymdeithasol a'u hymdrechion i sicrhau bod y gymuned yn cael y gofal mwyaf yn
ystod yr amserau digynsail hyn.
Canmolodd yr Aelodau'r newyddion diweddar am
gyflwyno'r brechlyn COVID-19 ac felly holwyd pryd y byddai'r brechlyn ar gael i
Gastell-nedd Port Talbot, yn benodol i flaenoriaethu Staff Gofal. Tynnodd
swyddogion sylw at y ffaith bod preswylwyr Cartrefi Gofal a staff ar frig y
rhestr, fodd bynnag, roedd trafodaethau'n cael eu cynnal ar logisteg
gweinyddu'r brechlynnau hyn gan fod ffactorau anodd iw’ hystyried, fel cadw'r
brechlyn ar dymheredd isel a pheidio â'i gludo ar ôl ei agor.
Holodd yr Aelodau a allai sefydliadau cymunedol
helpu i hwyluso a chefnogi'r gwasanaeth gofal cartref, drwy helpu i ddarparu
gofal lefel isel. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith mai gofal personol yw'r
gofal yn bennaf ac felly mae'r meysydd hyn wedi cael eu hystyried a'u trafod yn
flaenorol.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: