Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Craffu Diogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd - Dydd Gwener, 9fed Gorffennaf, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2020.

 

2.

Diogelwch Cymunedol - Diweddariad Ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol pdf eicon PDF 577 KB

Cofnodion:

Diweddarwyd yr Aelodau ar y problemau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YG) yng nghanol Tref Castell-nedd a rhoddwyd gwybodaeth iddynt mewn perthynas â'r gwaith a oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd ynghylch y mater proffil uchel hwn.

Eglurodd y Pennaeth Cyfranogiad fod y Tîm Partneriaethau a Chydlyniant Cymunedol bellach yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, ac wedi bod ers mis Ionawr 2021; canmolwyd y tîm am y gwaith roeddent wedi bod yn ei wneud ac yn parhau i'w wneud ar draws Castell-nedd Port Talbot.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Tîm Diogelwch Cymunedol, a oedd yn dîm bach o 11 o Swyddogion, yn ymdrin â materion cymhleth a dyrys iawn; roeddent wedi defnyddio a phrofi methodolegau ynghylch ymagwedd datrys problemau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol y materion. Ychwanegwyd bod gan y tîm gysylltiadau agos â phartneriaid allweddol a thimau mewnol, a oedd yn rhan annatod iawn o'r gwaith yr oedd angen ei wneud.

Ar wahân i reoli YG yn y Fwrdeistref Sirol, ychwanegwyd bod y Tîm Diogelwch Cymunedol hefyd yn rheoli meysydd megis Cam-drin Domestig, Troseddau Casineb a Chydlyniant Cymunedol; ers dechrau'r pandemig, roeddent hefyd yn gyfrifol am Wasanaeth Diogel ac Iach Castell-nedd Port Talbot.

Hysbyswyd yr Aelodau fod Swyddogion, ym mis Gorffennaf 2020, wedi cael gwybod am bryderon cynyddol ynghylch YG yng Nghanol Tref Castell-nedd; codwyd y pryderon hyn yn bennaf drwy'r cyfryngau cymdeithasol, nad oedd yn ffordd ffurfiol o adrodd i wasanaethau. Nodwyd bod preswylwyr a busnesau wedi bod yn siarad â Chynghorwyr lleol am faterion yn ymwneud ag yfed ar y stryd, niwsans sŵn, cardota ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cyffredinol eraill; tybiwyd bod y problemau hyn yn digwydd o ganlyniad i Wasanaeth Opsiynau Tai'r cyngor yn defnyddio Gwesty'r Ambassador ers dechrau'r pandemig.

Dywedodd swyddogion fod adroddiadau swyddogol i'r Heddlu a staff y cyngor yn isel iawn a theimlwyd, wrth edrych ar y materion a godwyd ar gyfryngau cymdeithasol, efallai nad oedd hyn wedi bod yn adlewyrchiad cywir o'r hyn a oedd yn digwydd yn y dref, a oedd yn bryder i Swyddogion.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd adrodd am bryderon a gwybodaeth yn y ffordd gywir; gallai aelodau o'r cyhoedd wneud hyn mewn nifer o ffyrdd. Esboniwyd pe na bai'r dystiolaeth a'r ystadegau wedi'u cynnwys yn y gronfa ddata i adlewyrchu'r hyn a oedd yn digwydd yn yr ardal, ei fod yn lleihau rhai pwerau a galluoedd y Swyddogion o ran dod o hyd i atebion i'r problemau. 

Yn dilyn y pryderon hyn, nodwyd bod y Tîm Diogelwch Cymunedol wedi galw cyfarfod partneriaeth i ddeall y problemau'n well, edrych ar bwy oedd wrth wraidd y problemau ac ystyried cynllun gweithredu priodol i sicrhau bod y sefyllfa'n gwella ac nad oedd yn dirywio; cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Gorffennaf 2020, wedi'i gydlynu gan Ddiogelwch Cymunedol. Soniwyd bod y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd wedi cadeirio'r cyfarfod a bod aelodau perthnasol y Cabinet a'r Cynghorwyr ward hefyd yn bresennol; cafwyd cynrychiolaeth gan nifer o asiantaethau partner gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau a ellid symud yr eitem ganlynol ymlaen i ddyddiad cynharach:

 

·        Y diweddaraf am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn gyffredinol Byr holl ganolau trefi ac yn ehangach)

Cytunwyd y byddai'r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu â'r Cadeirydd a'r Swyddogion i nodi dyddiad ychwanegol i'r Pwyllgor gyfarfod i drafod yr eitem hon.

Penderfynodd y Pwyllgor y dylid cynnwys yr eitemau canlynol yn y Blaenraglen Waith:

 

·        Y diweddaraf am y gwaith sy'n mynd rhagddo gyda'r BCA ynghylch camddefnyddio sylweddau a'r gwaith lleihau niwed a oedd yn digwydd yn lleol;

·        Y diweddaraf am brosiect a chyllid LEADER. Soniwyd bod Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn arwain ar y prosiect hwn, felly dylid gwahodd y cyswllt perthnasol i gyflwyno. 

 Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith yr Is-bwyllgor Craffu ar Ddiogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd ar gyfer 2021/22.