Cofnodion:
Diweddarwyd yr Aelodau ar y
problemau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YG) yng nghanol Tref Castell-nedd a
rhoddwyd gwybodaeth iddynt mewn perthynas â'r gwaith a oedd yn cael ei wneud ar
hyn o bryd ynghylch y mater proffil uchel hwn.
Eglurodd y Pennaeth
Cyfranogiad fod y Tîm Partneriaethau a Chydlyniant Cymunedol bellach yn rhan
o'r Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, ac wedi bod ers mis
Ionawr 2021; canmolwyd y tîm am y gwaith roeddent wedi bod yn ei wneud ac yn
parhau i'w wneud ar draws Castell-nedd Port Talbot.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod y
Tîm Diogelwch Cymunedol, a oedd yn dîm bach o 11 o Swyddogion, yn ymdrin â
materion cymhleth a dyrys iawn; roeddent wedi defnyddio a phrofi methodolegau
ynghylch ymagwedd datrys problemau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol y
materion. Ychwanegwyd bod gan y tîm gysylltiadau agos â phartneriaid allweddol
a thimau mewnol, a oedd yn rhan annatod iawn o'r gwaith yr oedd angen ei wneud.
Ar wahân i reoli YG yn y
Fwrdeistref Sirol, ychwanegwyd bod y Tîm Diogelwch Cymunedol hefyd yn rheoli
meysydd megis Cam-drin Domestig, Troseddau Casineb a Chydlyniant Cymunedol; ers
dechrau'r pandemig, roeddent hefyd yn gyfrifol am Wasanaeth Diogel ac Iach
Castell-nedd Port Talbot.
Hysbyswyd yr Aelodau fod
Swyddogion, ym mis Gorffennaf 2020, wedi cael gwybod am bryderon cynyddol
ynghylch YG yng Nghanol Tref Castell-nedd; codwyd y pryderon hyn yn bennaf
drwy'r cyfryngau cymdeithasol, nad oedd yn ffordd ffurfiol o adrodd i
wasanaethau. Nodwyd bod preswylwyr a busnesau wedi bod yn siarad â Chynghorwyr
lleol am faterion yn ymwneud ag yfed ar y stryd, niwsans sŵn, cardota ac
ymddygiad gwrthgymdeithasol cyffredinol eraill; tybiwyd bod y problemau hyn yn
digwydd o ganlyniad i Wasanaeth Opsiynau Tai'r cyngor yn defnyddio Gwesty'r
Ambassador ers dechrau'r pandemig.
Dywedodd swyddogion fod
adroddiadau swyddogol i'r Heddlu a staff y cyngor yn isel iawn a theimlwyd,
wrth edrych ar y materion a godwyd ar gyfryngau cymdeithasol, efallai nad oedd
hyn wedi bod yn adlewyrchiad cywir o'r hyn a oedd yn digwydd yn y dref, a oedd
yn bryder i Swyddogion.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd
adrodd am bryderon a gwybodaeth yn y ffordd gywir; gallai aelodau o'r cyhoedd
wneud hyn mewn nifer o ffyrdd. Esboniwyd pe na bai'r dystiolaeth a'r ystadegau
wedi'u cynnwys yn y gronfa ddata i adlewyrchu'r hyn a oedd yn digwydd yn yr
ardal, ei fod yn lleihau rhai pwerau a galluoedd y Swyddogion o ran dod o hyd i
atebion i'r problemau.
Yn dilyn y pryderon hyn,
nodwyd bod y Tîm Diogelwch Cymunedol wedi galw cyfarfod partneriaeth i ddeall y
problemau'n well, edrych ar bwy oedd wrth wraidd y problemau ac ystyried
cynllun gweithredu priodol i sicrhau bod y sefyllfa'n gwella ac nad oedd yn
dirywio; cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Gorffennaf 2020, wedi'i gydlynu
gan Ddiogelwch Cymunedol. Soniwyd bod y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet
dros Ddiogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd wedi cadeirio'r cyfarfod a bod
aelodau perthnasol y Cabinet a'r Cynghorwyr ward hefyd yn bresennol; cafwyd
cynrychiolaeth gan nifer o asiantaethau partner gan gynnwys Heddlu De Cymru
(HDC), Opsiynau Tai, WCADA, Trwyddedu, Gofal Strydoedd, Byddin yr
Iachawdwriaeth, Ardal Gwella Busnes Castell-nedd (BID) a'r Bartneriaeth Lleihau
Troseddau Busnes (PLlTB).
O'r cychwyn cyntaf, dywedwyd
bod parodrwydd partneriaid i gefnogi a chyfranogi’n rhagorol a bod llawer iawn
wedi mynychu’r holl gyfarfodydd dilynol; roedd pob partner yn awyddus i
weithredu ac ysgogi newid yn yr ardal, yn enwedig gan fod llawer o'r unigolion
a oedd yn dod i’r cyfarfodydd yn breswylwyr yr ardal eu hunain.
Penderfynodd y grŵp
fabwysiadu ymagwedd ar y cyd, a oedd yn cynnwys y canlynol:
1: Nodi pwy oedd wrth wraidd y
problemau a sicrhau bod cymorth priodol ar gael i'r bobl hynny, ac y gellid
rhoi mesurau priodol ar waith i ddatrys problemau YG. Nodwyd bod y dull hwn yn
ffafriol gan fod y rheini sy'n ymwneud ag YG yn aml yn agored iawn i niwed ac
roedd ganddynt anghenion cymhleth, felly roedd yn bwysig nodi'r achosion
sylfaenol;
2. Parhau i annog preswylwyr i
roi gwybod am unrhyw broblemau drwy’r sianeli cywir, er mwyn rhoi'r dystiolaeth
sydd ei hangen ar wasanaethau i fynd i'r afael â'r problemau yn well.
Esboniwyd bod y grŵp
hefyd yn cytuno i gyfres o gamau gweithredu tymor byr, uniongyrchol i fynd i'r
afael â'r broblem bresennol ac i edrych hefyd ar gamau gweithredu mwy
strategol, tymor hwy, i sicrhau nad oedd y problemau'n digwydd eto; roedd pawb yn deall na fyddai hon yn broses
dros nos ac y byddai'n cymryd cryn adnoddau ac ymdrech gan bob partner.
Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod angen gweithio hefyd i wella canfyddiad y cyhoedd o'r dref gan fod
rhai materion yn cael eu gwaethygu gan gyfryngau cymdeithasol ac ar adegau'n
gwneud i broblemau ymddangos yn waeth nag yr oeddent.
Rhoddwyd manylion i'r Pwyllgor
mewn perthynas â rhai o'r camau a gymerwyd yn syth:
·
Gofynnwyd i gydweithwyr trwyddedu ymweld â phob tŷ
trwyddedig lleol yng nghanol y dref, i'w hatgoffa ynghylch gwerthu'n gyfrifol
a'u briffio ynghylch y problemau parhaus;
·
Roedd Opsiynau Tai a HDC wedi bod yn cyfarfod yn
rheolaidd i drafod a nodi'r unigolion sy'n peri'r pryder mwyaf, ac maent yn
parhau i wneud hynny, a allai hefyd ganiatáu i gynlluniau gweithredu unigol
gael eu datblygu pe bai angen;
·
Rhagor o Heddlu yn y dref;
·
Cyhoeddwyd nifer o ddatganiadau i'r wasg a negeseuon
cyfryngau cymdeithasol i annog adrodd drwy’r sianeli cywir er mwyn caniatáu i
bob partner gael adlewyrchiad cywir o bryderon a chael tystiolaeth gadarn i
gymryd camau pellach yn erbyn y rhai sy'n achosi'r problemau;
·
Archwiliodd swyddogion Orchmynion Gwasgaru adran 35,
Rhybuddion Diogelu Cymunedol, Hysbysiadau Diogelu Cymunedol a Gorchmynion
Ymddygiad Troseddol ar gyfer y rheini a nodwyd. Esboniwyd proses y gwahanol
rybuddion, hysbysiadau a gorchmynion, ond ynghyd â hyn, ychwanegodd Swyddogion
eu bod hefyd yn ceisio sicrhau bod y bobl sy'n peri pryder yn cael y cyfle i
gael gafael ar y cymorth cywir er mwyn ceisio gwneud newidiadau cadarnhaol;
·
Cynnig mwy o weithgareddau dargyfeiriol a chymorth
allgymorth i'r rheini sy'n cael eu lletya yng ngwesty'r Ambassador. Nodwyd bod
y darn penodol hwn o waith wedi bod yn heriol, fel yr oedd yn ystod uchafbwynt
y pandemig lle'r oedd y trefniadau gweithio gartref a'r sefyllfa iechyd a
diogelwch gyffredinol ynghylch trosglwyddo'r feirws yn effeithio'n fawr ar
wasanaethau; Roedd WCADA a gwasanaethau eraill wedi ymchwilio i hyn er mwyn
ceisio rhoi gweithgareddau amrywiol i bobl ymgymryd â hwy yn ystod y dydd.
Darparodd Swyddogion wybodaeth
mewn perthynas â rhai o'r camau gweithredu tymor hwy y cytunwyd arnynt:
·
Gweithio gyda chydweithwyr ehangach yn y cyngor ar y
Rhaglen Adfywio ar gyfer Canol Tref Castell-nedd. Soniwyd mai un o'r syniadau o
fewn hyn oedd gwella golwg a theimlad cyffredinol y dref i annog eraill i
ymweld â chanol y dref a'i wneud yn lle gwell i'r trigolion fyw, gweithio a
chymdeithasu;
·
Cyflogi rhagor o staff canol y dref i gynyddu presenoldeb
yng nghanol y dref;
·
Ystyried ymgyrchoedd tymor hwy gan yr Heddlu i fynd i'r
afael â'r materion;
·
Siarad â Llywodraeth Cymru am gyllid i gynyddu
darpariaeth llety dros dro Opsiynau Tai fel bod preswylwyr yn fwy gwasgaredig.
Yn dilyn cychwyniad y pandemig, esboniwyd bod Llywodraeth Cymru’n mynnu bod pob
Awdurdod Lleol yn lletya unrhyw un a oedd yn ddigartref ar y pryd; roedd problemau
ynghylch hyn gan nad oedd gan y cyngor ddigon o adeiladau i ddarparu ar gyfer
nifer y bobl a oedd yn ddigartref ac roedd y GIG yn defnyddio llawer o westai
lleol ar gyfer y rheini a oedd yn gweithio ar y rheng flaen. Nodwyd bod
Gwesty'r Ambassador yng Nghastell-nedd wedi cytuno i ddarparu ar gyfer y rheini
yr oedd angen arnynt le i aros, a'i fod wedi bod yn gwneud hyn ers cyflwyno'r
ddeddfwriaeth hon; Parhaodd Opsiynau Tai i bwyso ar Lywodraeth Cymru am gyllid
er mwyn darparu opsiynau llety eraill;
·
Datblygu a gweithredu Cynllun Cyfathrebu cadarn i ledaenu
negeseuon cadarnhaol am y dref, ond hefyd i hyrwyddo dulliau adrodd;
·
Ailddechrau digwyddiadau ymgysylltu, cyn gynted ag y mae
cyfyngiadau COVID yn caniatáu, i sicrhau presenoldeb yn y dref, caniatáu lle priodol
i breswylwyr a busnesau rannu eu pryderon a gweithredu fel rhwystr i'r rheini
sydd wrth wraidd y problemau. Nodwyd mai rhan fawr o waith y Tîm Diogelwch
Cymunedol oedd mynd allan ac yn ymgysylltu â'r cyhoedd; sylwodd y tîm ar golled
enfawr yn sgîl peidio â gallu gwneud hyn oherwydd y pandemig;
·
Ailwampio ac ehangu’r Bartneriaeth Lleihau Troseddau
Busnes (PLlTB) bresennol i edrych ar waharddiadau pellach ar gyfer troseddwyr
cyson, a mwy o gefnogaeth i fasnachwyr. Dywedwyd y bydd aelodau'r panel, yn y
cyfarfodydd hyn, yn edrych ar y troseddwyr cyson a'u troseddau ac yn penderfynu
a ddylid gwahardd pobl o safleoedd unigol; gyda chymorth yr Heddlu ac Aelodau
Lleol, gellid hyrwyddo'r offeryn effeithiol hwn ymhellach.
Hysbyswyd yr Aelodau fod y
grŵp, erbyn mis Ionawr 2021, wedi penderfynu cyfarfod yn llai aml gan fod
problemau wedi gwella, ond bod gwaith yn parhau y tu ôl i'r llenni; yn dilyn
hyn, digwyddodd dau ddigwyddiad unigryw yn y dref - cadarnhawyd nad oedd y ddau
yn gysylltiedig â gwesty'r Ambassador, ond cawsant lawer o sylw ar gyfryngau
cymdeithasol ac effeithiwyd gryn dipyn ar waith y grŵp. Tynnodd Swyddogion
sylw at y ffaith bod canfyddiad y cyhoedd o'r dref wedi gwaethygu ar y pryd, a
phenderfynodd y grŵp gynyddu amlder y cyfarfodydd er mwyn ailymweld â'r
camau cychwynnol a chyflwyno camau gweithredu tymor hwy, lle bo hynny'n bosib.
Nodwyd bod Heddlu De Cymru wedyn wedi penderfynu lansio Ymgyrch Lileum ym mis
Mawrth 2021 i helpu gyda'r problemau dan sylw, ac roedd yn dal i fynd yn ei
blaen ar hyn o bryd.
Soniwyd y bu digwyddiad YG
arall yng Nghanol Tref Castell-nedd yn ystod yr wythnos cyn cyfarfod yr
Is-bwyllgor Craffu ar Ddiogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd, a gafodd lawer
o sylw ar gyfryngau cymdeithasol unwaith eto; roedd yr wybodaeth ganlynol mewn
perthynas â'r sefyllfa ar y pryd allan o'i chyd-destun ychydig oherwydd y
trydydd digwyddiad hwn.
O ran y sefyllfa bresennol,
roedd Swyddogion wedi derbyn adroddiadau gan fasnachwyr a phreswylwyr am
welliant amlwg dros y ddau fis diwethaf a chadarnhawyd bod mwy o bresenoldeb
gan yr Heddlu. Hysbyswyd yr Aelodau fod Ymgyrch Lileum wedi arwain at gynnydd
mewn adroddiadau drwy’r sianeli cywir, a oedd yn cynnwys yr Heddlu’n cofnodi
digwyddiadau wrth batrolio canol y dref ac annog busnesau a phreswylwyr yn
rheolaidd i roi gwybod am eu pryderon; roedd adroddiadau'n gostwng yn raddol.
Nodwyd bod masnachwyr yn arbennig yn dweud wrth yr Heddlu a staff y cyngor am
'deimlad' gwell yn y dref yn ystod yr wythnosau diwethaf; ac roedd aelodaeth y
PLlTB yn cynyddu, gyda thaflenni hyrwyddol diwygiedig ac ymweliadau rheolaidd â
masnachwyr
Trafodwyd y pwyntiau canlynol
fel y camau nesaf i'r cyngor a'i bartneriaid wrth geisio datrys y problemau
gydag YG:
·
Bydd Ymgyrch Lileum yn parhau, gyda llinynnau ychwanegol,
i sicrhau yr ymchwilir i gyfleoedd am gymorth cyn cymryd camau pellach;
·
Bydd HDC ac Opsiynau Tai yn parhau i gyfarfod i drafod y
rheini sy'n peri'r pryder mwyaf. Roedd Rheolwr y Gwasanaeth Opsiynau Tai wedi
cadarnhau bod 31 o breswylwyr yng Ngwesty'r Ambassador ar hyn o bryd, a oedd yn
llawer llai na'r hyn a fu o'r blaen;
·
Roedd y PLlTB a Thrwyddedu yn ystyried a fyddai'n bosib
ei gwneud yn ofynnol i dai trwyddedig ymuno â chynllun y PLlTB, os yw'n
briodol;
·
Bydd gweithredu'r Cynllun Cyfathrebiadau yn parhau a bydd
yn lansio gwedudalen #CastellNeddArYCyd, lle gall preswylwyr a masnachwyr weld
y datblygiadau diweddaraf ar y gwaith sy'n cael ei wneud a bydd yn llwyfan
arall i Swyddogion gadw mewn cysylltiad â'r cyhoedd;
·
Bydd sesiynau briffio rheolaidd/wythnosol yn parhau rhwng
Swyddogion a Chynghorwyr priodol;
·
Bydd gwaith i adfywio'r dref yn parhau;
·
Roedd digwyddiadau ymgysylltu Diogelwch Cymunedol wedi
ailddechrau a byddant yn parhau, os yw cyfyngiadau COVID yn caniatáu;
·
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu newidiadau i
ddeddfwriaeth ddigartrefedd a weithredwyd ar ddechrau'r pandemig;
·
Bydd y cymorth allgymorth yn parhau i'r rheini sy'n cael
cymorth gan WCADA a Byddin yr Iachawdwriaeth;
·
Gyda rhagor o fusnesau'n ymuno â'r PLlTB, gallai canol
tref Castell-nedd ddod yn 'Barth Gwahardd' gydag agwedd 'dim goddefgarwch' i
ymddygiad gwrthgymdeithasol; po fwyaf o fusnesau yn y cynllun, mwyaf effeithiol
y daw.
Rhoddodd Arolygydd Heddlu De
Cymru ar gyfer Tîm Cymdogaeth Castell-nedd fanylion i'r Pwyllgor am y troseddau
a gofnodwyd yn y wardiau sy'n gysylltiedig â Chanol Tref Castell-nedd; roedd y
manylion hyn yn cynnwys ystadegau o'r chwe mis diwethaf ac yn eu cymharu â data
o'r pum mlynedd diwethaf.
Amlygwyd bod y gyfradd
troseddu a gofnodwyd yng Nghastell-nedd ar ei hisaf ar gyfer chwe mis cyntaf
2021 wrth edrych yn ôl ar yr un cyfnodau o'r pum mlynedd diwethaf. Hysbyswyd yr
Aelodau fod y rhan fwyaf o'r mathau o droseddau yn dangos gostyngiad mewn
troseddu; cafwyd cynnydd ym meddiant cyffuriau, ond roedd hyn yn golygu bod
cynnydd mewn rhagweithioldeb yn y Ward ac felly nid oedd y cynnydd yn y math
hwn o drosedd yn peri pryder.
O ran YG, dywedwyd bod cynnydd
ymylol o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol; fodd bynnag, roedd y data hwn yn
ystyried digwyddiadau sy'n gysylltiedig â COVID, a oedd wedi bod yn gyffredin
dros y flwyddyn ddiwethaf, a phan dynnwyd y digwyddiadau hyn o'r data, bu
gostyngiad yn yr YG am yr un cyfnod o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Gan
nad oedd y data'n dangos cynnydd sylweddol o ran YG yng nghanol y dref, soniwyd
y gallai'r achos o bryder fod yn gysylltiedig â chanfyddiad negyddol o'r dref
neu gallai fod problemau gyda thystion nad oeddent yn adrodd am ddigwyddiadau.
Darparwyd rhagor o wybodaeth
am Ymgyrch Lileum; fe'i lansiwyd ar ddechrau mis Ebrill 2021 ac ers hynny,
roedd aelodau’r Heddlu wedi bod yn patrolio yn y dref bob dydd o'r wythnos.
Nodwyd mai naill ai Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PSCO), Swyddogion
yr Heddlu neu gyfuniad o'r ddau oedd y rhain; oherwydd adnoddau cyfyngedig, nid
oedd modd patrolio canol y dref 24/7, ond roedd yr Heddlu'n edrych ar batrymau
digwyddiadau blaenorol ac yn ceisio sicrhau bod rhywun ar gael ar yr adegau
cywir. Sicrhawyd y Pwyllgor y byddai'r adnodd hwn yng nghanol y dref yn parhau.
Yn ogystal, cyflawnwyd cyllid
pellach i gael adnoddau ychwanegol yn y dref, oherwydd ar adegau bu'n rhaid i'r
Heddlu ddefnyddio adnoddau o Wardiau eraill; roedd adnoddau'r Heddlu hefyd
wedi'u defnyddio gan gynnwys yr adran farchogol ac roedd Ymgyrch Sceptre wedi
bod ar waith fel ymgyrch dillad plaen a oedd wedi bod yn llwyddiannus iawn, yn
enwedig o ran atafaelu cyffuriau ac arfau. Cadarnhawyd y byddai'r adnoddau hyn
hefyd yn parhau i gael eu defnyddio.
Hysbyswyd yr Aelodau fod 99 o
atgyfeiriadau YG wedi'u cyflwyno ers i Ymgyrch Lileum ddechrau, a bod y rheini
y nodwyd eu bod yn droseddwyr cyson wedi cael Rhybuddion Diogelu Cymunedol a
oedd yn gosod amodau arnynt; roedd y rhybuddion hyn wedi bod yn adnodd llwyddiannus.
Dywedwyd mai dim ond un unigolyn oedd wedi symud y tu hwnt i'r pwynt hwnnw yn y
broses i dderbyn Hysbysiad Diogelu'r Gymuned, a'i fod wedi cael ei arestio sawl
gwaith am dorri'r hysbysiad hwnnw; Roedd yr Heddlu bellach yn ymchwilio i
Orchymyn Ymddygiad Troseddol ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Ychwanegwyd bod yr
Heddlu'n nodi ac yn targedu'r prif rai sy'n gyfrifol ac yn rhoi'r mesurau
priodol ar waith i geisio lliniaru eu hymddygiad; Roedd 48 o unigolion wedi
cael eu harestio a chafwyd nifer o ganlyniadau eraill gan gynnwys atafaeliadau
alcohol.
Dywedwyd bod y problemau yr
oedd yr Heddlu'n eu gweld yng Nghanol Tref Castell-nedd yn cael eu hadlewyrchu
mewn mannau eraill mewn trefi tebyg ar draws De Cymru; Roedd HDC wedi bod yn
gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill i fynd i'r afael â phroblemau
parhaus. Tynnwyd sylw at y ffaith y gwnaed llawer o ymdrech i geisio cael pobl
i roi gwybod am ddigwyddiadau, gan fod cyfryngau cymdeithasol yn cael eu
defnyddio llawer ar hyn o bryd i rannu fideos o ddigwyddiadau etc. ac nid dyma
un o'r ffyrdd ffurfiol o adrodd am ddigwyddiadau. Cadarnhawyd bod HDC wedi
dosbarthu gwybodaeth i'r cyhoedd yn ystod yr wythnosau diwethaf mewn perthynas
â'r gwahanol ffyrdd o gysylltu â'r Heddlu i roi gwybod am ddigwyddiadau; roedd
angen cynyddu hyn er mwyn cael darlun clir ar draws Castell-nedd a sicrhau bod
y digwyddiadau y mae'r cyhoedd yn dyst iddynt yn cael eu dwyn i sylw'r
Heddlu.
Soniwyd y bydd HDC, yn ystod
yr wythnosau nesaf, yn cyflwyno cais (ar y cyd â'r Awdurdod Lleol) i'r Swyddfa
Gartref ar gyfer cyllid rownd tri Strydoedd Mwy Diogel, er mwyn gwella
diogelwch yng nghanol trefi Castell-nedd a Phort Talbot.
Diweddarwyd y Pwyllgor ar y
pwyntiau canlynol mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau, gan fod y gwaith
hwn yn cysylltu'n agos ag YG:
·
Yn ystod y pandemig, comisiynodd y Bwrdd Cynllunio Ardal
sefydliadau fel WACADA i gwblhau mwy o waith allgymorth i geisio ymgysylltu'n
well â phobl a helpu pobl i gael gwasanaethau'n gynt, er mwyn iddynt gael y
cymorth yr oedd ei angen arnynt. Roedd hyn wedi bod yn effeithiol ac yn
rhywbeth y gobeithiwyd y byddai'n parhau;
·
Roedd adolygiad pellach yn cael ei gynnal ar sut y gall
pobl gael mynediad at wasanaethau, gan fod Swyddogion yn ymwybodol nad oedd hyn
yn hawdd i unigolion ar adegau. Y gobaith oedd y bydd y gwaith hwn yn cael ei
gwblhau erbyn cyfnod yr hydref;
·
Roedd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi
llwyddo i gael cyllid ychwanegol mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau a
gweithgareddau dargyfeiriol;
·
Penodwyd ymgynghorydd yn ddiweddar gan y BCA i ddechrau
gweithio ar y prosiect trawsnewid mawr a oedd yn canolbwyntio ar geisio sicrhau
bod y bobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau’n cael y cymorth a'r gefnogaeth
sydd eu hangen arnynt.
Gofynnodd yr Aelodau faint o
bobl ddigartref oedd yn cael eu lletya yng Ngwesty'r Ambassador ar hyn o bryd
ac a oeddent i gyd yn lleol i Gastell-nedd Port Talbot. Cadarnhawyd bod 31 o
bobl yn cael eu lletya yn y gwesty ar hyn o bryd,; roedd modd lletya dros 40 o
bobl ar y mwyaf. Dywedodd swyddogion, yn ôl y ddeddfwriaeth ddigartrefedd a
gyflwynwyd ar ddechrau'r pandemig, ei bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol
ddarparu ar gyfer y rheini a oedd â chysylltiad lleol â'r ardal yn unig; felly
dim ond pobl a oedd yn dod o'r ardal neu a oedd â chysylltiadau teuluol yng
Nghastell-nedd Port Talbot oedd yn cael eu lletya. Soniwyd bod rhai eithriadau
i hyn, er enghraifft rhywun a oedd yn ffoi rhag trais yn y cartref gan y byddai
dyletswydd i sicrhau ei ddiogelwch.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Tîm
Diogelwch Cymunedol wedi gweithio'n agos gydag Opsiynau Tai, a gynigiodd eu
gwasanaeth i ddarparu ar gyfer nifer o wahanol grwpiau o bobl gan gynnwys y
rheini a oedd wedi colli eu swyddi, y rheini y mae eu perthynas wedi chwalu, yn
ogystal â'r rheini a oedd yn ddigartref; cafwyd rhai straeon llwyddiant
gwirioneddol, lle'r oedd unigolion wedi cael y cymorth a'r gefnogaeth yr oedd
eu hangen arnynt ac wedi mynd ymlaen i sicrhau tenantiaeth, gan roi cyfleoedd
newydd iddynt.
Cynhaliwyd trafodaeth mewn
perthynas â chanfyddiad y cyhoedd a materion yn ymwneud ag adrodd; roedd angen
cwblhau rhagor o waith ynghylch yr agwedd gyfathrebu er mwyn gwneud i'r cyhoedd
deimlo'n hyderus i adrodd am faterion a rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o'r
broses adrodd. Awgrymwyd y byddai'n ddefnyddiol hysbysu'r rheini sy'n rhoi
gwybod am faterion am y cynnydd o ran y digwyddiad, er enghraifft beth oedd y
canlyniad. Soniodd Swyddogion y gallent hefyd roi gwybodaeth fwy cyffredinol
i'r cyhoedd, er enghraifft yr hyn sy'n digwydd pan fydd rhywun yn ffonio 101;
Roedd Swyddogion yn cael sgyrsiau rheolaidd am adborth y cyhoedd a sylwadau a
dderbyniwyd, a oedd yn eu helpu gyda'u gwaith.
Amlygwyd bod yr Heddlu wedi
cynnal llawer o wahanol ymgyrchoedd ar hyd y blynyddoedd, ond roedd yn amlwg
bod angen ateb cynaliadwy hirdymor ar gyfer y problemau mewn perthynas ag YG er
mwyn atal/lleihau'r digwyddiadau. Esboniodd swyddogion fod hyn yn rhan o'r
cynllun ehangach, gan weithio ar y cyd â'r gwahanol asiantaethau; roedd y Prif
Weithredwr wedi dangos diddordeb allweddol yn y mater hwn ac wedi gosod yr her
i bob partner edrych ar atebion hirdymor mwy cynaliadwy. Ychwanegwyd bod gan
bawb gyfrifoldeb a rennir wrth helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn ac roedd
yn bwysig ceisio dod o hyd i'r cydbwysedd cywir; delio â'r problemau presennol
dan sylw, gan ystyried yr atebion hirdymor a bod yn ymwybodol y cafwyd toriadau
i wasanaethau, a gafodd effaith sylweddol ar yr hyn y gellid ei gyflawni.
Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn parhau i wneud cais am gyllid ac yn pwyso
ar Lywodraeth Cymru am arian ychwanegol.
Gofynnwyd i swyddogion a oedd
digon o adnoddau a gwaith yn cael ei wneud yng Nghanol Tref Port Talbot i
geisio mynd i'r afael â phroblemau YG. Sicrhawyd yr Aelodau bod swyddogion yn
gwneud gwaith mewn perthynas ag YG ar draws y Fwrdeistref Sirol gyfan ac yn
ymwybodol iawn o'r problemau ar draws Castell-nedd Port Talbot gyfan; roedd
gwahanol llinynnau gwaith yn parhau ym mhob maes ac roedd nifer o weithrediadau
mewnol yn cael eu cynnal i dargedu rhai o'r problemau. Tynnwyd sylw at y ffaith
bod y Dirprwy Arweinydd, Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Swyddog
Troseddau Busnes wedi ymweld â Chanol Tref Port Talbot yn ddiweddar i siarad â
busnesau am YG. Hysbyswyd yr Aelodau nad yw'r Heddlu'n cymryd unrhyw adnoddau rhagweithiol
o un canol tref, i'w defnyddio yn y llall; roedd adnoddau penodol ar gyfer pob
un.
Mewn perthynas â'r 'Parth
Gwahardd' a grybwyllwyd yn flaenorol gydag agwedd 'dim goddefgarwch' i YG, y
gellid ei gyflawni gan fusnesau sy'n ymuno â'r PLlTB, gofynnwyd a oedd
cynlluniau i ehangu hyn i Ganol Tref Port Talbot. Dywedodd swyddogion y byddai
unrhyw ddull a ddefnyddiwyd yng Nghanol Tref Castell-nedd yn ddull gweithredu
profedig y gellid ei ddefnyddio mewn gwahanol leoliadau eraill; roedd y Swyddog
Troseddau Busnes yn ymweld â Chanol Tref Port Talbot yn rheolaidd i hyrwyddo'r
PLlTB a'i fanteision, a cheisio annog busnesau i ymrwymo iddo.
Gofynnwyd a oedd unrhyw
rwystrau wrth ymrwymo i'r cynllun PLlTB. Cadarnhaodd swyddogion fod cost i'r
cynllun, ond roedd nifer o opsiynau gwahanol i fusnesau ddewis ohonynt. Roedd
swyddogion yn ymwybodol bod gan y Fwrdeistref Sirol lawer o fasnachwyr bach,
annibynnol ym mhob un o’i ganolau trefi ac roeddent am sicrhau bod rhywbeth a
oedd yn hygyrch i'r masnachwyr mwy, yr un mor hygyrch i'r masnachwyr llai.
Soniwyd bod y PLlTB yn rhan o rwydwaith cenedlaethol llawer ehangach ac roedd
cynlluniau ar draws y wlad yng Nghymru a Lloegr; Roedd swyddogion yn awyddus i
ddysgu o fod yn rhan o'r rhwydwaith hwnnw, a sut roedd eraill yn delio â hyn.
Byddai masnachwyr yn cael eu hannog i roi gwybod i swyddogion am unrhyw
rwystrau a oedd yn eu hatal rhag cofrestru, gan y gallai fod atebion a/neu
addasiadau i'r cynllun.
Holodd yr Aelodau a oedd
ystadegau YG ar gael ar gyfer pob ward o'r misoedd blaenorol ac a ellid
dosbarthu'r ystadegau hyn i'r Aelodau. Esboniodd Swyddogion eu bod wedi derbyn
adroddiadau chwarterol ar gyfer yr holl ystadegau a gyflwynwyd i'r Bwrdd
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol. Cytunwyd y byddai'r ystadegau YG yn cael eu rhannu
ag Aelodau, ond gan gadw mewn cof nad oedd yr ystadegau o reidrwydd yn
adlewyrchu gwir raddfa'r broblem gan fod y broblem diffyg adrodd yn broblem
enfawr yn gyffredinol.
Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
y prif droseddau YG, yr oedd yr Heddlu'n ymwybodol ohonynt, a oedd yn digwydd
yng Nghanol Tref Castell-nedd; wrth edrych ar y materion yr adroddwyd amdanynt
dros wythnos gyfartalog, roedd y troseddau yr adroddwyd amdanynt yn cynnwys
dwyn o siopau, ymladd ac unigolion dan ddylanwad yn achosi YG. Soniwyd bod
digwyddiadau YG ar adegau wedi cynyddu i aflonyddwch lefel isel ar y strydoedd.
Mewn perthynas â Llinellau Sirol, dywedwyd bod y digwyddiadau'n isel; Roedd yr
Heddlu'n parhau i weithio i sicrhau bod Llinellau Sirol yn cael eu cadw yn y
bae yn yr ardal.
Gofynnodd yr Aelodau ai'r un
grŵp o bobl oedd yn cyflawni troseddau YG ac a oedd digon o bwerau i fynd
i'r afael â'r problemau hyn. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith nad oedd pob
digwyddiad yn gysylltiedig â'r rheini a oedd yn aros yng Ngwesty'r Ambassador;
roedd yr Heddlu wedi cadarnhau nad oedd yr unigolion a oedd yn rhan o rai o'r
digwyddiadau proffil uwch yn hysbys i'r Gwasanaeth Opsiynau Tai. Esboniwyd nad
oedd y 99 o atgyfeiriadau a grybwyllwyd yn flaenorol yn 99 o unigolion gwahanol
ond yn hytrach cyfanswm nifer yr atgyfeiriadau, y gallai fod rhai ohonynt wedi
cael eu hatgyfeirio mwy nag unwaith; roedd yr Heddlu'n gallu nodi’r rheini sy'n
troseddu dro ar ôl tro o'r atgyfeiriadau a'r rheini a gafodd Rybuddion Diogelu
Cymunedol, Hysbysiadau Diogelu Cymunedol a Gorchmynion Ymddygiad Troseddol.
Ychwanegwyd bod unigolion yn y dref weithiau nad oeddent yn cyflwyno’u hunain
yn briodol, ond nad oeddent o reidrwydd yn cyflawni unrhyw droseddau; roedd yn
bwysig eu plismona'n gymesur.
Gofynnwyd i Swyddogion a oedd
'Stopio a Chwilio' yn effeithiol, a chadarnhawyd ei fod; roedd yr Heddlu
arestio pobl yn ystod yr wythnosau diwethaf gan ddefnyddio'r dull hwn.
Hysbyswyd yr Aelodau fod Ymgyrch Sceptre yn effeithiol iawn gyda hyn ac yn nodi
unigolion â chyffuriau.
Holwyd a fyddai'n fuddiol
darparu ar gyfer y digartref mewn adeilad tebyg i'r Ganolfan L ac A yn Goetre,
Port Talbot gan fod hon mewn ardal wledig. Esboniodd Swyddogion i'r Pwyllgor
fod y Gwasanaeth Opsiynau Tai yn ei chael hi'n anodd cael gwestai a darpariaethau
llety lleol i ymgysylltu â hwy; ar hyn o bryd, yr unig opsiwn ar gyfer lletya
pobl ddigartref oedd yng Ngwesty'r Ambassador yng Nghastell-nedd a'r Ganolfan L
ac A ym Mhort Talbot. Ychwanegwyd, hyd nes i Lywodraeth Cymru newid ei
chyfarwyddeb ar letya pobl, fod y gwasanaethau hynny'n debygol o aros.
Hysbyswyd yr Aelodau fod gan y ganolfan L ac A ei chyfres ei hun o broblemau a
phroblemau tebyg i'r rhai a oedd yn digwydd yng Nghanol Tref Castell-nedd, yn
ogystal â lle cyfyngedig; yn ystod yr wythnosau nesaf, roedd y Tîm Diogelwch
Cymunedol yn bwriadu ymgysylltu â'r preswylwyr o amgylch yr ardal hon a siarad
â nhw am atal troseddu ac adrodd am YG. Roedd angen parhau i gysylltu â
Llywodraeth Cymru ynghylch newidiadau i'w deddfwriaeth ddigartrefedd ac egluro'r
pwysau yr oedd yn ei rhoi ar Awdurdodau Lleol i ddarparu llety pan oedd yr
opsiynau'n gyfyngedig; fel arfer byddai llety arall ar gael, megis lleoliadau
Gwely a Brecwast yn Abertawe, ond ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth, roedd pob
Bwrdeistref Sirol yng Nghymru yn gorfod ufuddhau iddi ac yn gweld eu pwysau eu
hunain.
Dywedodd yr Aelodau fod angen
newid naratif y math hwn o waith er mwyn i'r cyhoedd gael dealltwriaeth glir
o'r heriau yr oedd y cyngor a'i bartneriaid yn eu hwynebu a pham roedd yr
heriau hyn yn gyffredin; cyfeiriwyd at y toriadau niferus i wasanaethau a sut
roedd hyn wedi effeithio ar y gwaith.
Roedd yn bwysig nodi, wrth
drafod newid canfyddiad y cyhoedd, nad oedd Swyddogion yn ceisio dweud nad oedd
unrhyw faterion YG, ond yn hytrach roeddent yn awyddus i dynnu sylw'r cyhoedd
at y gwahanol ffrydiau gwaith a oedd yn cael eu cyflawni er mwyn mynd i'r afael
â'r problemau dan sylw; canfyddiad y cyhoedd o bryd i'w gilydd oedd nad oedd y
cyngor yn gwneud unrhyw beth i geisio atal y problemau hyn rhag digwydd.
Ychwanegwyd ei bod hefyd yn bwysig sicrhau bod gwybodaeth ffeithiol yn cael ei
chyfleu i'r cyhoedd er mwyn atal sïon. Er mwyn ceisio setlo canfyddiad y
cyhoedd a'r gwahanol sïon a oedd wedi bod ynghylch y digwyddiadau diweddar, bu
Swyddog o fewn y Tîm Diogelwch Cymunedol yn monitro’u tudalen Facebook am
sylwadau ac yn darparu ymatebion priodol; roedd yr ymateb uniongyrchol i'r
sylwadau’n hanfodol er mwyn atal dyfalu a lleddfu pryderon.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod angen
rheoli disgwyliadau'r cyhoedd pan oeddent yn ffonio gwasanaeth 101 Heddlu De
Cymru. Eglurodd Arolygydd Heddlu De Cymru ar gyfer Tîm Cymdogaeth Castell-nedd
y broses o ymdrin â galwadau amrywiol, roedd rhai elfennau yn y broses yn
cynnwys asesiadau risg ac atgyfeiriadau i'r Tîm Datrys Digwyddiadau; roedd yr
Heddlu wedi cyhoeddi cyfryngau ar y mater hwn yn ddiweddar ac wedi mynegi os
yw'r alwad yn cael ei chofnodi ac yn ddilys, y byddai'n rhoi darlun iddynt o'r
digwyddiad yr adroddwyd amdano a fyddai'n helpu i benderfynu ar yr adnoddau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y cyfarfodydd
partneriaeth a grybwyllwyd yn flaenorol. Nodwyd bod gweithio mewn partneriaeth
a chyfathrebu’n bwysig iawn yn y gwaith hwn. Gofynnwyd i swyddogion a ellid
cynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor Craffu Diogelwch Cymunedol a
Diogelu'r Cyhoedd yn y cyfarfodydd hyn. Dywedwyd y gallai'r Cadeirydd a'r
Is-gadeirydd gymryd rhan, ond byddai angen gwirio'r llywodraethu ynghylch hyn
gyda Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.
O ran adrodd am ddigwyddiadau
i'r system ffôn 101, nodwyd bod preswylwyr wedi canfod bod y system hon yn
heriol gan nad oeddent bob amser yn gallu cael eu trosglwyddo i weithredwr a
bod ganddynt ddiffyg hyder yn y system ei hun. Dywedodd
Swyddogion fod dulliau eraill ar waith i adrodd am ddigwyddiadau, gan gynnwys
codau ar-lein a QR; roedd angen parhau i bwysleisio'r neges hon i'r cyhoedd i
hyrwyddo pob opsiwn. Soniwyd bod 101 yn llinell nad oedd yn llinell argyfwng
felly nid oedd angen ymateb brys; pe bai angen, byddai ffonio 999 yn ysgogi
ymateb brys. Hysbyswyd yr Aelodau fod gwybodaeth am hyn wedi'i hyrwyddo ar
gyfryngau cymdeithasol yr wythnos diwethaf i roi gwybod i'r cyhoedd am y nifer
o ffyrdd o adrodd am ddigwyddiadau; Byddai swyddogion hefyd yn dosbarthu'r
wybodaeth hon i'r Aelodau.
Mynegodd yr Aelodau eu
pryderon ynglŷn â'r diffyg adnoddau a oedd ar gael yn gyffredinol i ddelio
â'r problemau YG parhaus, a thynnwyd sylw at y ffaith bod cael mwy o adnoddau
yn hanfodol yn y broses o fynd i'r afael â'r problemau. Soniwyd am ddigwyddiad
lle'r oedd yr Heddlu wedi cymryd gryn amser i gyrraedd safle mewn ymateb i
alwad brys 999, a oedd yn bryder arall i'r Aelodau. Dywedwyd bod yr Heddlu
lleol wedi cael pum Swyddog Heddlu ychwanegol o ganlyniad i adolygiadau a
gynhaliwyd ar y cyflenwad a'r galw; roedd yr Heddlu'n recriwtio'n drwm ar hyn o
bryd, ac yn gobeithio y byddai'r adnoddau ychwanegol yn cryfhau cadernid lleol.
O ran yr Heddlu'n cymryd amser i gyrraedd digwyddiad, tynnwyd sylw at y ffaith
nad dyma'r 'drefn arferol' ac yn gyffredinol byddai staff lleol yn cyrraedd
mewn llawer llai o amser; fodd bynnag, roedd adegau lle byddai oedi pe bai'r
staff mewn mannau eraill.
Cynhaliwyd trafodaeth mewn
perthynas â theledu cylch cyfyng (CCTV). Tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith y
gallent fod yn arf defnyddiol pe bai mwy o gamerâu ar waith i erlyn y rheini
sy'n troseddu. Nodwyd bod technoleg CCTV newydd yn cael ei chyflwyno'n
sylweddol; ar hyn o bryd roedd y broses dendro’n parhau. Ychwanegodd Swyddogion
y byddai hyn yn cynnwys technoleg newydd sbon, yn gwella cysylltiadau â'r
Heddlu a bydd y camerâu'n dangos delweddau gwell.
Soniwyd y gallai Gorchmynion
Diogelu Mannau Cyhoeddus helpu i ddelio â phroblemau YG parhaus yng nghanol y
dref. Cadarnhaodd Swyddogion fod y defnydd o GDMACau wedi'i drafod wrth feddwl
am ba opsiynau a dulliau y gellid eu rhoi ar waith i geisio helpu i leihau'r
problemau; fodd bynnag, roedd llawer o gamdybiaethau ynghylch eu
heffeithiolrwydd. Tynnwyd sylw at y ffaith pe bai GDMAC ar waith byddai angen
gosod arwyddion yn yr ardal benodol, gan nodi pa weithredoedd a waherddir;
byddai angen adnoddau yn yr ardal hon i sicrhau y glynir wrth y GDMAC, ond
roedd yr adnoddau'n gyfyngedig ar hyn o bryd. Soniwyd nad yr Heddlu fyddai'r
asiantaeth erlyn pe bai GDMACau yn cael eu rhoi ar waith; yn hytrach
cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol fyddai hynny. Hysbyswyd y Pwyllgor mai pryder
arall gyda GDMACau oedd eu bod yn tueddu i ddadleoli'r broblem gan y byddant yn
datrys y broblem mewn un lle arbennig, ond yn creu un mewn man arall.
Ychwanegwyd y gallent hefyd fod yn rhwystr i bobl a busnesau eraill sydd eisiau
dod i ganol y dref. Cadarnhaodd Swyddogion y byddant yn parhau i archwilio'r
holl opsiynau posib, ond roedd yn hanfodol ystyried manteision, anfanteision ac
effeithiolrwydd y gwahanol ddulliau y gellid eu defnyddio. Cytunwyd y bydd y
Prif Swyddog Diogelwch Cymunedol yn paratoi nodyn briffio i aelodau ar
ddefnyddio GDMACau.
Diolchwyd i'r Swyddogion a
chydweithwyr yr Heddlu am eu cyflwyniad a'u gwaith caled parhaus gyda'r mater
hwn.
Dogfennau ategol: