Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 157 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1
Hydref 2021 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Cyhoeddiadau Swyddogion Cofnodion: Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau y byddant yn
rhoi'r diweddaraf ar gais i'r Swyddfa Gartref am gyllid Mannau Diogel yn ystod y
cyfarfod craffu ym mis Rhagfyr. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf roedd y cais
wedi bod yn aflwyddiannus. Roedd swyddogion yn obeithiol y byddai'r adroddiad
yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor yn y flwyddyn newydd. |
|
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol - Diweddariad ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn CNPT PDF 322 KB Cofnodion: Rhoddodd swyddogion y diweddaraf i aelodau ynghylch
ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Trafodwyd y
byddai'r cyflwyniad yn cael ei gylchredeg i'r holl aelodau er mwyn iddynt weld
yr hyn a oedd wedi digwydd yn eu wardiau. Rhoddodd Heddlu De Cymru ddiweddariad am ymddygiad
gwrthgymdeithasol a'r ffigurau yng Nghastell-nedd Port Talbot, a oedd yn edrych
yn dda. O fis Ebrill tan fis Hydref, cafwyd gostyngiad o 36%, yn fwy penodol
yng nghanol y dref lle cafwyd gostyngiad o 22.8%. Cafwyd gostyngiad ym mhob
ward heblaw am ddwy ohonynt, sef Pontardawe lle bu cynnydd o 10.4% a hefyd y
Creunant. Roedd y gwaith yng nghanol y dref wedi bod yn wych, a diolchwyd i
bawb am eu gwaith caled. Ers i Heddlu De Cymru gynyddu eu presenoldeb yng
nghanol y dref, cafwyd cyfanswm o 137 o atgyfeiriadau YG, 75 o hysbysiadau
Is-adran 35, 81 o arestiadau, 10 o hysbysiadau rhybuddio yn erbyn canabis, 4
atafaeliad alcohol a 92 achos o stopio a chwilio. Rhoddodd Heddlu De Cymru ddiweddariad ar ardal Port
Talbot. Ym mis Awst 2021, roedd HDC wedi derbyn 212 o alwadau am ymddygiad
gwrthgymdeithasol, roedd 50 ohonynt yn ymwneud â chanol y dref, ac ym mis Medi
cafwyd gostyngiad yn y rhain a chyfanswm o 112 o alwadau. Ym mis Hydref roedd 8
galwad am ganol y dref. Roedd aelodau'n pryderu'n fawr am ardal ar gyffiniau
canol tref Castell-nedd, lle'r oedd aelodau o'r cyhoedd yn camymddwyn.
Gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw ffordd o fynd i'r afael â hyn gan fod y
preswylwyr a'r tenantiaid yn pryderu. Roedd HDC yn ymwybodol o hyn, a dywedwyd
wrth yr aelodau fod hyn yn flaenoriaeth a'u bod yn trafod â'r Awdurdod Lleol
orchymyn cau posib ar gyfer yr eiddo. Sicrhawyd aelodau gan HDC eu bod yn deall
yr effaith yr oedd yn ei chael ar y gymuned a'u bod yn rhoi eu hymdrechion
llawn i wneud rhywbeth cadarnhaol a chynaliadwy i ymdrin â hyn. Gofynnodd yr aelodau, mewn perthynas â Heol yr
Orsaf, pa fath o waith y mae'r heddlu'n ei wneud gyda'r landlord. Dywedodd HDC
bod yr holl eiddo yno’n dai cymdeithasol a'u bod yn gweithio gydag asiantiaid
yn eu cylch. Gofynnodd yr aelodau am y meysydd parcio ym Mhort Talbot, gan fod y cyhoedd yn mynd iddynt gyda'r hwyr i chwarae cerddoriaeth etc. Mae aelodau wedi cael cyfarfod â'r tîm parcio ac roeddent yn ymchwilio i hyn ar draws yr ardal glan môr gyfan, ac nid mewn un maes parcio'n unig. Nododd y swyddogion bod yn rhaid rhoi'r un mesurau ar waith ym mhob maes parcio, nid yr un dan sylw’n unig, ac roeddent yn falch o glywed bod y mater yn cael ei drafod. Soniodd yr aelodau am blant wedi diflasu ar bethau mewn mannau - doedd dim digon o bethau iddynt eu gwneud yn yr ardal a dyma pam maent yn achosi problemau. Nododd swyddogion, oherwydd y pandemig nid yw Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi gallu ymgysylltu cymaint ag yr hoffent, a hefyd roedd y Swyddog Cyswllt ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cofnodion: Roedd angen nodi'r eitem hon. Roedd angen rhoi
gwybod i aelodau hefyd y byddai'r eitem cyllid Mannau Diogel CNPT yn cael ei
thynnu oddi ar y rhestr ar gyfer mis Rhagfyr 2021. |