Agenda item

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol - Diweddariad ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn CNPT

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion y diweddaraf i aelodau ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Trafodwyd y byddai'r cyflwyniad yn cael ei gylchredeg i'r holl aelodau er mwyn iddynt weld yr hyn a oedd wedi digwydd yn eu wardiau.

Rhoddodd Heddlu De Cymru ddiweddariad am ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r ffigurau yng Nghastell-nedd Port Talbot, a oedd yn edrych yn dda. O fis Ebrill tan fis Hydref, cafwyd gostyngiad o 36%, yn fwy penodol yng nghanol y dref lle cafwyd gostyngiad o 22.8%. Cafwyd gostyngiad ym mhob ward heblaw am ddwy ohonynt, sef Pontardawe lle bu cynnydd o 10.4% a hefyd y Creunant. Roedd y gwaith yng nghanol y dref wedi bod yn wych, a diolchwyd i bawb am eu gwaith caled.

Ers i Heddlu De Cymru gynyddu eu presenoldeb yng nghanol y dref, cafwyd cyfanswm o 137 o atgyfeiriadau YG, 75 o hysbysiadau Is-adran 35, 81 o arestiadau, 10 o hysbysiadau rhybuddio yn erbyn canabis, 4 atafaeliad alcohol a 92 achos o stopio a chwilio.

Rhoddodd Heddlu De Cymru ddiweddariad ar ardal Port Talbot. Ym mis Awst 2021, roedd HDC wedi derbyn 212 o alwadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol, roedd 50 ohonynt yn ymwneud â chanol y dref, ac ym mis Medi cafwyd gostyngiad yn y rhain a chyfanswm o 112 o alwadau. Ym mis Hydref roedd 8 galwad am ganol y dref.

 

Roedd aelodau'n pryderu'n fawr am ardal ar gyffiniau canol tref Castell-nedd, lle'r oedd aelodau o'r cyhoedd yn camymddwyn. Gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw ffordd o fynd i'r afael â hyn gan fod y preswylwyr a'r tenantiaid yn pryderu. Roedd HDC yn ymwybodol o hyn, a dywedwyd wrth yr aelodau fod hyn yn flaenoriaeth a'u bod yn trafod â'r Awdurdod Lleol orchymyn cau posib ar gyfer yr eiddo. Sicrhawyd aelodau gan HDC eu bod yn deall yr effaith yr oedd yn ei chael ar y gymuned a'u bod yn rhoi eu hymdrechion llawn i wneud rhywbeth cadarnhaol a chynaliadwy i ymdrin â hyn.

Gofynnodd yr aelodau, mewn perthynas â Heol yr Orsaf, pa fath o waith y mae'r heddlu'n ei wneud gyda'r landlord. Dywedodd HDC bod yr holl eiddo yno’n dai cymdeithasol a'u bod yn gweithio gydag asiantiaid yn eu cylch.

 

Gofynnodd yr aelodau am y meysydd parcio ym Mhort Talbot, gan fod y cyhoedd yn mynd iddynt gyda'r hwyr i chwarae cerddoriaeth etc. Mae aelodau wedi cael cyfarfod â'r tîm parcio ac roeddent yn ymchwilio i hyn ar draws yr ardal glan môr gyfan, ac nid mewn un maes parcio'n unig. Nododd y swyddogion bod yn rhaid rhoi'r un mesurau ar waith ym mhob maes parcio, nid yr un dan sylw’n unig, ac roeddent yn falch o glywed bod y mater yn cael ei drafod. Soniodd yr aelodau am blant wedi diflasu ar bethau mewn mannau - doedd dim digon o bethau iddynt eu gwneud yn yr ardal a dyma pam maent yn achosi problemau. Nododd swyddogion, oherwydd y pandemig nid yw Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi gallu ymgysylltu cymaint ag yr hoffent, a hefyd roedd y Swyddog Cyswllt Ysgolion wedi gadael, ac roedd hyn o ganlyniad wedi cael effaith fawr. Gyda nos galan gaeaf, noson tân gwyllt etc. roedd cynnydd bob tro mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gofynnodd aelodau beth oedd y ffordd orau o gysylltu â'r heddlu, a chlywsant yn flaenorol fod angen ffonio 101, defnyddio cyfryngau cymdeithasol neu ffonio 999 mewn argyfwng etc. Cadarnhaodd swyddogion y dylid defnyddio'r holl opsiynau a oedd wedi'u cyhoeddi ac a oedd ar gael.

Roedd HDC yn hapus i gael e-bost gan y cynghorwyr ar ddiwedd y mis yn rhoi'r diweddaraf iddynt ar yr hyn a oedd yn cael ei drafod yn eu grwpiau, fel dull adrodd ychwanegol.

Roedd yr aelodau am ddiolch i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a oedd yn gwasanaethu'r gymuned yn wych.

 

Dogfennau ategol: