Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 197 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2021 fel
cofnod gwir a chywir. |
|
Teledu Cylch Cyfyng: Datganiad Sefyllfa a'r Diweddaraf PDF 226 KB Cofnodion: Rhoddwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf i'r Pwyllgor am ddarpariaeth Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) yr
Awdurdodau Lleol. Hysbyswyd yr aelodau fod
teledu cylch cyfyng yn wasanaeth anstatudol, ond roedd y cyngor yn parhau i
fuddsoddi oherwydd pwysigrwydd mawr diogelwch cymunedol ar draws Castell-nedd
Port Talbot. Nodwyd hefyd fod y cyngor yn datblygu modelau gweithredu newydd gyda
gwahanol Gynghorau Tref, lle maent yn ariannu camerâu teledu cylch cyfyng
ychwanegol lle bo angen yn yr ardal; mae hyn yn caniatáu i'r cyngor raddio'r
gwaith teledu cylch cyfyng mewn rhai lleoliadau ar draws y Fwrdeistref Sirol. Gofynnwyd i swyddogion a oedd
gweithdrefn ar waith ar gyfer nodi lleoliadau newydd ar gyfer camerâu; roedd
angen i'r cyngor ystyried ffordd deg a rhesymegol o ymdrin â'r mater hwn wrth
symud ymlaen, gan y gallai gofynion ychwanegol godi yn y dyfodol. O ran
lleoliadau newydd a diwygiedig y camera, fel rhan o'r rhaglen newydd bresennol,
dywedwyd bod y gwaith o amgylch hyn wedi'i gwblhau’n unol â gwybodaeth gan
gydweithwyr yr Heddlu a phartneriaid eraill; nid oedd nifer y camerâu'n
cynyddu'n sylweddol, gan eu bod yn cael eu gosod yn bennaf i gymryd lle'r
rheini a oedd yno’n gynt. Rhoddodd swyddogion enghreifftiau o resymau pam yr
amnewidiwyd rhai camerâu, ac esboniodd hefyd fod cydweithwyr yr Heddlu wedi
tynnu sylw at ardaloedd penodol a fyddai'n elwa o gael teledu cylch cyfyng oherwydd
ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ychwanegwyd bod swyddogion wedi ystyried symud
rhai camerâu i wahanol leoliadau er mwyn cael darpariaeth a chydbwysedd well. Yn ychwanegol at yr achosion
newydd hyn, soniwyd bod y tîm wedi manteisio ar y cyfle i adnewyddu'r holl
systemau teledu cylch cyfyng; er enghraifft, ailbaentio'r colofnau i hyrwyddo’u
presenoldeb a'u gwelededd. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn ystyried y
sylwadau a wnaed ynghylch yr angen am bolisi/weithdrefn i bennu lleoliad
camerâu newydd yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at yr achos busnes
sy'n ymwneud â monitro 24/7; Gofynnodd yr aelodau am yr wybodaeth ddiweddaraf
am y sefyllfa a holasant ynghylch pryd y byddent yn derbyn adroddiad ar y mater
hwn. Cadarnhaodd swyddogion ei fod wedi'i ddrafftio a'i fod ar hyn o bryd gyda
swyddogion amrywiol i wneud sylwadau arno; y nod oedd cyflwyno adroddiad i
aelodau yn y Flwyddyn Newydd i ddechrau trafodaethau ynghylch hyn. Hysbyswyd y
pwyllgor mai un o'r materion a oedd yn ymwneud â symud i weithrediad 24/7 oedd
bod angen cynyddu staffio ar gyfer yr oriau ychwanegol, a fyddai'n gofyn am
gostau ychwanegol; Esboniodd swyddogion fod y cynllun newydd yn creu rhywfaint
o effeithlonrwydd ac arbedion cost, y gellid eu defnyddio i geisio gwrthbwyso
costau cynyddu i fonitro 24/7. Dywedodd yr aelodau fod angen
cynnal trafodaethau pellach i ystyried ffactorau amrywiol, yn enwedig o ran
adnoddau, cyllid a sut mae'r cyngor yn symud ymlaen gyda theledu cylch cyfyng.
Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd a'r swyddogion y byddent yn ystyried sylwadau a
phryderon y pwyllgor. Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau Ddata
Rheoli Perfformiad Chwarter 2, ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi
2021, ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes sy'n ymwneud
â Diogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd. Cynhaliwyd trafodaethau
ynghylch y Dangosyddion Perfformiad a gafodd eu graddio'n 'Goch' ar y system
goleuadau traffig a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd; gofynnodd y pwyllgor
a oedd cynllun i geisio gwella hyn i sgôr 'Oren' neu 'Wyrdd'. Cododd yr aelodau
bryderon hefyd ynglŷn â'r effaith ar adnoddau a gallu pe bai'r galw'n
parhau i gynyddu. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith nad oedd system goleuadau
traffig COG bob amser yn adlewyrchu'r perfformiad, yn hytrach roedd yn
adlewyrchu'r galw ar y gwasanaeth. Esboniwyd bod y Dangosydd Perfformiad sy'n
manylu ar ganran yr achosion o gam-drin domestig lle'r oedd y dioddefwyr yn
bobl sy'n dioddef dro ar ôl tro wedi'u graddio'n 'Goch' ar y system goleuadau
traffig, gan fod y timau'n gweld mwy o bobl sy'n dioddef dro ar ôl tro yn dod drwy'r gwasanaeth na'r nifer yr oeddent wedi’i ragweld gyntaf. Nodwyd y gellid ystyried hyn yn gadarnhaol gan fod unigolion yn defnyddio'r gwasanaeth i gael y cymorth yr oedd ei angen arnynt; roedd amrywiaeth o anghenion cymhleth unigolion, a pho fwyaf y mae swyddogion yn annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth, mwyaf a ddaw i chwilio am gymorth. Hysbyswyd yr aelodau fod swyddogion yn gobeithio gwneud darn o waith a fydd yn edrych ar rai achosion o bobl sy'n dioddef dro ar ôl tro yn fanylach, er mwyn sicrhau bod gan y tîm y ddealltwriaeth a'r wybodaeth gywir ynghylch y rhesymau pam eu bod yn dioddef dro ar ôl tro. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr IDVA (Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig) o fewn Diogelwch Cymunedol, yn gweld nifer uchel o ddioddefwyr yn dod drwy'r gwasanaeth a oedd wedi cael cymorth o'r blaen, a adwaenir fel 'pobl sy'n dioddef dro ôl tro'. Nodwyd y gellid ystyried hyn yn gadarnhaol, gan fod unigolion yn defnyddio'r gwasanaeth i gael y cymorth y mae ei angen arnynt; mae rhai'n teimlo na allant ymgysylltu'n llawn â chefnogaeth ar gyfer cam-drin domestig oherwydd nifer o gymhlethdodau a'r ddeinameg sy'n gysylltiedig â pherthynas gamdriniol. Dywedodd swyddogion fod y Tîm Diogelwch Cymunedol a phartneriaid yn parhau i annog dioddefwyr i ddod ymlaen i dderbyn cymorth, a chroesawyd atgyfeiriadau mynych i'r gwasanaeth bob amser. Fodd bynnag, soniwyd bod anghenion cymhleth amrywiol gan unigolion bob amser a oedd weithiau’n gallu gwneud y cylch yn anos fyth i'w dorri. Hysbyswyd yr aelodau fod swyddogion yn gobeithio gwneud darn o waith a fydd yn edrych ar rai achosion lle mae pobl yn dioddef dro ar ôl tro yn fanylach, er mwyn sicrhau bod y tîm yn deall yn llawn y rhesymau dros y bobl hyn yn dod yn fynych i'r gwasanaeth; mae'r gwaith hwn yn dibynnu ar y galw cynyddol a allai ddeillio o newidiadau i gyfyngiadau COVID-19 a'r effaith ddilynol y mae hyn yn ei chael ar achosion o gam-drin ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cofnodion: Nodwyd Blaenraglen Waith yr Is-bwyllgor Craffu Diogelwch
Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd. Tynnodd yr aelodau sylw at y ffaith pe bai unrhyw
ddiweddariadau pellach ynghylch teledu cylch cyfyng, cyn diwedd y Flwyddyn
Ddinesig, y byddent yn gwerthfawrogi pe gellid cyflwyno adroddiad i'r cyfarfod
a drefnwyd ar gyfer mis Mawrth 2022. |