Agenda item

Data Rheoli Perfformiad Chwarterol 2021-2022 - Perfformiad Chwarter 2 (1 Ebrill 2021 - 30 Medi 2021)

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau Ddata Rheoli Perfformiad Chwarter 2, ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021, ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes sy'n ymwneud â Diogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd.

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y Dangosyddion Perfformiad a gafodd eu graddio'n 'Goch' ar y system goleuadau traffig a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd; gofynnodd y pwyllgor a oedd cynllun i geisio gwella hyn i sgôr 'Oren' neu 'Wyrdd'. Cododd yr aelodau bryderon hefyd ynglŷn â'r effaith ar adnoddau a gallu pe bai'r galw'n parhau i gynyddu. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith nad oedd system goleuadau traffig COG bob amser yn adlewyrchu'r perfformiad, yn hytrach roedd yn adlewyrchu'r galw ar y gwasanaeth. Esboniwyd bod y Dangosydd Perfformiad sy'n manylu ar ganran yr achosion o gam-drin domestig lle'r oedd y dioddefwyr yn bobl sy'n dioddef dro ar ôl tro wedi'u graddio'n 'Goch' ar y system goleuadau traffig,

 gan fod y timau'n gweld mwy o bobl sy'n dioddef dro ar ôl tro yn dod drwy'r gwasanaeth na'r nifer yr oeddent wedi’i ragweld gyntaf. Nodwyd y gellid ystyried hyn yn gadarnhaol gan fod unigolion yn defnyddio'r gwasanaeth i gael y cymorth yr oedd ei angen arnynt; roedd amrywiaeth o anghenion cymhleth unigolion, a pho fwyaf y mae swyddogion yn annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth, mwyaf a ddaw i chwilio am gymorth. Hysbyswyd yr aelodau fod swyddogion yn gobeithio gwneud darn o waith a fydd yn edrych ar rai achosion o bobl sy'n dioddef dro ar ôl tro yn fanylach, er mwyn sicrhau bod gan y tîm y ddealltwriaeth a'r wybodaeth gywir ynghylch y rhesymau pam eu bod yn dioddef dro ar ôl tro. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr IDVA (Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig) o fewn Diogelwch Cymunedol, yn gweld nifer uchel o ddioddefwyr yn dod drwy'r gwasanaeth a oedd wedi cael cymorth o'r blaen, a adwaenir fel 'pobl sy'n dioddef dro ôl tro'. Nodwyd y gellid ystyried hyn yn gadarnhaol, gan fod unigolion yn defnyddio'r gwasanaeth i gael y cymorth y mae ei angen arnynt; mae rhai'n teimlo na allant ymgysylltu'n llawn â chefnogaeth ar gyfer cam-drin domestig oherwydd nifer o gymhlethdodau a'r ddeinameg sy'n gysylltiedig â pherthynas gamdriniol. Dywedodd swyddogion fod y Tîm Diogelwch Cymunedol a phartneriaid yn parhau i annog dioddefwyr i ddod ymlaen i dderbyn cymorth, a chroesawyd atgyfeiriadau mynych i'r gwasanaeth bob amser. Fodd bynnag, soniwyd bod anghenion cymhleth amrywiol gan unigolion bob amser a oedd weithiau’n gallu gwneud y cylch yn anos fyth i'w dorri. Hysbyswyd yr aelodau fod swyddogion yn gobeithio gwneud darn o waith a fydd yn edrych ar rai achosion lle mae pobl yn dioddef dro ar ôl tro yn fanylach, er mwyn sicrhau bod y tîm yn deall yn llawn y rhesymau dros y bobl hyn yn dod yn fynych i'r gwasanaeth; mae'r gwaith hwn yn dibynnu ar y galw cynyddol a allai ddeillio o newidiadau i gyfyngiadau COVID-19 a'r effaith ddilynol y mae hyn yn ei chael ar achosion o gam-drin domestig.

O ran y Dangosyddion Perfformiad a oedd yn ymwneud ag atgyfeiriadau i'r gwasanaeth, nodwyd y bydd y cyngor yn rhoi cyhoeddusrwydd parhaus i'r gwasanaeth a'r gefnogaeth a oedd ar gael; felly, roedd y ffigurau hyn bob amser yn debygol o gael eu graddio'n 'Goch' ar y system goleuadau traffig.

Fel y soniwyd eisoes, roedd swyddogion yn gobeithio cael mwy o ddealltwriaeth o'r atgyfeiriadau mynych a chyflawni'r darn hwn o waith yn y Flwyddyn Newydd; fodd bynnag, nid oeddent yn gallu darparu amserlen ar hyn o bryd o bryd oherwydd y galw uchel presennol ar y gwasanaeth.

Cyfeiriwyd at Ddangosydd Perfformiad 483, sef nifer y canlyniadau gwasanaeth cytunedig a gyflawnwyd yn y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gomisiynwyd gan y Bwrdd Cynllunio Ardal (BCA); esboniodd y naratif fod gan Dîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol Abertawe a Thîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol CNPT restrau aros a oedd yn atal unigolion rhag gallu cael gafael ar y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt. Nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd fod y Bwrdd Iechyd yn mynd i'r afael â hyn, ac roedd yn aros am ganlyniad eu hadolygiad mewnol. Gofynnodd yr aelodau pryd y byddai'r wybodaeth hon ar gael gan fynegi’u pryderon ynghylch effeithiau'r rhestrau aros. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod y Bwrdd Iechyd wedi cwblhau eu hadolygiad mewnol ac yn ystyried y camau nesaf; yn ogystal, roeddent yn gweithio'n galed i ddod o hyd i atebion a chamau gweithredu di-oed i helpu i leihau'r niferoedd, megis cynnal clinigau ychwanegol a gweld rhagor o bobl yn ystod y diwrnod gwaith. Soniwyd y byddai cydweithwyr y Bwrdd Iechyd yn mynegi’u pryderon ynghylch y galw cynyddol am y gwasanaethau hyn, sef y rheswm dros y rhestrau aros yn y pen draw; byddai'r cyngor yn parhau i weithio gyda'r Bwrdd Iechyd ar y mater hwn.

Cytunodd swyddogion i ddosbarthu'r ffigurau rhestrau aros diweddaraf i'r aelodau ar ôl y cyfarfod; a byddai hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y mater hwn.

Tynnodd yr aelodau sylw at y ffaith bod gan y Mynegeion Perfformiad a oedd yn ymwneud â chanran y gorddosau nad ydynt yn angheuol a hysbyswyd drwy'r protocol a gafodd gyngor priodol ac/neu ymyriad arall, ffigur o 133.00 ar gyfer 2021/22; gofynnwyd a oedd hwn yn gamgymeriad teipio, fel yn yr esboniad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, dywedodd fod chwech o bobl wedi derbyn ymyriad neu gyngor hyd yma, sef 50%. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn gwirio hyn y tu allan i'r cyfarfod ac yn hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd o'r canlyniad.

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: