Lleoliad: Committee Rooms 1/2 - Port Talbot Civic Centre
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 55 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
19 Rhagfyr 2019. |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y pwyllgor gyflwyniad a
diweddariad llafar am ddrafft diwygiedig y "Strategaeth Perthnasoedd Iach
ar gyfer Cymunedau Cryfach".
Amlygwyd fod y strategaeth gyntaf wedi'i lansio yn 2017, ac ers hynny
gwnaed llawer o gynnydd, ac amlygwyd hynny drwy'r strategaeth arfaethedig.
Roedd y strategaeth ar gyfer 2020-2023
yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd ac yn destun ymgynghoriad. Byddai'r fersiwn
newydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Ebrill 2020.
Nodwyd bod y Grŵp Arweinyddiaeth
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) wedi
goruchwylio'r broses o roi'r strategaeth ar waith, a chomisiynwyd amrywiaeth o
is-grwpiau i ymdrin ag amcanion a chamau gweithredu penodol. Nodwyd bod trefniadau partneriaeth
wedi'u cryfhau a bod gwaith yn parhau gyda chyflogwyr lleol i helpu i roi'r
Polisïau Cam-drin Domestig ar waith yn y gweithle. Roedd y Polisi Absenoldeb ar
gyfer Diogelwch wedi'i gyflwyno i weithlu'r cyngor, a chynhaliwyd digwyddiadau
cynyddu ymwybyddiaeth ar gyfer 150 o weithwyr proffesiynol rheng flaen. Cytunwyd ar fodel gwasanaeth newydd ar
gyfer Lloches a Chefnogaeth Gymunedol, ac roedd yr is-grwp Cyfathrebu ac
Ymgysylltu yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar y peilot
IRIS (Nodi ac Atgyfeirio er mwyn Gwella Diogelwch) newydd, a oedd yn cynnwys
ymweld â chymorthfeydd lleol a siarad â gweithwyr iechyd. Roedd hyn yn ddarn o
waith ymyrryd yn gynnar a oedd yn cael ei gyflwyno'n gynnar. Roedd rhai o'r meysydd cynnydd
allweddol a wnaed yn erbyn saith amcan y strategaeth wreiddiol yn cynnwys:- 1. Cyfathrebu ac Ymgysylltu I gynyddu
ymwybyddiaeth o'r mentrau canlynol: Cyfraith
Clare - Cynllun Datgelu Trais Domestig yr Heddlu, a oedd yn galluogi pobl i
gael gwybod gan yr heddlu os oedd gan eu partner hanes o drais domestig.
Gallai'r wybodaeth hon ddiogelu rhywun rhag ymosodiad. Bright Sky
- ap ffôn symudol y gellir ei lawrlwytho am ddim sy'n rhoi cefnogaeth a
gwybodaeth i unrhyw un a all fod mewn perthynas ddifrïol neu'r rheini sy'n pryderu
am rywun maent yn ei adnabod. Ask Angela
- defnyddir hyn mewn mangreoedd trwyddedig a lleoliadau eraill er mwyn cadw
pobl yn ddiogel rhag ymosodiad rhywiol trwy ddefnyddio enw côd i ofyn am help
pe baent mewn perygl neu sefyllfa anghyfforddus. Byddai posteri'n cael eu rhoi
ar y drysau y tu mewn i giwbiclau toiledau mewn sefydliadau lle mae'r ymgyrch
ar waith. Cyflwynwyd hyn yng Nghastell-nedd Port Talbot fel rhan o Wythnos y
Rhuban Gwyn, a gofynnwyd i 250 o fangreoedd gofrestru. 2.
Plant a Phobl
Ifanc Cynhaliwyd gweithdai lles yn Ysgol Gyfun Bae
Baglan ac Ysgol Gyfun Dŵr-y-felin.
Ar ôl cwblhau'r gweithdai byddai athrawon yr ysgolion yn bwrw ymlaen â'r
hyfforddiant. Byddai'r gweithdy'n cael ei gynnal yn Ysgol Gyfun Cwm Brombil
eleni. Cynhaliwyd y menter Criw Coch i bob disgybl ym mlwyddyn
chwech a oedd yn mynd i'r ysgol uwchradd, gyda'r gweithdy'n cynnwys amrywiaeth
o negeseuon diogelwch gan gynnwys cyflwyniad addas at oedrannau am berthnasoedd
iach. 3.
Troseddwyr Esboniodd swyddogion fod y gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo gan ei fod yn cael ei wneud i sefydlu'r rhaglen cyflawnwr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|||
Blaenraglen Waith 2019/20 PDF 67 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. Byddai cynrychiolwyr Asiantaethau Cyffuriau a Bwrdd
Iechyd yn cael eu gwahodd i'r cyfarfod nesaf i roi'r diweddaraf am y 'grŵp
digwyddiadau tyngedfennol'. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||
Strategaeth Busnes CCTV Cofnodion: Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau ynghylch
ailfodelu'r gwasanaeth CCTV, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd. Esboniodd swyddogion fod llawer o newidiadau wedi
bod i'r gwasanaeth CCTV dros nifer o flynyddoedd. Amlygwyd nad oedd gan y
cyngor ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaeth CCTV mewn mannau cyhoeddus,
er y cytunwyd bod hyn yn gyfraniad pwysig at ddiogelwch cymunedol. Pwysleisiwyd y byddai ailfodelu'r gwasanaeth yn
arwain at waith ychwanegol i'r ystafell rheoli CCTC ac y byddai'r gwasanaeth yn
darparu gwell gwasanaeth monitro, er y byddai angen profi'r farchnad mewn rhai
ardaloedd. Nodwyd bod cefnogaeth Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth
Cyhoeddus wedi'i darparu i ddatblygu achos busnes er mwyn profi dichonoldeb
amrywio'r gwasanaeth presennol. Aeth y swyddogion ymlaen i esbonio bod yn rhaid i'r
cyngor barchu hawliau dynol wrth osod camerâu, ac roedd angen tystiolaeth er
mwyn rhoi camerâu mewn rhai lleoliadau. Yn ogystal â CCTV, nodwyd bod amrywiaeth o fentrau
eraill a allai helpu i ddiogelu'r cyhoedd. Esboniodd swyddogion fod gwybodaeth
ar gael am amrywiaeth o fentrau a'i bod yn cael ei chyhoeddi ar gyfryngau
cymdeithasol. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â'r Tîm Diogelwch
Cymunedol. Yn dilyn proses graffu, cytunwyd i nodi'r
adroddiad. |