Cofnodion:
Derbyniodd y pwyllgor gyflwyniad a
diweddariad llafar am ddrafft diwygiedig y "Strategaeth Perthnasoedd Iach
ar gyfer Cymunedau Cryfach".
Amlygwyd fod y strategaeth gyntaf wedi'i lansio yn 2017, ac ers hynny
gwnaed llawer o gynnydd, ac amlygwyd hynny drwy'r strategaeth arfaethedig.
Roedd y strategaeth ar gyfer 2020-2023
yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd ac yn destun ymgynghoriad. Byddai'r fersiwn
newydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Ebrill 2020.
Nodwyd bod y Grŵp Arweinyddiaeth
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) wedi
goruchwylio'r broses o roi'r strategaeth ar waith, a chomisiynwyd amrywiaeth o
is-grwpiau i ymdrin ag amcanion a chamau gweithredu penodol.
Nodwyd bod trefniadau partneriaeth
wedi'u cryfhau a bod gwaith yn parhau gyda chyflogwyr lleol i helpu i roi'r
Polisïau Cam-drin Domestig ar waith yn y gweithle. Roedd y Polisi Absenoldeb ar
gyfer Diogelwch wedi'i gyflwyno i weithlu'r cyngor, a chynhaliwyd digwyddiadau
cynyddu ymwybyddiaeth ar gyfer 150 o weithwyr proffesiynol rheng flaen.
Cytunwyd ar fodel gwasanaeth newydd ar
gyfer Lloches a Chefnogaeth Gymunedol, ac roedd yr is-grwp Cyfathrebu ac
Ymgysylltu yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar y peilot
IRIS (Nodi ac Atgyfeirio er mwyn Gwella Diogelwch) newydd, a oedd yn cynnwys
ymweld â chymorthfeydd lleol a siarad â gweithwyr iechyd. Roedd hyn yn ddarn o
waith ymyrryd yn gynnar a oedd yn cael ei gyflwyno'n gynnar.
Roedd rhai o'r meysydd cynnydd
allweddol a wnaed yn erbyn saith amcan y strategaeth wreiddiol yn cynnwys:-
1. Cyfathrebu ac Ymgysylltu
I gynyddu
ymwybyddiaeth o'r mentrau canlynol:
Cyfraith
Clare - Cynllun Datgelu Trais Domestig yr Heddlu, a oedd yn galluogi pobl i
gael gwybod gan yr heddlu os oedd gan eu partner hanes o drais domestig.
Gallai'r wybodaeth hon ddiogelu rhywun rhag ymosodiad.
Bright Sky
- ap ffôn symudol y gellir ei lawrlwytho am ddim sy'n rhoi cefnogaeth a
gwybodaeth i unrhyw un a all fod mewn perthynas ddifrïol neu'r rheini sy'n pryderu
am rywun maent yn ei adnabod.
Ask Angela
- defnyddir hyn mewn mangreoedd trwyddedig a lleoliadau eraill er mwyn cadw
pobl yn ddiogel rhag ymosodiad rhywiol trwy ddefnyddio enw côd i ofyn am help
pe baent mewn perygl neu sefyllfa anghyfforddus. Byddai posteri'n cael eu rhoi
ar y drysau y tu mewn i giwbiclau toiledau mewn sefydliadau lle mae'r ymgyrch
ar waith. Cyflwynwyd hyn yng Nghastell-nedd Port Talbot fel rhan o Wythnos y
Rhuban Gwyn, a gofynnwyd i 250 o fangreoedd gofrestru.
2.
Plant a Phobl
Ifanc
Cynhaliwyd gweithdai lles yn Ysgol Gyfun Bae
Baglan ac Ysgol Gyfun Dŵr-y-felin.
Ar ôl cwblhau'r gweithdai byddai athrawon yr ysgolion yn bwrw ymlaen â'r
hyfforddiant. Byddai'r gweithdy'n cael ei gynnal yn Ysgol Gyfun Cwm Brombil
eleni.
Cynhaliwyd y menter Criw Coch i bob disgybl ym mlwyddyn
chwech a oedd yn mynd i'r ysgol uwchradd, gyda'r gweithdy'n cynnwys amrywiaeth
o negeseuon diogelwch gan gynnwys cyflwyniad addas at oedrannau am berthnasoedd
iach.
3.
Troseddwyr
Esboniodd
swyddogion fod y gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo gan ei fod yn cael ei wneud i
sefydlu'r rhaglen cyflawnwr gywir. Roedd yn hanfodol sicrhau bod y rhaglen yn
llwyddiant cyn bwrw ymlaen â hi.
Nodwyd bod
fideo YouTube ar gael a oedd yn annog dynion i godi llais, a byddai hyn yn cael
ei anfon at yr holl aelodau. Roedd y clip YouTube ar gyfer holl ddioddefwyr
cam-drin domestig ac roedd yn hyrwyddo gwasanaethau lleol.
4.
Ymyrryd ac Atal
Cynnar
Nodwyd bod
y Tîm Diogelwch Cymunedol yn gweithio'n agos gyda darparwyr arbenigol cam-drin
domestig, ac esboniwyd bod Cymorth i Fenywod THRIVE yn derbyn llawer rhagor o
gyfeiriadau at risg safonol a chanolig.
Amlygodd
swyddogion fod ymchwil bellach yn parhau i nodi anghenion.
5.
Hyfforddiant
Roedd
hyfforddiant VAWDASV (Grŵp 1) yn orfodol i'r holl staff. Byddai'r sesiynau
hyfforddiant nesaf (Grŵp 2) yn dechrau ym mis Medi 2020. Byddai'r hyfforddiant hwn ar gyfer staff
dethol, yn bennaf y rheini a oedd yn staff rheng flaen ac yn fwy tebygol o ddod
i gysylltiad uniongyrchol â phobl a oedd yn ddioddefwyr.
Lansiwyd y
Polisi Absenoldeb ar gyfer Diogelwch yn ystod mis Rhagfyr 2019, a chynigiwyd
hyd at 5 niwrnod o absenoldeb â thâl i staff yr effeithiwyd arnynt gan gam-drin
domestig.
6.
Gwasanaethau
Hygyrch
Esboniodd
swyddogion eu bod yn ystyried datblygu cysylltiadau â darparwyr arbenigol a
fyddai'n diwallu anghenion pobl y mae mathau eraill o drais yn effeithio
arnynt. Roedd angen sefydlu cysylltiadau â darparwyr tai lleol ac Opsiynau Tai
er mwyn sicrhau bod dioddefwyr y mae angen tai amgen arnynt yn cael eu cefnogi.
Roedd hyn yn gostus bob blwyddyn, ac felly roedd angen ystyried hyn yn
fanylach. Hefyd roedd angen ymchwilio i Oedolion mewn Perygl, yn benodol o ran
trais a cham-drin domestig.
7.
Llysoedd a
Chyfiawnder Troseddol
Amlygwyd bod 30-35% o'r rheini sy'n dod
drwy'r system yn rhai sy'n dioddef dro ar ôl tro. Esboniwyd bod cyllideb trais
domestig arbenigol gan y llys ar gyfer hyfforddi Ynadon, ond roedd hyn wedi'i
gostwng, felly roedd tîm hyfforddiant Castell-nedd Port Talbot wedi cynnig
sesiynau hyfforddi i Ynadon.
Nodwyd y byddai'r ymgynghoriad
cyhoeddus ar y Strategaeth Perthnasoedd Iach ar gyfer Cymunedau Cryfach yn
dechrau ar ddydd Llun 2 Mawrth ac yn cael ei gynnal am bedair wythnos. Esboniodd swyddogion fod llawer o bobl eisoes
wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad, ond byddent yn annog rhagor o adborth.
Cafwyd trafodaeth am ariannu, a nodwyd
bod arian yn rhwystr at wneud cynnydd yn gyflym a bod grantiau'n brin.
Dyma oedd cyfarfod olaf Siân Morris, a
diolchodd y Cadeirydd a'r pwyllgor i Siân am ei holl waith caled yn y Tîm
Diogelwch Cymunedol dros y blynyddoedd a dymunwyd y gorau iddi ar gyfer ei
hymddeoliad.
Yn dilyn proses graffu, cytunwyd i nodi'r
adroddiad.
Dogfennau ategol: