Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 71 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
17 Chwefror 2020. |
|
Diogelwch Cymunedol - Diweddariad Ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol PDF 577 KB Cofnodion: Diweddarwyd yr Aelodau ar y
problemau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YG) yng nghanol Tref Castell-nedd a
rhoddwyd gwybodaeth iddynt mewn perthynas â'r gwaith a oedd yn cael ei wneud ar
hyn o bryd ynghylch y mater proffil uchel hwn. Eglurodd y Pennaeth
Cyfranogiad fod y Tîm Partneriaethau a Chydlyniant Cymunedol bellach yn rhan
o'r Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, ac wedi bod ers mis
Ionawr 2021; canmolwyd y tîm am y gwaith roeddent wedi bod yn ei wneud ac yn
parhau i'w wneud ar draws Castell-nedd Port Talbot. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y
Tîm Diogelwch Cymunedol, a oedd yn dîm bach o 11 o Swyddogion, yn ymdrin â
materion cymhleth a dyrys iawn; roeddent wedi defnyddio a phrofi methodolegau
ynghylch ymagwedd datrys problemau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol y
materion. Ychwanegwyd bod gan y tîm gysylltiadau agos â phartneriaid allweddol
a thimau mewnol, a oedd yn rhan annatod iawn o'r gwaith yr oedd angen ei wneud.
Ar wahân i reoli YG yn y
Fwrdeistref Sirol, ychwanegwyd bod y Tîm Diogelwch Cymunedol hefyd yn rheoli
meysydd megis Cam-drin Domestig, Troseddau Casineb a Chydlyniant Cymunedol; ers
dechrau'r pandemig, roeddent hefyd yn gyfrifol am Wasanaeth Diogel ac Iach
Castell-nedd Port Talbot. Hysbyswyd yr Aelodau fod
Swyddogion, ym mis Gorffennaf 2020, wedi cael gwybod am bryderon cynyddol
ynghylch YG yng Nghanol Tref Castell-nedd; codwyd y pryderon hyn yn bennaf
drwy'r cyfryngau cymdeithasol, nad oedd yn ffordd ffurfiol o adrodd i
wasanaethau. Nodwyd bod preswylwyr a busnesau wedi bod yn siarad â Chynghorwyr
lleol am faterion yn ymwneud ag yfed ar y stryd, niwsans sŵn, cardota ac
ymddygiad gwrthgymdeithasol cyffredinol eraill; tybiwyd bod y problemau hyn yn
digwydd o ganlyniad i Wasanaeth Opsiynau Tai'r cyngor yn defnyddio Gwesty'r
Ambassador ers dechrau'r pandemig. Dywedodd swyddogion fod
adroddiadau swyddogol i'r Heddlu a staff y cyngor yn isel iawn a theimlwyd,
wrth edrych ar y materion a godwyd ar gyfryngau cymdeithasol, efallai nad oedd
hyn wedi bod yn adlewyrchiad cywir o'r hyn a oedd yn digwydd yn y dref, a oedd
yn bryder i Swyddogion. Pwysleisiwyd pwysigrwydd
adrodd am bryderon a gwybodaeth yn y ffordd gywir; gallai aelodau o'r cyhoedd
wneud hyn mewn nifer o ffyrdd. Esboniwyd pe na bai'r dystiolaeth a'r ystadegau
wedi'u cynnwys yn y gronfa ddata i adlewyrchu'r hyn a oedd yn digwydd yn yr
ardal, ei fod yn lleihau rhai pwerau a galluoedd y Swyddogion o ran dod o hyd i
atebion i'r problemau. Yn dilyn y pryderon hyn, nodwyd bod y Tîm Diogelwch Cymunedol wedi galw cyfarfod partneriaeth i ddeall y problemau'n well, edrych ar bwy oedd wrth wraidd y problemau ac ystyried cynllun gweithredu priodol i sicrhau bod y sefyllfa'n gwella ac nad oedd yn dirywio; cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Gorffennaf 2020, wedi'i gydlynu gan Ddiogelwch Cymunedol. Soniwyd bod y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd wedi cadeirio'r cyfarfod a bod aelodau perthnasol y Cabinet a'r Cynghorwyr ward hefyd yn bresennol; cafwyd cynrychiolaeth gan nifer o asiantaethau partner gan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Cofnodion: Gofynnodd yr Aelodau a ellid symud yr eitem
ganlynol ymlaen i ddyddiad cynharach: ·
Y
diweddaraf am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn gyffredinol Byr holl ganolau trefi
ac yn ehangach) Cytunwyd y byddai'r Swyddog Gwasanaethau
Democrataidd yn cysylltu â'r Cadeirydd a'r Swyddogion i nodi dyddiad ychwanegol
i'r Pwyllgor gyfarfod i drafod yr eitem hon. Penderfynodd y Pwyllgor y dylid cynnwys yr eitemau
canlynol yn y Blaenraglen Waith: ·
Y
diweddaraf am y gwaith sy'n mynd rhagddo gyda'r BCA ynghylch camddefnyddio
sylweddau a'r gwaith lleihau niwed a oedd yn digwydd yn lleol; ·
Y
diweddaraf am brosiect a chyllid LEADER. Soniwyd bod Swyddfa Comisiynydd yr
Heddlu a Throseddu yn arwain ar y prosiect hwn, felly dylid gwahodd y cyswllt
perthnasol i gyflwyno. Nododd yr
Aelodau Flaenraglen Waith yr Is-bwyllgor Craffu ar Ddiogelwch Cymunedol a
Diogelu'r Cyhoedd ar gyfer 2021/22. |