Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 5ed Medi, 2019 2.01 pm

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd A R Lockyer yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

 

3.

Astudiaeth Dichonoldeb Cartref Gofal Preswyl Trem y Glyn pdf eicon PDF 70 KB

Adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai.

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod y cyngor yn gweithio gyda'r darparwr i gynnal astudiaeth dichonoldeb i'r posibilrwydd o gadw Cartref Gofal Preswyl Trem y Glyn ar agor ar ôl 2022.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi'r cyngor i dawelu meddyliau preswylwyr, preswylwyr y dyfodol, teuluoedd a staff ynghylch y sefyllfa cyn gynted â phosib.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

 

4.

Y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a'r Gwasanaethau i Oedolion - Chwarter 1af (Ebrill 19 - Mehefin 19) Adroddiad Perfformiad pdf eicon PDF 70 KB

Adroddiad ar y Cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a Phennaeth Y Gwasanaethau I Oedolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

5.

Caffael Gwasanaeth Eiriolaeth ar gyfer Oedolion pdf eicon PDF 138 KB

Adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau I Oedolion

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.   Bydd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yn ymgymryd ag ymarfer caffael i gomisiynu gwasanaeth eiriolaeth ar gyfer oedolion.

 

2.   Yn dilyn y broses gaffael, caiff awdurdod dirprwyedig ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion ymrwymo i gontract â'r cynigiwr y gwerthuswyd ei fod yn cynnig y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd (gan ystyried ansawdd a chost y cynigion), er mwyn darparu gwasanaeth eiriolaeth i oedolion.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Bydd ymgymryd ag ymarfer ymgynghori er mwyn cyflwyno gwasanaeth eiriolaeth yn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i fodloni ei ofynion statudol o dan Ran 10 Côd Ymarfer (Eiriolaeth) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Ar ben hynny, bydd ymgymryd ag ymarfer caffael yn helpu'r cyngor i fodloni ei rwymedigaethau cyffredinol sy'n deillio o Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (TFEU) a bydd yn rheoli proses ar waith sy'n dyfarnu contract mewn modd tryloyw nad yw'n gwahaniaethu. Yn ogystal, bydd proses gaffael yn sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio â'i Reolau Gweithdrefnau Contract (RhGC) mewnol.

 

Bydd ymrwymo i gontract gyda darparwr am gyfnod o ddwy flynedd, gydag opsiwn i estyn am gyfnod o hyd at 24 mis ychwanegol yn rhoi mwy o sicrwydd i ddarparwyr ac yn helpu cynaladwyedd y gwasanaeth.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

 

6.

Polisi Rheoli ac Adennill Dyled y Gwasanaethau i Oedolion pdf eicon PDF 73 KB

Adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo Polisi Rheoli ac Adennill Dyled y Gwasanaethau i Oedolion fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd fel Atodiad 1

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Cydymffurfio â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Rhan 4 a 5 y Côd Ymarfer (Gosod Ffïoedd ac Asesiad Ariannol) Atodiad F, sy'n ymdrin ag adennill dyled a cholli asedau.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

7.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr Bae'r Gorllewin 2018 -19 pdf eicon PDF 80 KB

Adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau I Oedolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gan nad yw swyddogion ar gael, caiff yr eitem ei gohirio tan gyfarfod nesaf Bwrdd Gofal, Iechyd a Lles y Cabinet.

 

8.

Polisi Rheoli Ymddygiad Hillside pdf eicon PDF 94 KB

Adroddiad Preifat gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r diwygiad i Bolisi Rheoli Ymddygiad Hillside fel y'i cynigiwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal, Iechyd a Lles a gynhaliwyd cyn y cyfarfod bwrdd hwn.

 

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo Polisi Rholi Ymddygiad Hillside fel y nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad a gylchredwyd, yn amodol ar y diwygiad canlynol:

 

Bydd tudalen 157 o'r polisi fel y'i hatodir i'r adroddiad a gylchredwyd o dan Y Rheolwr Cofrestredig (RhC) yn sicrhau y caiff pwynt bwled 7 ei ddiwygio i nodi bod yr holl gofnodion ar reoli, atal a disgyblu'n cael eu cwblhau'n llawn cyn gynted â phosib, ac o fewn 24 awr o'r digwyddiad oni bai fod amgylchiadau eithriadol.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi'r cyngor i gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 a'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd yn ôl y gofynion hynny, yn benodol mewn perthynas â'r amgylchiadau lle caniateir atal corfforol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

 

9.

Adroddiad Ansawdd Gofal y Gwasanaeth Maethu 2018/19 a'r Datganiad o Ddiben Maethu pdf eicon PDF 73 KB

Adroddiad Preifat gan Bennaeth y Gwasanaethau Plan a Phobl Ifanc

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

10.

Blaenraglen Waith 2018-19 pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 19/20.

 

11.

Mynediad i gyfarfodydd

Penderfyn gwahardd y cyhoedd o’r eitemau canlynol yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a’r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwaherddir y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 13 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

12.

Cynnig i Adnewyddu Prydles Llety i'r cyngor yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Cimla

Adroddiad Preifat gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai

Cofnodion:

Ar ôl derbyn diweddariad llafar, roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r dyddiad cychwyn ar gyfer adnewyddu'r brydles i'w rhoi'n ôl-weithredol.

 

Penderfyniad:

 

Rhoi sêl bendith mewn egwyddor i adnewyddu'r brydles gyda dyddiad dechrau ôl-weithredol ar gyfer defnyddio Canolfan Adnoddau Cymunedol Cimla am gyfnod o 5 mlynedd ar amodau a thelerau i'w cytuno gan Bennaeth Eiddo ac Adfywio ar y cyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi'r cyngor i ymrwymo i brydles gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer Canolfan Adnoddau Cymunedol Cimla, Castell-nedd SA11 3SU fel y gall yr adeilad barhau i fod yn amgylchedd gweithio ar y cyd er mwyn ymgysylltu'n effeithiol â chydweithwyr yn y gwasanaethau iechyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

 

 

 

13.

Contract Addysg Hillside

Adroddiad Preifat gan Bennaeth y Gwasanaethau Plan a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.   Parheir i eithrio Rheol 2 y Rheolau Gweithdrefnau Contractau, ac awdurdodir y cyngor i estyn a diwygio'r cytundeb cydweithio mewn perthynas â'r gwasanaethau addysg yn Hillside gyda'r ysgol, ar y telerau a nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd;

 

2.   Bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, Pennaeth Cyfranogiad y Cyngor a Rheolwr Canolfan Hillside, yn parhau i gael eu dynodi'n gynrychiolwyr ar gyfer y cyngor hwn at ddibenion y Cytundeb Cydweithio.  Gweithredu holl bwerau dirprwyedig y fath gynrychiolydd ar ran y cyngor, ac yn ychwanegol, ddirprwyo'r pŵer i benodi cynrychiolydd amgen neu ddirprwy at ddibenion y Cytundeb Cydweithio i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, Pennaeth Cyfranogiad y cyngor a Rheolwr Canolfan Hillside.

 

3.   Rhoddir awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles  mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i drafod y Weithred Amrywio a chytuno arno, ac wedi hynny, awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i ymrwymo i'r cytundeb ac unrhyw ddogfennaeth gysylltiedig.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Bydd yr amrywiad o'r cytundeb Cydweithio rhwng y cyngor a'r ysgol yn gwella'r ddarpariaeth ymhellach.  Bydd yn parhau i ganiatáu gwell reolaeth a goruchwylio, er mwyn cyfoethogi cyfleoedd datblygu proffesiynol ymhellach ar gyfer staff Addysg Hillside. Bydd Cytundeb Cydweithio'n sicrhau bod trefniadau addas ar waith ar gyfer y saith mlynedd nesaf.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

14.

Adroddiad y Rheolwr ar Gartref Diogel i Blant Hillside (yn eithriedig dan baragraff 13) (Gohiriwyd o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019)

Adroddiad Preifat gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

15.

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (Yn eithriedig dan baragraff 13) (Gohiriwyd o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019)

Adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

16.

Trefniadau Contract ar gyfer Gwasanaeth Gosod, Cynnal a Chadw a Symud Teleofal

Adroddiad Preifat gan Bennaeth y Gwasanaethau I Oedolion

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoddir awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion ymrwymo i gontract gyda Gofal a Thrwsio Bae’r Gorllewin Cyf er mwyn iddo ddarparu system teleofal, ei gosod, ei chynnal a'i chadw a'i symud, tan 31 Mawrth 2020, gydag opsiwn i estyn y contract tan 31 Mawrth 2021.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Nid oes digon o gystadleuaeth o ran darparwyr profiadol amgen i ddarparu'r gwasanaeth sy'n ofynnol ac mae'r trefniad presennol yn rhoi'r gwerth gorau am arian i'r cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.