Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jayne Woodman-Ralph
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Periodi cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd
y byddai’r Cynghorydd A.R.Lockyer yn cael ei benodi’n Gadeirydd ar gyfer y
cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fudd Cofnodion: Cafwyd
datganiad budd gan y Cynghorydd canlynol ar ddechrau’r cyfarfod.
|
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 73 KB Cofnodion: Y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2019. |
|||
Blaenraglen Waith 2018-19 PDF 70 KB Cofnodion: Y
dylid nodi’r blaenraglen waith ar gyfer 2019/20. |
|||
Ailfodelu ac Ail-leoli'r Gwasanaethau Dydd Anghenion Cymhleth PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd
diwygiad llafar i’r cynghorwyr yn y cyfarfod, a nododd y dylai’r argymhelliad
gynnwys cau Abbeyview fel gwasanaeth dydd ond y byddai’r adeilad yn cael ei
ddefnyddio i gynnal gwasanaethau eraill yn y dyfodol. Penderfyniadau: Y
dylid cymeradwyo Opsiwn 2 fel a ganlyn: 1. Y dylid cau safle Abbeyview fel gwasanaeth
dydd; 2. Y dylid darparu’r Gwasanaethau Dydd
Anghenion Cymhleth ym Mrynamlwg, Trem y Môr a Thŷ Rhodes; 3. Y dylai anghenion y defnyddwyr gwasanaeth
gael eu diwallu gan y ddarpariaeth gwasanaeth dydd sydd fwyaf addas i’w
hanghenion ac i ateb eu deilliannau personol. Rhesymau dros y
Penderfyniadau: I
alluogi’r Cyngor i: 1. Ddatblygu gwasanaethau yn unol â gofynion penodol pobl ar hyn o
bryd ac yn y dyfodol. 2. Gwella a dyfnhau ansawdd cyflwyno
gwasanaethau. 3. Datblygu gwasanaethau cynaliadwy gyda
llwybrau clir. 4. Galluogi’r awdurdod i allu darparu gwasanaeth i ddiwallu
anghenion y bobl hynny sydd wedi cael diagnosis o anhwylder y sbectrwm
awtistiaeth, anableddau dysgu ac ymddygiad heriol. Rhoi’r Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||
Polisi Taliadau Uniongyrchol PDF 77 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Y
dylid cymeradwyo’r Polisi Taliadau Uniongyrchol fel y nodir yn Atodiadau 1 a 2
o’r adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: I
gydymffurfio â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
a Rhan 4 o’r Cod Ymarfer (Diwallu Anghenion) a Rhan 4 & 5 o’r Cod Ymarfer
(Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol). Rhoi’r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad
ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||
Polisi Dyrannu Seibiant y Gwasanaethau i Oedolion PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Y
dylid cymeradwyo gweithredu Polisi Dyrannu Seibiant y Gwasanaethau i Oedolion
fel y nodir yn Atodiadau 1 a 2 o’r adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad I alluogi’r
Cyngor i gymryd i ystyriaeth yr adnoddau gofal cymdeithasol a’r gofal a’r
cymorth arall sydd ar gael i unigolion wrth ymgymryd ag asesiad neu ailasesiad
o anghenion gofalwyr. I sicrhau bod ystod gynaliadwy o wasanaethau gofal
cymdeithasol o ansawdd da ar gael i oedolion er mwyn diwallu anghenion
dinasyddion mwyaf agored i niwed Castell-nedd Port Talbot. Hefyd, i gyfrannu at
yr arbedion cyllidebol a nodwyd ym Mlaengynllun Ariannol y Cyngor. Rhoi’r Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad Ar
10 Mehefin 2019 cymeradwyodd y cynghorwyr ymgynghoriad cyhoeddus o 90 diwrnod
mewn perthynas â’r Polisi. Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori rhwng 17 Mehefin a 15
Medi 2019, a chafwyd nifer o weithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu. Mae hyn
wedi helpu i gadarnhau cynnwys drafft terfynol y Polisi a luniwyd gan swyddog. |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Y
dylid nodi’r adroddiad. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Penderfyn gwahardd y cyhoedd o’r eitemau canlynol yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a’r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Y
dylid eithrio’r cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol yn unol â Rheoliad
4 (3) a (5) o Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, oherwydd eu bod yn cynnwys y
tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd ym Mharagraffau
13 a 14 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|||
Trefniadau Contract ar gyfer y Gwasanaeth Mân Addasiadau Cofnodion: Ailnododd
y Cynghorydd P.D.Richards ei fudd yn yr eitem ganlynol a gadawodd y cyfarfod.
Camodd y Cynghorydd P.A.Rees i’r adwy ar gyfer yr eitem hon yn unig. Penderfyniad: Y
dylid caniatáu awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i fynd
ati i sefydlu contract gyda Gofal a Thrwsio Bae’r Gorllewin Cyf./Care and
Repair Western Bay Ltd ar gyfer darparu Gwasanaeth Mân Addasiadau tan 31 Mawrth
2021, gydag opsiwn i ymestyn y contract tan 31 Mawrth 2022 fel y nodwyd yn yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: I
sicrhau bod fframwaith cyfreithiol rwymol yn ei le rhwng y partïon. Rhoi’r Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||
Adroddiad y Rheolwr ar Gartref Diogel i Blant Hillside Cofnodion: Dychwelodd
y Cynghorydd P.D.Richards i’r cyfarfod ac ymddieithriodd y Cynghorydd P.A.Rees
o weddill y cyfarfod. Penderfyniad: Y
dylid nodi’r adroddiad. |
|||
Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 RISCA 2016 Cofnodion: Penderfyniad: Y
dylid nodi’r adroddiad. |