Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jayne Woodman-Ralph
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y byddai’r Cynghorydd P.D. Richards yn
cael ei benodi’n Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 71 KB Cofnodion: Y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr
2019. |
|||
Blaenraglen Waith 2018-19 PDF 68 KB Cofnodion: Y
dylid nodi’r flaenraglen waith ar gyfer 2019/2020. |
|||
Gwasanaethau Cymdeithasol, Adroddiad Blynyddol Cwynion a Chynrychioliadau 2018-2019 PDF 239 KB Cofnodion: Penderfyniad: Y
dylid nodi’r adroddiad. |
|||
Ailfodelu'r Gwasanaethau i Oedolion PDF 79 KB Cofnodion: Penderfyniad: Y
dylid rhoi caniatâd i’r Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion ddechrau ymgysylltu a
chyfathrebu â’r gweithlu Gwasanaethau i Oedolion. Rheswm dros y Penderfyniad: I
sicrhau bod gennym Wasanaeth i Oedolion sy’n gallu ateb anghenion cyfnewidiol a
galwadau ein poblogaeth leol a sicrhau bod y gweithlu’n cael cyfle i lywio a
hysbysu’r gwaith o wneud penderfyniadau mewn perthynas â’r model at y dyfodol. Rhoi’r Penderfyniad ar
Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghori: Mae’r
adroddiad yn gofyn am ganiatâd i ymgynghori â staff am ailfodelu Gwasanaethau i
Oedolion. Byddai ymgynghori ynghylch unrhyw newidiadau i’r gweithlu yn unol â’n
gofynion cyfreithiol a’n polisïau adnoddau dynol mewnol a byddai’n cynnwys
adran adnoddau dynol y Cyngor a chynrychiolwyr undebau. |
|||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Y
dylid nodi’r adroddiad. |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Y dylid caniatáu awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Plant a
Phobl Ifanc i gytuno telerau terfynol y Cytundeb Rhyngasiantaethol gyda Dinas a
Sir Abertawe ar gyfer darparu gwasanaeth therapi iaith a lleferydd rhanbarthol
ar gyfer Cartref Diogel i Blant Hillside a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac
Ymyrraeth Gynnar; 2.
Ar ôl cytuno ar delerau terfynol y Cytundeb Rhyngasiantaethol, dylid
caniatáu awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i
sefydlu contract gyda Dinas a Sir Abertawe hyd at 31 Mawrth 2021; 3.
Y dylid penodi Dinas a Sir Abertawe fel y sefydliad arweiniol ar gyfer
prynu’r gwasanaeth hwn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac arwain y dasg
o reoli’r contract rhanbarthol. Rheswm dros y
Penderfyniadau: I
alluogi’r Cyngor i ateb y galwadau am wasanaethau Therapi Iaith a Lleferydd a
sicrhau bod cytundeb cyfreithiol-rwymol yn ei le sy’n nodi’r telerau
cymeradwyedig ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â Dinas a Sir Abertawe. Rhoi’r Penderfyniadau ar
Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Penderfyn gwahardd y cyhoedd o’r eitemau canlynol
yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a’r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atoldlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion:
|
|||
Trefniadau Cytundebol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Y dylid caniatáu awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl
Ifanc i sefydlu contractau gyda: ·
Barnardos ar gyfer darparu ‘Gwasanaeth Dyfodol Gwell’ a ·
Dinas a Sir Abertawe ar gyfer darparu ‘Gwasanaeth Wynebu’r Her’; 2.
Y dylid rhedeg y contractau hyd at 31 Mawrth 2021 gyda’r opsiwn os yw’n
ofynnol i ymestyn hyd at 31 Mawrth 2022. Rheswm dros y
Penderfyniadau: I
sicrhau bod fframwaith cyfreithiol-rwymol yn ei le rhwng y partïon ac i barhau
â’r gwasanaethau hanfodol hyn. Rhoi’r Penderfyniadau ar
Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||
Contractual Arrangements for Services Funded by the Housing Support Grant Cofnodion: Penderfyniadau: Yn
ddarostyngedig i gadarnhad Llywodraeth Cymru ynghylch dyrannu Grant Cymorth Tai
i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot: 1.
Y dylid caniatáu awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaethau i
Oedolion i sefydlu contractau gyda: a.
Caer Las Cymru b.
Cyfiawnder Tai Cymru c.
Calan DVS d.
Hafan Cymru e.
Thrive f.
Grŵp Tai Coastal Housing g.
Platfform 2.
Y dylai’r contractau redeg hyd at 31 Mawrth 2021, yn ddarostyngedig i
gyfnod rhybudd o 3 mis. Rheswm dros y
Penderfyniadau: I
sicrhau bod fframwaith cyfreithiol-rwymol yn ei le rhwng y partïon ac i barhau
â’r gwasanaethau hanfodol hyn. Rhoi’r Penderfyniad ar
Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||
Y Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai - Adroddiad Gwasanaeth Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid nodi’r adroddiad. |