Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 17eg Hydref, 2019 2.01 pm

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd P D Richards yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

3.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr Bae'r Gorllewin 2018 -19 pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

4.

Adroddiad Blynyddol Byrddau Diogelu Bae'r Gorllewin 2018-19 pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

5.

Polisi Cludiant a Chymorth pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoi Polisi Cludiant â Chymorth y Gwasanaethau i Oedolion ar waith fel yr atodir yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn galluogi'r cyngor i ystyried y cryfderau a'r adnoddau cludiant sydd ar gael i unigolion a, lle bo'n berthnasol, eu gofalwyr wrth asesu neu ailasesu anghenion unigolyn. Bydd hyn yn sicrhau bod teithio annibynnol yn cael ei hyrwyddo lle bo modd, bod amrywiaeth cynaliadwy o wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion o safon ar gael i ddiwallu anghenion dinasyddion mwyaf diamddiffyn Castell-nedd Port Talbot, a bydd hefyd yn cyfrannu at yr arbedion cyllidebol a nodwyd ym Mlaengynllun Ariannol y cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Roedd aelodau yn flaenorol wedi cymeradwyo cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 90 niwrnod mewn perthynas â'r polisi. Yn ystod y cyfnod hwn, rhwng 8 Ebrill a 8 Gorffennaf 2019, cynhaliwyd nifer o weithgareddau ymgynghori a chynnwys. Manylir ar ganlyniad y gweithgarwch yn Atodiad 4 yr adroddiad a ddosbarthwyd. Mae hyn wedi helpu i gadarnhau cynnwys y polisi terfynol.

 

6.

Polisi Tegwch Darpariaeth Gwasanaethau pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoi Polisi Tegwch Darpariaeth Gwasanaethau y Gwasanaethau i Oedolion ar waith fel a nodwyd yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn galluogi'r cyngor i ystyried yr adnoddau gofal cymdeithasol sydd ar gael wrth asesu neu ailasesu anghenion unigolyn. Er mwyn gallu sicrhau bod amrywiaeth cynaliadwy o wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion o safon ar gael i ddiwallu anghenion dinasyddion mwyaf diamddiffyn Castell-nedd Port Talbot, a chyfrannu at yr arbedion cyllidebol a nodwyd ym Mlaengynllun Ariannol y cyngor

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Rhoddir y penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Ar 7 Mawrth 2019 cymeradwywyd cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 90 niwrnod mewn perthynas â'r polisi.  Yn ystod y cyfnod hwn, rhwng 24 Ebrill a 23 Gorffennaf 2019, cynhaliwyd nifer o weithgareddau ymgynghori a chynnwys. Helpodd manylion y gweithgarwch hwnnw, fel a nodwyd yn Atodiad 4 yr adroddiad a ddosbarthwyd, i gadarnhau cynnwys y polisi.

 

7.

Adolygiad o Wasanaethau Cefnogi yn y Gymuned - Cydlynwyr Ardaloedd Lleol pdf eicon PDF 135 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

8.

Cynllun Blynyddol Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot 2019-2020 pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Trosglwyddo Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot i'r cyngor i'w gymeradwyo.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn galluogi Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot i gyflawni ei ddyletswyddau i ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys atal pobl ifanc rhag cyrraedd y system cyfiawnder ieuenctid, goruchwylio pobl ifanc yn y gymuned, y sefydliadau diogel, cefnogi teuluoedd a dioddefwyr mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

 

9.

Blaenraglen Waith 2018-19 pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 19/20.

 

10.

Mynediad i gyfarfodydd

Penderfyn gwahardd y cyhoedd o’r eitemau canlynol yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a’r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

11.

Trefniadau Contract ar gyfer Gwasanaeth Cefnogi Bywydau a Rennir

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion ymrwymo i gontract ag Ategi Shared Lives ar gyfer darparu gwasanaeth cefnogi bywydau a rennir ar gyfer y cyfnod o 1 Mai 2020 i 30 Ebrill 2021 gydag opsiwn i estyn y contract am gyfnod o 12 mis ychwanegol fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn galluogi'r cyngor i ddarparu'r gwasanaeth a chynnig y gwerth gorau am arian i'r cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

12.

Trefniadau Contract ar gyfer Darparu Cynllun Peilot Cefnogaeth fel y bo'r angen ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Yn amodol ar amodau a dyraniad Grant Cartrefi â Chymorth Llywodraeth Cymru, caiff Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yr awdurdod dirprwyedig i ymrwymo i gontract â Chanolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed Cymru er mwyn darparu gwasanaethau cefnogi camddefnyddio sylweddau sy'n gysylltiedig â thai. Hyd y contract fydd o 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021, gydag opsiwn i estyn y contract am gyfnod o 12 mis ychwanegol.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn galluogi'r cyngor i ddarparu'r gwasanaeth gofynnol a chynnig y gwerth gorau am arian i'r cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.