Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd P D Richards yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 80 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 5 Medi 2019 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr Bae'r Gorllewin 2018 -19 PDF 80 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Byrddau Diogelu Bae'r Gorllewin 2018-19 PDF 76 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Polisi Cludiant a Chymorth PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Rhoi Polisi Cludiant â Chymorth y Gwasanaethau i
Oedolion ar waith fel yr atodir yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn galluogi'r cyngor i ystyried y cryfderau
a'r adnoddau cludiant sydd ar gael i unigolion a, lle bo'n berthnasol, eu
gofalwyr wrth asesu neu ailasesu anghenion unigolyn. Bydd hyn yn sicrhau bod
teithio annibynnol yn cael ei hyrwyddo lle bo modd, bod amrywiaeth cynaliadwy o
wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion o safon ar gael i ddiwallu anghenion
dinasyddion mwyaf diamddiffyn Castell-nedd Port Talbot, a bydd hefyd yn
cyfrannu at yr arbedion cyllidebol a nodwyd ym Mlaengynllun Ariannol y cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Roedd aelodau yn flaenorol wedi cymeradwyo cyfnod
ymgynghori cyhoeddus o 90 niwrnod mewn perthynas â'r polisi. Yn ystod y cyfnod
hwn, rhwng 8 Ebrill a 8 Gorffennaf 2019, cynhaliwyd nifer o weithgareddau
ymgynghori a chynnwys. Manylir ar ganlyniad y gweithgarwch yn Atodiad 4 yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Mae hyn wedi helpu i gadarnhau cynnwys y polisi
terfynol. |
|
Polisi Tegwch Darpariaeth Gwasanaethau PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Rhoi Polisi Tegwch Darpariaeth Gwasanaethau y
Gwasanaethau i Oedolion ar waith fel a nodwyd yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn galluogi'r cyngor i ystyried yr adnoddau
gofal cymdeithasol sydd ar gael wrth asesu neu ailasesu anghenion unigolyn. Er
mwyn gallu sicrhau bod amrywiaeth cynaliadwy o wasanaethau gofal cymdeithasol i
oedolion o safon ar gael i ddiwallu anghenion dinasyddion mwyaf diamddiffyn
Castell-nedd Port Talbot, a chyfrannu at yr arbedion cyllidebol a nodwyd ym
Mlaengynllun Ariannol y cyngor Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Rhoddir y penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri
diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Ar 7 Mawrth 2019 cymeradwywyd cyfnod ymgynghori
cyhoeddus o 90 niwrnod mewn perthynas â'r polisi. Yn ystod y cyfnod hwn, rhwng 24 Ebrill a 23
Gorffennaf 2019, cynhaliwyd nifer o weithgareddau ymgynghori a chynnwys.
Helpodd manylion y gweithgarwch hwnnw, fel a nodwyd yn Atodiad 4 yr adroddiad a
ddosbarthwyd, i gadarnhau cynnwys y polisi. |
|
Adolygiad o Wasanaethau Cefnogi yn y Gymuned - Cydlynwyr Ardaloedd Lleol PDF 135 KB Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Trosglwyddo Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd
yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot i'r cyngor i'w gymeradwyo. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn galluogi Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac
Ymyrryd yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot i gyflawni ei ddyletswyddau i
ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn
1998. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys atal pobl ifanc rhag cyrraedd y system
cyfiawnder ieuenctid, goruchwylio pobl ifanc yn y gymuned, y sefydliadau
diogel, cefnogi teuluoedd a dioddefwyr mewn partneriaeth ag asiantaethau
eraill. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Blaenraglen Waith 2018-19 PDF 71 KB Cofnodion: Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 19/20. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Penderfyn gwahardd y cyhoedd o’r eitemau canlynol yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a’r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn
debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Trefniadau Contract ar gyfer Gwasanaeth Cefnogi Bywydau a Rennir Cofnodion: Penderfyniad: Rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau
i Oedolion ymrwymo i gontract ag Ategi Shared Lives ar gyfer darparu gwasanaeth
cefnogi bywydau a rennir ar gyfer y cyfnod o 1 Mai 2020 i 30 Ebrill 2021 gydag
opsiwn i estyn y contract am gyfnod o 12 mis ychwanegol fel y nodwyd yn yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn galluogi'r cyngor i ddarparu'r gwasanaeth a
chynnig y gwerth gorau am arian i'r cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Trefniadau Contract ar gyfer Darparu Cynllun Peilot Cefnogaeth fel y bo'r angen ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau Cofnodion: Penderfyniad: Yn amodol ar amodau a dyraniad Grant Cartrefi â
Chymorth Llywodraeth Cymru, caiff Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yr
awdurdod dirprwyedig i ymrwymo i gontract â Chanolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth
a Chaethiwed Cymru er mwyn darparu gwasanaethau cefnogi camddefnyddio sylweddau
sy'n gysylltiedig â thai. Hyd y contract fydd o 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021,
gydag opsiwn i estyn y contract am gyfnod o 12 mis ychwanegol. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn galluogi'r cyngor i ddarparu'r gwasanaeth
gofynnol a chynnig y gwerth gorau am arian i'r cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |