Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jayne Woodman
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A R Lockyer yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 66 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2020 fel cofnod cywir. |
|||
Blaenraglen Waith 2018-19 Cofnodion: Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2019/2020. |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|||
Strategaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot PDF 90 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyhoeddus 90 diwrnod
ar y Strategaeth Gofalwyr fel y nodir yn Atodiad 1 a 2 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Galluogi gofalwyr Castell-nedd Port Talbot i fynegi
eu barn ynghylch pa ymyriadau, gwasanaethau a chymorth lleol fyddai'n eu helpu
i gynnal eu rôl gofalu. Sicrhau bod gan yr awdurdod lleol amrywiaeth
cynaliadwy o gefnogaeth o ansawdd da ar gael a fyddai'n diwallu anghenion
gofalwyr di-dâl Castell-nedd Port Talbot. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|||
Diweddariad Blynyddol ar Gynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl PDF 83 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|||
Polisi Gwahanu Hillside PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo Polisi Gwahanu Hillside fel y nodir yn
Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Gwasanaethau
Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 a
chanllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf honno a sicrhau bod y polisi'n
cyd-fynd â'r Polisi Rheoli Ymddygiad sydd newydd ei ddiwygio. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3)
a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion:
|
|||
Cytundeb Prydles gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer y Gwasanaethau Gwirfoddol o 1 Ebril 2020 - 31 Mawrth 2023 Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo ymestyn y cytundeb prydles rhwng Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol
Castell-nedd Port Talbot am gyfnod o dri deg chwe mis calendr rhwng 1 Ebrill
2020 a 31 Mawrth 2023 ar delerau ac amodau y mae Pennaeth y Gwasanaethau Plant
a Phobl Ifanc yn cytuno arnynt mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio. Rheswm dros y penderfyniad: Galluogi’r Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i
ymrwymo i gytundeb prydles gyda CGGCNPT ar gyfer 36 Stryd y Berllan, Castell-nedd
SA11 1HA fel y gellir parhau i ddefnyddio'r adeilad i ddarparu lle anffurfiol a
hygyrch fel y gellir gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a'u
teuluoedd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|||
Y Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai yn Ad-dalu arian y Grant Cyfleusterau i'r Anabl Cofnodion: Penderfyniad: Hepgor swm llawn yr arian grant fel y nodir yn yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Penderfynwyd hyn er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn
arfer ei ddisgresiwn o dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Grant
Cyfleusterau i'r Anabl (amodau sy'n gysylltiedig â chymeradwyo neu dalu'r
grant) - Caniatâd Cyffredinol 2008. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |