Agenda a chofnodion drafft

Is-bwyllgor Craffu Hamdden a Diwylliant - Dydd Iau, 5ed Rhagfyr, 2019 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan aelodau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod.

 

W John,

Llyfrgellydd Sir

Parthed: Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru am ei fod yn mynd i gyfarfodydd Grŵp Cyfeirio Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

 

 

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Medi 2019 yn gofnod cywir.

 

 

 

3.

Adroddiad Cynnydd Cynllun Busnes Parc Gwledig Margam pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar gyflwyno cynllun busnes Parc Gwledig Margam fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Mae'r cynnydd wedi parhau ac mae incwm y parc yn cynyddu'n araf.  Roedd gwaith yn parhau i archwilio cyfleoedd masnachol i greu incwm a fyddai'n cyfrannu tuag at gynnal a chadw'r parc.

 

Nodwyd hefyd fod yr Orendy wedi dod yn ail yng nghategori'r lleoliad gorau i briodasau yng Ngwobrau Twristiaeth Bae Abertawe, a bod Parc Gwledig Margam wedi ennill categori'r Atyniad Mawr Gorau.

 

Parhaodd y drafodaeth ynghylch cynlluniau ar gyfer y parc yn y dyfodol, yr ardaloedd y mae angen eu hadnewyddu a'r cyfleoedd i ddod â mentrau newydd i'r parc. Cyflwynir cais am arian ar gyfer gwelliannau i'r castell fel rhan o gyfleoedd busnes newydd.

 

Clywodd yr aelodau fod nifer o'r mentrau newydd a amlygwyd heddiw ac yn flaenorol wedi dod o staff y parc yn ystod eu sesiynau adborth rheolaidd.

 

Fel ateb i gwestiynau'r aelodau, esboniwyd bod y llwybr Luminate Wales yn y parc wedi bod yn llwyddiannus iawn ac yr ystyriwyd a lliniarwyd unrhyw effaith ar yr amgylchedd.

 

Roedd yr aelodau'n falch o'r cynnydd a wnaed a gofynnon nhw a fyddai modd mynegi'u gwerthfawrogiad i holl aelodau staff Parc Margam am eu gwaith caled.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad.

 

 

4.

Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2018/19 pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau Adroddiad Asesiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2018-19 fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Amlygwyd bod y gwasanaeth wedi gwella o'i gymharu â'r llynedd wrth iddo lwyddo i gyflawni 7 o'r 10 safon.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch a oes cysondeb yn y data a gasglwyd ac a yw'r model a ddefnyddir ar gyfer darpariaeth gwasanaethau llyfrgelloedd yr un peth ar draws Cymru. Esboniodd y swyddogion fod amrywiaeth o ffyrdd y mae cynghorau ar draws Cymru'n darparu gwasanaethau llyfrgell, sy'n golygu nad yw'r data'n cael ei gasglu'n gyson.

 

Nid yw'r 7 llyfrgell cymunedol sy'n derbyn cefnogaeth gan y gwasanaeth llyfrgelloedd yn cael eu cynnwys yn yr ystadegau, ond byddai perfformiad y gwasanaeth yn cynyddu pe byddent yn cael eu cynnwys.

 

Gofynnodd aelodau'r pwyllgor a fyddai modd mynegi eu gwerthfawrogiad i staff y llyfrgelloedd am y gwasanaeth gwych y maent yn ei ddarparu.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

5.

Data Rheoli Perfformiad Chwarterol 2019-2020 - Perfformiad Chwarter 1 (1 Ebrill 2019 - 30 Medi 2019) pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd aelodau wybodaeth am Ddata Rheoli Perfformiad Chwarterol 2019-2020 - Perfformiad Chwarter 1 (1 Ebrill - 30 Mehefin 2019) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd yr aelodau'n hapus â'r gwybodaeth ystadegol yn yr adroddiad a chytunwyd nad oedd angen craffu ymhellach.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad.

 

 

 

 

 

6.

Blaenraglen Waith Craffu 2019/20 pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

Nodi'r Blaenraglen Waith

 

 

 

7.

Blaenraglen Waith Bwrdd Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Cabinet ar gyfer 2019/20. pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

Nodi'r Blaenraglen Waith

 

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

 

9.

Adolygiad Perfformiad Chwe Misol Hamdden Celtic 2019-20 (Yn eithriedig dan Baragraph 14)

Cofnodion:

Derbyniodd y pwyllgor gyflwyniad ar Adolygiad Perfformiad Chwe Misol Hamdden Celtic 2019-2020 ac Adolygiad Perfformiad Hamdden Celtic 2018-2019 fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch y data a chynlluniau Hamdden Celtic ar gyfer datblygu yn y dyfodol.  Byddai'r wybodaeth hon yn cael ei rhannu â'r Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Hamdden yn y cyfarfod nesaf.

 

Trafodwyd menter nofio am ddim Llywodraeth Cymru ac effaith y newid hwn.

 

Diolchodd y pwyllgor i Hamdden Celtic am yr wybodaeth a'r cyflwyniad.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad.