Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan aelodau Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
gyfer yr Eitem am Adroddiad Cynnydd Cynllun Busnes Canolfan Celfyddydau
Pontardawe:-
|
|||
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 57 KB Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 3 Mai 2019 yn gofnod cywir. |
|||
Adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd aelodau wybodaeth ynghylch yr oriau agor
dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2019, mewn perthynas â llyfrgelloedd,
theatrau, canolfannau cymunedol, Parc Gwledig Margam, canolfannau hamdden a
phyllau nofio fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynnig sy'n cael ei ystyried gan y Bwrdd Addysg, Sgiliau a Diwylliant y
Cabinet. |
|||
Adroddiad Cynnydd Cynllun Busnes Canolfan Celfyddydau Pontardawe PDF 59 KB Adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cyng.
S Reynolds fudd yn ystod y pwynt hwn yn y cyfarfod. Derbyniodd y
Pwyllgor y diweddaraf am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar gyflwyno cynllun
busnes Canolfan Celfyddydau Pontardawe fel a fanylwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Roedd yr
aelodau'n hapus gyda'r cynnydd a wnaed ac yn edrych ymlaen at dderbyn rhagor o
ddiweddariadau. Ceisiwyd eglurhad
ar gyfer pam nodwyd rhai o'r gweithredoedd yn y cynllun gweithredu yn goch: ·
Digwyddiadau
cerddoriaeth i bobl ifanc: Ni chynhaliwyd y rhain. Roedd hyn o
ganlyniad i ddiffyg gwybodaeth am y gerddoriaeth addas. Byddai'r fforwm
Ieuenctid sydd newydd ei sefydlu yn archwilio i hwn ymhellach. Cynhelir nifer o
weithgareddau'n i bobl ifanc yn y ganolfan er enghraifft grwpiau cerddoriaeth,
celf a drama ond roedd hon yn fenter newydd i gynyddu nifer y digwyddiadau
cerddoriaeth ar gyfer pobl ifanc. ·
Siopa
ar-lein - Noddwyr: Nid oedd hyn yn bosib oherwydd nid yw'r ganolfan yn gallu derbyn statws
elusennol. Roedd y Grŵp Cyfeillion yn parhau i chwilio am noddwyr eraill. ·
Pris
y Clwb Ffilmiau: Amlygwyd hyn yn goch. Roedd gwaith yn parhau ond ar gam cynnar a chaiff ei
arolygu fel rhan o'r Datblygiad Sinema Newydd. ·
Y
Celfyddydau mewn Iechyd: Roedd gwaith yn symud ymlaen ond o ganlyniad i drafferthion wrth ddod o hyd
i gyswllt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, nid yw’r gwaith wedi symud
ymlaen. Sefydlwyd Gweithgor ar y Cyd a chynhelir trafodaethau â'r Bwrdd Iechyd
er mwyn eu cynnwys. Cynhaliwyd
trafodaeth am gynnwys y gymuned ynghylch y ganolfan. Esboniwyd bod Cyfeillion
Canolfan Celfyddydau Pontardawe wedi bod yn rhan o'r gwaith gwella i wneud y
ganolfan yn fwy dichonadwy ac wedi cymryd rhan mewn cyflwyno syniadau ar gyfer
creu incwm. Yn dilyn
craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad. |
|||
Menter Nofio am Ddim Newydd Llywodraeth Cymru PDF 67 KB Adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd aelodau drosolwg o Fenter Nofio am Ddim
newydd Llywodraeth Cymru fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch newidiadau i
gyllid Menter Nofio am Ddim Llywodraeth Cymru. Hefyd, sut byddai'r newidiadau'n
effeithio ar bobl dros 60 oed oherwydd byddai'r pwyslais ar gyfer nofio am ddim
bellach ar bobl dan 16 oed. Mynegwyd pryder gan aelodau am yr effaith y
byddai'r newid hwn yn ei chael ar iechyd a lles pobl dros 60 oed sy'n nofio am
ddim i hyrwyddo ffordd iach o fyw. Er bod Hamdden Celtic wedi derbyn llai o gyllideb
ar gyfer nofio am ddim i bobl dros 60 oed, roedd yr aelodau'n hapus i nodi bod
Hamdden Celtic am barhau i ddarparu sesiynau nofio am ddim i’r unigolion â'r
angen mwyaf. Byddant yn parhau i gynnig nofio am ddim yn unrhyw sesiwn nofio
gyhoeddus i bawb dros 60 oed sy'n byw yn yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is
(ACEI) yn CBSCNPT. Ond, mynegwyd pryder am y cynnig i ddarparu nofio am ddim i
bobl dros 60 oed mewn ardaloedd difreintiedig yn unig. Nododd yr aelodau fod
pobl sy'n derbyn Credyd Pensiwn nad ydynt yn byw mewn ACEI yn gallu cael
mynediad at nofio am ddim i bobl dros 60 oed mewn unrhyw sesiwn nofio
gyhoeddus. Byddai hefyd sesiynau penodol i bobl dros 60 oed ym
mhob pwll ar gyfer y rheini nad ydynt yn bodloni'r meini prawf uchod, neu
gallai pobl dros 60 oed nofio yn unrhyw sesiwn nofio gyhoeddus am ffï ostyngol
o £2.00. Gofynnodd aelodau am sicrwydd y caiff yr wybodaeth
gyhoeddus am y newidiadau ei hysgrifennu'n eglur ac mewn Saesneg clir. Hefyd, nodi bod y fenter hon yn un ledled
Cymru o Lywodraeth Cymru o ganlyniad i adolygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Chwaraeon
Cymru. Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad.
|
|||
Adroddiad gan y Pennaeth Cyfranogiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd aelodau wybodaeth am Ddata Rheoli
Perfformiad Chwarterol 2019-2020 - Perfformiad Chwarter 1 (1 Ebrill - 30
Mehefin 2019) fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cynhaliwyd trafodaeth am ddangosydd perfformiad
"nifer yr ymweliadau i ganolfannau hamdden fesul 1,000 o'r
boblogaeth". Esboniwyd bod yr holl gynghorau ar draws Cymru'n defnyddio
meini prawf gwahanol ar gyfer ymweld â chanolfannau hamdden. O ganlyniad i hyn,
mae'n anodd iawn cymharu perfformiad ar draws cynghorau'n gywir a thrafodwyd
hyn â Llywodraeth Cymru. Roedd aelodau'n hapus y gofynnwyd i Hamdden Celtic
gynnwys nifer yr ymwelwyr â'r canolfannau hamdden, cyfanswm y defnydd a nifer y
plant sy'n cymryd rhan mewn gwersi nofio yn eu ffurflenni data perfformiad
chwarterol. Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad. |
|||
Blaenraglen Waith Craffu 2017/18. PDF 64 KB Cofnodion: Cytunwyd disodli’r Strategaeth Celfyddydau â’r
Cynllun Busnes ar gyfer y Celfyddydau. |