Agenda a Chofnodion

Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet - Dydd Gwener, 20fed Medi, 2019 10.05 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd E V Latham yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 54 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 5 Gorffennaf 2019.

 

 

3.

Clefyd Coed Ynn pdf eicon PDF 120 KB

Adroddiad gan Bennaeth Gofal Strydoedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd i ddatblygu cynllun gweithredu gan gynnwys arolygon coed i nodi dosbarthiad coed, coed yr effeithiwyd arnynt a graddfa'r haint.

 

2.           Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd i gymynu coed a chael gwared arnynt fel y bo angen yn seiliedig ar ganfyddiadau'r arolygon a'r asesiad risg cysylltiedig.

 

3.           Y cyngor i gynyddu ymwybyddiaeth o afiechyd Clefyd Coed Ynn drwy gyfryngau cymdeithasol a sianelau eraill, ac annog aelodau'r cyhoedd i adrodd am goed nad ydynt yn ymddangos yn iach.

 

4.           Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd i gysylltu â landlordiaid preifat y mae ganddynt goed ger priffyrdd cyhoeddus, llwybrau cerdded cyhoeddus ac eiddo'r cyngor.

 

5.           Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd i ddod o hyd i gyllideb a phlannu coed newydd er mwyn lleihau'r effaith ar fioamrywiaeth a thirweddau lleol gan blannu rhywogaethau addas megis derw, bedw, gwern a masarnwydd.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Rheoli clefyd coed ynn ar draws y fwrdeistref sirol gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei flaenoriaethu a'i wneud mewn da bryd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

4.

Asesu Henebion pdf eicon PDF 77 KB

Adroddiad gan Bennaeth Gofal Strydoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Y cyngor i fabwysiadu'r polisi profi cerrig coffa a chofebau a gynhwysir yn Atodiad 2 yr adroddiad a gylchredwyd.

 

2.           Ychwanegu'r polisi profi cerrig coffa at reolau a rheoliadau'r fynwent.

 

3.           Rhoi dolen i'r polisi yn adran berthnasol gwefan y cyngor.

 

4.           Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd a Phennaeth Gofal Strydoedd wneud penderfyniadau ynghylch atgyweirio cerrig coffa/cofebau o arwyddocâd hanesyddol lle nad oes modd dod o hyd i'r perchennog.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Darparu ymagwedd glir a chyson at reoli cerrig coffa a chofebau ym mynwentydd yr awdurdod.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

5.

Parcio dros gyfnod y Nadolig 2019 DOTX 864 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo parcio am ddim dros y Nadolig yng Nghastell-nedd, Port Talbot a meysydd parcio talu ac arddangos Pontardawe o ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr 2019 i ddydd Mercher 1 Ionawr 2020 (ac eithrio meysydd parcio'r Gnoll, Parc Gwledig Coedwig Afan a glan môr Aberafan). 

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn denu siopwyr Nadolig i ganol ein trefi i gefnogi busnesau lleol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

6.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 842 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ychwanegu'r cwmnïau canlynol at y rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

Cwmni

Categorïau

 

MS Group t/a Architectural Stone

25, 36

Alternative Power Solutions

111

A & R Cleaning Services

105

Ark Fencing & Landscaping supplies

84

Bell Decorating Group Ltd

20

Borley Engineering Services Ltd t/a CMB West Ltd

39, 40

C K Communications Ltd

3, 47

Core Surveys Ltd

31

Glebe Contractors

77

ICE Electrical

41, 42, 43, 44

J2R Demolition Ltd

31, 79

Leftfield Environmental Ltd

31

Lewis Ashley Services Ltd

10

Lucion Environmental Ltd

31

McAvoy Group Ltd

10, 111

Metric Group Ltd

110, 111

Nationwide Platforms Ltd

2, 9, 111

Nicholls Colton Group Ltd

78, 111

Novus Property Solutions Ltd

 

12, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 22, 25, 26, 35, 36

Oakdale Haulage Ltd

111

Pearson’s Landscapes Ltd

64, 77

Phillips Services (Wales) Ltd

47, 48, 57, 62, 109, 111

Premier Modular Ltd

10

R Hills Construction Ltd

71, 76, 77, 84, 85, 89

Smart Platforms Rental Ltd

88, 98

S R Middleton & Son Roofing Ltd

17b, 17d, 17e

Tom Pritchard Contracting Ltd

2, 6, 77, 79, 85, 102

Coating & Blasting Services Ltd

17e, 25, 36, 89, 105, 111

Warmserve Plumbing & Heating Ltd

37, 38, 45, 46

Brushdale Environmental Ltd

111

 

 

 

 

 

Tynnu enw'r cwmni canlynol oddi ar y rhestr o Gontractwyr

 Cymeradwy:

 

Cwmni

Categorïau

 

Tremco Roofing UK Ltd

17a, 17b, 17c, 17d, 17e

 

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Cadw rhestr o Gontractwyr Cymeradwy mor gyfredol â phosib, sicrhau bod proses gaffael gystadleuol a gallu cyflenwi rhestr o Gontractwyr Cymeradwy i'w gwahodd i dendro o fewn y categori perthnasol.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

7.

Gorchymyn Traffig - Heol Penyard, Mynachlog Nedd, Castell-nedd DOTX 880 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwrthod y gwrthwynebiad yn rhannol a diwygio'r Gorchymyn Traffig (Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg ar Heol Penyard, Mynachlog Nedd, Castell-nedd) fel a nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad a gylchredwyd, a'i ail hysbysebu fel uchod. Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, gellir gweithredu'r gorchymyn a rhoi gwybod i'r gwrthwynebwyr yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Atal parcio anystyriol er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad: 

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar yr eitem hon.

 

8.

Gorchymyn Traffig - Penscynor, Cil-ffriw DOTX 802 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Hysbysebu'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dim Aros, Llwytho na Dadlwytho ar Unrhyw Adeg a Dim Aros ar Unrhyw Adeg ym Mhenscynor, Aberdulais ac, os na fydd unrhyw wrthwynebiadau, rhoi'r gorchmynion ar waith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Atal parcio anystyriol er diogelwch y ffordd.  

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.

 

9.

Gorchymyn Traffig - Heol Fawr, Bryncoch, Castell-nedd DOTX 1 MB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Gwrthwynebu'r Gorchymyn Traffig ar y lôn rhwng yr Heol Fawr a Rhodfa Furzeland, Bryncoch, Castell-nedd, a'i dynnu oddi ar y cynllun.

 

2.           Lleihau maint y marciau ar gyfer y safle bws ar yr Heol Fawr, Bryncoch fel nad ydynt yn estyn ar draws dramwyfa’r preswylwyr (fel a nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad a gylchredwyd).

 

3.           Gosod marc 'H' ar y ffordd ar hyd tramwyfeydd rhif 158 a 158A Heol Fawr, Bryncoch, yn unol â chais y Cynghorydd lleol.

 

4.           Rhoi'r Gorchymyn Traffig ar waith y tu allan i'r archfarchnad ar yr Heol Fawr, Bryncoch, fel yr hysbysebwyd.

 

5.           Hysbysu'r gwrthwynebwyr o'r penderfyniad.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Atal parcio anystyriol er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

10.

Gorchymyn Traffig - Heol Burrows, Sgiwen DOTX 817 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dim Aros, Dim Llwytho na Dadlwytho ar Unrhyw Adeg ar Heol Burrows, Sgiwen, Castell-nedd (fel y manylwyd yn Atodiad A yr adroddiad a gylchredwyd) ac, yn amodol ar beidio â derbyn gwrthwynebiadau, ac yn amodol ar gymeradwyo'r grant gan Gronfa Gymunedol yr Aelodau, rhoi'r gorchmynion ar waith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Atal parcio anystyriol er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.

 

11.

Gorchymyn Traffig - Ystalyfera DOTX 2 MB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Tynnu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arfaethedig ar gyfer y mesurau tawelu traffig (clustogau arafu) a'r parth 20mya yn Ystalyfera yn ôl, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad a gylchredwyd, a rhoi gwybod i'r gwrthwynebwyr yn unol â hynny.

 

2.           Hysbysu Llywodraeth Cymru am adborth yr ymgynghoriad cymunedol a thynnu’r cynllun yn ôl o’r rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, mewn perthynas â'r parth 20mya.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Oherwydd y gwrthwynebiadau sylweddol a dderbyniwyd gan y gymuned ynghylch y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.  

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.  

 

 

12.

Gorchymyn Traffig - A48 Margam, Port Talbot DOTX 881 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (terfyn cyflymder 40mya ar yr A48 Margam, Port Talbot) ac, os nad oes unrhyw wrthwynebiadau, rhoi'r gorchymyn ar waith.      

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Lleihau cyflymder cerbydau er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.

 

13.

Gorchymyn Traffig - Heol y Coedcae, Y Clos a Gwernant, Cwmllynfell DOTX 934 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dim Aros ar Unrhyw Adeg a'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Clustogau Arafu yn Heol y Coedcae, Y Clos a Gwenrant, Cwmllynfell (fel y manylwyd arnynt yn Atodiad A yr adroddiad a gylchredwyd) ac, os nad oes unrhyw wrthwynebiadau, weithredu'r gorchmynion yn amodol ar gymeradwyaeth arian grant o Gronfa Gymunedol yr Aelodau.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Atal parcio anystyriol a lleihau cyflymder traffig er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.

 

14.

Gorchymyn Traffig - Rhodfa'r Parc, Sgiwen DOTX 832 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gosod Lle Parcio Unigol i Berson Anabl yn Rhif 52, Rhodfa'r Parc, Sgiwen SA10 6SA fel yr hysbyswyd, gwrthod y gwrthwynebiad a rhoi gwybod i'r gwrthwynebydd yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Cynhaliwyd asesiad meddygol a chanfuwyd bod yr asesiad gwreiddiol yn gadarn ac felly'n bodloni'r meini prawf ar gyfer Lle Parcio Unigol i Berson Anabl.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

15.

Gorchymyn Traffig - Hillside, Cwrt Hightbury, Rhodfa Cook Rees a Heol Westernmoor, Castell-nedd DOTX 1 MB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoi Gorchymyn Traffig Dim Aros ar Unrhyw Adeg yn Hillside, Cwrt Highbury, Rhodfa Cook Rees a Heol Westernmoor, Castell-nedd (ond tua 6m yn llai ar ochr ogleddol Hillside fel a nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad a gylchredwyd), a rhoi gwybod i'r gwrthwynebydd yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Darparu amgylchedd mwy diogel i breswylwyr, modurwyr, cerddwyr a beicwyr.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

16.

Gorchymyn Traffig - Bryncoch, Castell-nedd DOTX 1 MB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Diwygio Gwaharddiad Aros ar Unrhyw Adeg ar yr Heol Fawr, Rhodfa Furzeland. Clôs Redwood a Chlôs Firwood, Bryncoch, Castell-nedd fel a nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad a gylchredwyd a'i roi ar waith ar y safle.

 

2.           Hepgor y marciau safle bws arfaethedig a'r Gorchymyn Traffig ar ochr orllewinol yr Heol Fawr, Bryncoch, o’r cynllun.

 

3.           Hysbysu'r gwrthwynebwyr o'r penderfyniad.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Atal parcio anystyriol er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

17.

Gorchymyn Traffig - Rhodfa Seaward a Chlôs Seaward, Sandfields, Port Talbot DOTX 854 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dim Aros ar Unrhyw Adeg ar Rodfa Seaward a Chlôs Seaward, Sandfields, Port Talbot ac, os nad oes unrhyw wrthwynebiadau, rhoi'r gorchymyn ar waith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Atal parcio anystyriol er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.

 

18.

Gorchymyn Traffig - Rhodfa San Illtyd, Baglan, Port Talbot DOTX 890 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dim Aros ar Unrhyw Adeg ar Rodfa Illtyd Sant, Baglan, Port Talbot ac, os nad oes unrhyw wrthwynebiadau, rhoi'r gorchymyn ar waith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Atal parcio anystyriol er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.

 

19.

Gorchymyn Traffig - Tyn y Twr, Heol Bwlch, Baglan DOTX 2 MB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dim Aros, Dim Llwytho na Dadlwytho ar Unrhyw Adeg yn Nhyn y Twr, Heol Bwlch, Baglan ac, os nad oes unrhyw wrthwynebiadau ac yn amodol ar gymeradwyaeth arian grant o Gronfa Gymunedol yr Aelodau, rhoi'r gorchmynion ar waith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Atal parcio anystyriol er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.

 

 

20.

Gorchymyn Traffig - Llansawel, Melin a Chastell-nedd DOTX 2 MB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar gyfer parth 20mya a chlustogau arafu yn Llansawel, Melin a Chastell-nedd (fel y manylwyd arnynt yn Atodiadau A, B a C yr adroddiad a gylchredwyd) a rhoi gwybod i'r gwrthwynebwyr yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau bod cyflymder cerbydau'n cael ei leihau er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.