Agenda a Chofnodion

Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet - Dydd Gwener, 17eg Ionawr, 2020 10.05 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cyng. E V Latham yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo Cynllun Rheoli Asedau'r Priffyrdd, fel y'i cynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Parhau â chynnydd y cyngor wrth ddatblygu Cynllun Rheoli Asedau'r Briffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: 

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

3.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 1021 KB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.   Cynnwys y cwmnïau canlynol at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:-

 

Cwmni

Categori

 

J Manny Ltd

Waters Roofing Ltd

Forest Traffic Services Ltd

Asbestos Consultants Europe Ltd

21

17a-e

9

31 (Gwaith tirfesur yn unig)

 

2.   Tynnu'r cwmni canlynol  oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer y categorïau canlynol:-

 

Cwmni

Categori

 

Jehu

12, 13

 

 

3.   Tynnu'r cwmnïau canlynol oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:-

 

Cwmni

Categori

 

Treforest Tiling Ltd

Granville Noise Insulators Ltd

Paul Jones-Domestic Energy Assessor

Reel (UK) Ltd

R M Electrics

Lappset UK Ltd

178

21c, 111

111

21g, 111

41, 42, 43, 47, 48, 62, 68, 70

104

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith: 

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

 

4.

Gorchymyn/Gorchmynion Traffig: Cimla

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu'r Parth 20mya, Clustogau Arafu, Dim Aros, Dim Llwytho na Dadlwytho ar Unrhyw Adeg, Dim Mynediad ac Eithrio Bysus a'r Gorchymyn Un Ffordd ar y B4287 Heol Cwm Afan, Gerddi Ridgewood a Rhodfa Greenwood, Cimla, ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, cânt eu rhoi ar waith ar y safle.  

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Lleihau cyflymder cerbydau ac atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: 

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Ymgymerir ag ymarfer gynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu.

 

 

 

 

5.

Gorchymyn/Gorchmynion Traffig: Amrywiol - Cwmgwrach DOTX 2 MB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwrthod y gwrthwynebiadau'n rhannol a  diwygio'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Gwaharddiad Aros ar Unrhyw Adeg a'r Gwaharddiad Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg ar Stryd Edward, Stryd yr Ysgol, Heol Nedd, Heol Fothergill, Heol Wenallt a Chefn Gelli, Cwmgwrach, Castell-nedd (fel y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad a ddosbarthwyd) a'u rhoi ar waith ar y safle, a hysbysu'r gwrthwynebwyr yn briodol.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

1.   Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.

 

2.   Cynorthwyo'r gweithredwr bysus i ddarparu ei wasanaeth i'r pentref.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: 

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

 

 

 

 

6.

Gorchymyn/Gorchmynion Traffig: Heol y Felin a'r Stryd Fawr, Cwmgwrach DOTX 1 MB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwrthod y gwrthwynebiadau'n rhannol a  diwygio'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Gwaharddiad Aros ar Unrhyw Adeg a'r Gwaharddiad Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg ar Heol y Felin a'r Stryd Fawr, Cwmgwrach, Castell-nedd (fel y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad a ddosbarthwyd) a'u rhoi ar waith ar y safle, a hysbysu'r gwrthwynebwyr yn briodol.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: 

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

 

 

 

7.

Gorchymyn/Gorchmynion Traffig: Strydoedd Amrywiol Castell-nedd Port Talbot - Ysgolion pdf eicon PDF 978 KB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.   Gwrthod y gwrthwynebiad a rhoi'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar strydoedd amrywiol yng Nghastell-nedd Port Talbot (fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd) ar waith ar y safle, a hysbysu'r gwrthwynebwr yn briodol.

 

2.   Adolygu'r parcio ar y stryd yn Heol Theodore, Port Talbot.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Atal parcio diwahaniaeth y tu allan i ysgolion er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith: 

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

 

 

 

 

 

8.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.