Agenda a Chofnodion

Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet - Dydd Gwener, 25ain Hydref, 2019 10.05 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cyng. E V Latham yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 20 Medi, 2019.

 

3.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 741 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ychwanegu'r cwmnïau canlynol at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

Cwmni

Categori

 

Arch Utility Service (SW) Ltd

 

71, 76, 94, 95

 

Lighting & Illumination Tec. Experience Ltd

111-Festive Lighting

 

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

 

Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith: 

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

4.

Cymeradwyaethau'r Corff Cymeradwyo - Systemau Draenio Cynaliadwy pdf eicon PDF 61 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

5.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Heol Alexander a Chilgant Alexander, Bryncoch, Castell-nedd DOTX 897 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwrthod y gwrthwynebiad a rhoi'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg ar Heol Alexander a Chilgant Alexander, Bryncoch (fel y nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad a gylchredwyd) ar waith ar y safle fel y'i hysbysebwyd, a hysbysu'r gwrthwynebwyr yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er  diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori mewn perthynas â'r eitem hon.

 

 

 

6.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Heol y Bronwen, Rhodfa Lingfield, Heol Addison a Heol Moorland, Sandfields DOTX 916 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwrthod y gwrthwynebiad a rhoi'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg ar Heol y Bronwen, Rhodfa Lingfield, Heol Addison a Heol Moorland, Sandfields (fel y nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad a gylchredwyd) ar waith ar y safle fel y'i hysbysebwyd, a hysbysu'r gwrthwynebwyr yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori mewn perthynas â'r eitem hon.

 

 

7.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Heol y Gors, Cwmgors a Heol Pontardawe, Rhyd-y-fro pdf eicon PDF 964 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwrthod y gwrthwynebiad a rhoi'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn Heol y Gors, Cwmgors a Heol Pontardawe, Rhyd-y-fro (Dirymiad) a'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig 2019 (terfynau cyflymder 40mya) ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd yn flaenorol, a hysbysu'r gwrthwynebydd yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Darparu amgylchedd mwy diogel i breswylwyr, modurwyr, cerddwyr a beicwyr drwy leihau'r terfyn cyflymder wrth ddynesu at Gwmgors.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori mewn perthynas â'r eitem hon.

 

 

8.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Heol Kingdon Owen, Castell-nedd a'i chyffordd â'r Fynedfa i Breswylwyr pdf eicon PDF 864 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cadarnhau'r gwrthwynebiadau, a thynnu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg ar Heol Kingdon, Castell-nedd wrth ei chyffordd â'r lôn fynediad breswyl, o'r Rhaglen Gwaith Cyfalaf a hysbysu'r gwrthwynebwyr yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Byddai'r rhan fwyaf o breswylwyr a fyddai'n elwa o roi'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg wedi gwrthwynebu.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori mewn perthynas â'r eitem hon.

 

 

9.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Hen Ffordd, Llansawel, Castell-nedd DOTX 807 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg ar Hen Heol, Llansawel.

 

Hysbysebu'r Gorchymyn Traffig, ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau, ei roi ar waith ar y safle.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Cynnal cyfleuster croesi'n ddiogel er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Ymgymerir ag ymarfer gynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu.

 

 

10.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Cyffordd Cilgant Cimla â Chestnut Road a Holly Road, Cimla, Castell-nedd pdf eicon PDF 908 KB

Adroddiad gan Bennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwrthod y gwrthwynebiad, a rhoi Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg ar gyffordd Cilgant Cimla â Chestnut Road a Holly Road, Cimla, Castell-nedd ar waith fel yr hysbysebwyd, gan hysbysu'r gwrthwynebydd yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Ychydig iawn o anhwyslustod fyddai i'r gwrthwynebydd am fod ganddo ddigon o le i barcio oddi ar y ffordd; mae ganddo dramwyfa breifat hir a garej bellter yn ôl o'r ffordd;

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori mewn perthynas â'r eitem hon.

 

 

11.

Blaenraglen Waith 2019/2020

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.