Agenda a Chofnodion

Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet - Dydd Gwener, 6ed Rhagfyr, 2019 10.05 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Periodi cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cyng. E V Latham yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 25 Hydref, 2019.

 

3.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2019/2020 - Chwarter 2 (1 Ebrill 2019 i 30 Medi 2019) pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Y dylid nodi'r adroddiad.

 

4.

Cynnig i Adnewyddu Prydles i'r cyngor ar gyfer Cyfarpar Trosglwyddo Radio ac Antena ar do'r T?r D?r yng Nghronfa'r Cocyd, Abertawe pdf eicon PDF 760 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo adnewyddu prydles newydd dros gyfnod o bum mlynedd gan Dŵr Cymru fel rhan o'r tŵr dŵr ar do Cronfa Ddŵr y Cocyd Abertawe, ar yr amodau a'r telerau y cytunwyd arnynt gan y Pennaeth Eiddo ac Adfywio, ac mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gofal Strydoedd a Phennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Hwyluso'r defnydd parhaus o'r wefan i weithredu ei system radio busnes ar draws y fwrdeistref sirol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

5.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Lôn fynediad yr A48, Ten Acre Wood, Orendy Margam a Grugwyllt Fawr, Margam, Port Talbot pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod y terfyn cyflymder 40mya (Gorchymyn Rheoleiddio Traffig) sydd ar yr A48 ym Margam, Port Talbot (fel a fanylwyd yn Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd) yn cael ei roi ar waith ar y safle. 

 

Cadarnhau'r gwrthwynebiadau a bod terfyn cyflymder 30mya (Gorchymyn Rheoleiddio Traffig) ar Ten Acre Wood, Lôn Fynediad i Orendy Margam a Grugwyllt Fawr, Margam, Port Talbot (fel a fanylwyd yn Atodiad B yr adroddiad a ddosbarthwyd) yn cael ei hysbysebu a'i roi ar waith ar y safle os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, a hysbysu'r gwrthwynebydd yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I leihau cyflymder cerbydau er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

6.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Heol Gwilym, Cwmllynfell pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwrthod y gwrthwynebiad bod y mesurau arafu traffig (Gorchymyn Rheoleiddio Traffig) ar Heol Gwilym yn cael eu rhoi ar waith ar y safle fel yr hysbysebwyd, a hysbysebu'r gwrthwynebydd yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I leihau cyflymder er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

 

7.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Rhodfa Parc Leiros a Chlôs Ravenswood, Bryncoch, Castell-nedd pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwrthod y gwrthwynebiad yn rhannol ac y dylid ail-hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg ar Leirios Parc Drive, Bryncoch, Castell-nedd (fel a fanylwyd yn Atodiad B yr adroddiad a ddosbarthwyd) os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau ar y safle, a hysbysu'r gwrthwynebydd yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

 

 

 

8.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Heol Cae'r Bont a Chylchfan Margam ar yr A48 (cyffordd 38 yr M4), Margam, Port Talbot pdf eicon PDF 949 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo hysbysebu'r terfynau cyflymder 30mya a 50mya ar Heol Cae'r Bont a Chylchfan A48 Margam (Cyffordd 38 yr M4) a hysbysebu'r Gorchmynion Traffig, os na dderbynnir gwrthwynebiadau, rhoddir y cynnig ar waith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I leihau cyflymder cerbydau er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

 

9.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Bryngolau, Alltwen pdf eicon PDF 901 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwrthod y gwrthwynebiad a bod y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg ym Mryngolau, yr Allt-wen, Pontardawe yn cael ei roi ar waith fel yr hysbysebwyd a hysbysu'r gwrthwynebydd yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Ychydig iawn o anhwyslustod fyddai i'r gwrthwynebydd am fod ganddo le parcio unigol oddi ar y ffordd ar gyfer cerbydau lluosog ochr yn ochr ag eiddo’r gwrthwynebydd, yr un peth ar gyfer eiddo’r cymdogion ac mae gan y cartref nyrsio faes parcio maint sylweddol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Ymgymerir ag ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu.

 

 

 

10.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

11.

Mynediad i gyfarfodydd

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12, 13 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

12.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnod Rhif. 12 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhesymau dros y brys:

 

Oherwydd yr elfen amser.

 

 

13.

Ynysydarren Culvert - Land Acquisition/Land Drainage Enforcement

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo caffael tir, fel a fanylwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

I sicrhau hyblygrwydd y cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.