Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy - Dydd Gwener, 25ain Mehefin, 2021 10.00 am

Lleoliad: Remotely via Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 111 KB

·        16 Ebrill 2021

·        14 Mai 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd canlynol:

·        16 Ebrill 2021

·        14 Mai 2021

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013: Ystyried y gofynion ar gyfer yr Ymgynghoriad ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol Drafft (MRhTLl) ar gyfer

Castell-nedd Port Talbot a'r gweithdrefnau cyhoeddi/ymgynghori sydd i'w rhoi ar waith

 

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn darparu Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) drafft ar gyfer Castell-nedd Port Talbot i'r Aelodau ynghyd â'r gweithdrefnau ymgynghori ar gyfer yr ymgynghoriad arfaethedig sydd ar ddod.

Esboniodd swyddogion ei bod yn ofynnol adolygu MRhTLl y cyngor bob tair blynedd; bydd angen cyflwyno'r map i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo gan Weinidogion erbyn 31 Rhagfyr 2021. Nodwyd bod gan deithio llesol ystyr penodol yng Nghymru; roedd y llwybrau hyn ar gyfer teithiau pwrpasol beunyddiol i leoedd fel y gwaith a'r ysgol, ac nid oeddent yn cynnwys teithiau a wnaed at ddibenion hamdden neu gymdeithasol. Hysbyswyd yr Aelodau fod dwy elfen i'r map:

·        Llwybrau presennol – y llwybrau a oedd eisoes yn bodloni safonau teithio llesol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru a'r hyn y mae'r cyngor eisoes wedi rhoi cyhoeddusrwydd iddo fel llwybrau addas

·        Llwybrau'r dyfodol – y llwybrau a oedd yn ddyheadau'r cyngor am y 15 mlynedd nesaf; yr oeddent naill ai'n welliannau i lwybrau sydd eisoes yn bod neu'n nodi llwybrau newydd i'w hychwanegu at y rhwydwaith

 

Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd ymrwymiad wedi'i roi ar y cyngor i ddarparu'r MRhTLl; yn hytrach, offeryn oedd hwn yn y bôn i wella'r gwaith o flaengynllunio llwybrau teithio llesol.

O ran y fethodoleg a ddefnyddiwyd, nodwyd bod yr MRhTLl wedi'i ddatblygu drwy'r cydweithio rhwng Sustrans ac Awdurdodau Lleol ar draws y rhanbarthau; roedd hyn yn sicrhau bod cysondeb o ran ymagwedd ar draws ffiniau gweinyddol gan fod y llwybrau teithio llesol yn cysylltu rhwng y Bwrdeistrefi Sirol.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y tîm wedi cynnal ymgynghoriad cychwynnol ar ddiwedd 2020/ddechrau 2021, sef cam cyntaf y broses; cafodd y tîm ymateb hynod o dda o hyn (derbyniwyd dros 2,500 o ymatebion). Soniwyd mai diben yr ymgynghoriad cychwynnol oedd ymgysylltu â'r cyhoedd a chael eu barn ynghylch yr hyn a oedd yn dda a'r hyn a oedd yn wael am y rhwydwaith yng Nghastell-nedd Port Talbot ar hyn o bryd.

Dywedodd swyddogion y bu archwiliad yn ddiweddar o'r llwybrau presennol sydd ar gael; Roedd 10 llwybr wedi'u hychwanegu at y rhestr o lwybrau presennol yn dilyn yr archwiliad. Nodwyd y bu elfen hefyd o gasglu gwybodaeth a mapio teithiau a oedd yn edrych ar ba deithiau oedd yn cael eu gwneud a beth oedd y mannau gadael a phen pob siwrne.

Esboniwyd mai cam olaf y fethodoleg fydd blaenoriaethu'r llwybrau, a fydd yn cael eu cwblhau ar ôl yr ymgynghoriad nesaf; bydd yn nodi'r llwybrau a drefnwyd o ran dyheadau tymor byr, canolig a thymor hwy i'r cyngor.

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â'r ffaith nad oedd y cyngor wedi ymrwymo i ddarparu MRhTLl. Mynegodd yr Aelodau bwysigrwydd egluro y byddai'r cyngor yn hoffi gweld pob llwybr yn cael  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau'r

Blaenraglen Waith Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2021/22.

 

Cytunwyd y dylid trefnu Gweithdy Blaenraglen Waith Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer cyfnod yr hydref.