Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Dewisodd y pwyllgor graffu
ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013: Ystyried y
gofynion ar gyfer yr Ymgynghoriad ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol Drafft
(MRhTLl) ar gyfer
Castell-nedd Port Talbot a'r gweithdrefnau
cyhoeddi/ymgynghori sydd i'w rhoi ar waith
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn darparu Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) drafft ar
gyfer Castell-nedd Port Talbot i'r Aelodau ynghyd â'r gweithdrefnau ymgynghori
ar gyfer yr ymgynghoriad arfaethedig sydd ar ddod.
Esboniodd swyddogion
ei bod yn ofynnol adolygu MRhTLl y cyngor bob tair blynedd; bydd angen
cyflwyno'r map i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo gan Weinidogion erbyn 31
Rhagfyr 2021. Nodwyd bod gan deithio llesol ystyr penodol yng Nghymru; roedd y
llwybrau hyn ar gyfer teithiau pwrpasol beunyddiol i leoedd fel y gwaith a'r ysgol,
ac nid oeddent yn cynnwys teithiau a wnaed at ddibenion hamdden neu
gymdeithasol. Hysbyswyd yr Aelodau fod dwy elfen i'r map:
·
Llwybrau presennol – y
llwybrau a oedd eisoes yn bodloni safonau teithio llesol a bennwyd gan Lywodraeth
Cymru a'r hyn y mae'r cyngor eisoes wedi rhoi cyhoeddusrwydd iddo fel llwybrau
addas
·
Llwybrau'r dyfodol – y
llwybrau a oedd yn ddyheadau'r cyngor am y 15 mlynedd nesaf; yr oeddent naill
ai'n welliannau i lwybrau sydd eisoes yn bod neu'n nodi llwybrau newydd i'w
hychwanegu at y rhwydwaith
Tynnwyd sylw at y
ffaith nad oedd ymrwymiad wedi'i roi ar y cyngor i ddarparu'r MRhTLl; yn
hytrach, offeryn oedd hwn yn y bôn i wella'r gwaith o flaengynllunio llwybrau
teithio llesol.
O ran y fethodoleg a
ddefnyddiwyd, nodwyd bod yr MRhTLl wedi'i ddatblygu drwy'r cydweithio
rhwng Sustrans ac Awdurdodau Lleol ar draws y rhanbarthau; roedd hyn yn sicrhau
bod cysondeb o ran ymagwedd ar draws ffiniau gweinyddol gan fod y llwybrau
teithio llesol yn cysylltu rhwng y Bwrdeistrefi Sirol.
Hysbyswyd y Pwyllgor
fod y tîm wedi cynnal ymgynghoriad cychwynnol ar ddiwedd 2020/ddechrau 2021,
sef cam cyntaf y broses; cafodd y tîm ymateb hynod o dda o hyn (derbyniwyd dros
2,500 o ymatebion). Soniwyd mai diben yr ymgynghoriad cychwynnol oedd
ymgysylltu â'r cyhoedd a chael eu barn ynghylch yr hyn a oedd yn dda a'r hyn a
oedd yn wael am y rhwydwaith yng Nghastell-nedd Port Talbot ar hyn o bryd.
Dywedodd swyddogion y
bu archwiliad yn ddiweddar o'r llwybrau presennol sydd ar gael; Roedd 10 llwybr
wedi'u hychwanegu at y rhestr o lwybrau presennol yn dilyn yr archwiliad.
Nodwyd y bu elfen hefyd o gasglu gwybodaeth a mapio teithiau a oedd yn edrych
ar ba deithiau oedd yn cael eu gwneud a beth oedd y mannau gadael a phen pob
siwrne.
Esboniwyd mai cam olaf
y fethodoleg fydd blaenoriaethu'r llwybrau, a fydd yn cael eu cwblhau ar ôl yr
ymgynghoriad nesaf; bydd yn nodi'r llwybrau a drefnwyd o ran dyheadau tymor
byr, canolig a thymor hwy i'r cyngor.
Cafwyd trafodaeth
ynglŷn â'r ffaith nad oedd y cyngor wedi ymrwymo i ddarparu MRhTLl.
Mynegodd yr Aelodau bwysigrwydd egluro y byddai'r cyngor yn hoffi gweld pob
llwybr yn cael ei ddarparu er nad oedd wedi ymrwymo i wneud hyn. Eglurodd
swyddogion fod y cyngor wedi ymrwymo i wella'r rhwydwaith flwyddyn ar ôl
blwyddyn, fel rhan o gynllun uchelgeisiol hirdymor, a oedd yn gysylltiedig â
chynhyrchu'r map; yn ystod cyfarfod o'r Grŵp Cyfarwyddwyr Corfforaethol,
teimlai'r Prif Swyddogion fod angen pwyslais ar y pwynt nad oedd y cyngor wedi
ymrwymo i ddarparu'r pecyn llawn gan nad oedd y cyllid ar gyfer cyflawni'r
cynllun wedi'i gynnwys o fewn cyllidebau presennol ac nad oedd gan y cyngor yr
adnoddau i gyflawni'r holl ddyheadau a gynhwyswyd yn y cynllun.
Mynegodd yr Aelodau eu
pryderon ynglŷn â chynnal a chadw llwybrau beicio sy'n cael eu rhannu ar
hyn o bryd ar draws amryfal gyfrifoldebau ac adrannau, gan ddibynnu ar leoliad
y llwybrau. Soniodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy nad
dyma'r unig faes lle'r oedd adrannau'n cydgyfarfod, a chadarnhaodd ei fod yn
rhwystro llawer o brosesau.
O ran potensial derbyn
cyllid cynnal refeniw, dywedodd yr Aelodau ei bod yn bwysig sicrhau bod unrhyw
arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio yn y mannau cywir a'i flaenoriaethu'n
gywir, gan fod cyllid yn cael ei rannu'n eithaf eang ar hyn o bryd. Esboniodd
swyddogion fod cyllid yn broblem sylweddol a bod gwaith cynnal a chadw wedi
creu pwysau wrth symud ymlaen; po fwyaf o lwybrau a gynhwyswyd o fewn y
rhwydwaith teithio llesol, mwyaf o waith
cynnal a chadw yr oedd angen ei wneud. Soniodd swyddogion fod y ffordd y
sefydlwyd cyllid Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn golygu nad oedd y cyngor yn
derbyn arian refeniw i fodloni'r gofyniad hwnnw a dim ond gwariant cyfalaf yr
oedd yn ei gael. O ran cyflawni'r cynlluniau, nodwyd bod y cyngor yn ddibynnol
ar gyflawni'r cynllun drwy ddatblygu, boed yn uniongyrchol fel rhan o
gynlluniau a gyflwynwyd, er drwy gyfraniadau Adran 106, neu fod ganddo'r llwybr
i ennill cyllid drwy broses ymgeisio flynyddol gan Lywodraeth Cymru
Gofynnwyd a ellid rhoi
mwy o bwysau ar Lywodraeth Cymru i gael mwy o gyllid er mwyn i'r cyngor
gyflawni'r dyheadau a nodir yn y cynllun. Rhoddodd swyddogion eu sicrwydd eu
bod mewn cysylltiad parhaus â Llywodraeth Cymru o ran cael mwy o gyllid i
gyflawni'r agenda teithio llesol; Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu llawer o
gyllid neilltuedig dros y blynyddoedd diwethaf, ond byddai'r cyngor yn parhau i
geisio gwariant cyfalaf a gwariant refeniw. Anogwyd yr Aelodau i gysylltu â'r
Aelod Cabinet dros Gyllid gan fod ganddo gysylltiadau yn Llywodraeth Cymru a
gallai lobïo am wahanol fathau o gyllid.
Gofynnodd yr Aelodau a
fyddai gwelliannau i rai o'r llwybrau cludiant cyhoeddus, yn dilyn y cyhoeddiad
a wnaed gan Lywodraeth Cymru y byddai mwy o arian yn cael ei glustnodi i
Drafnidiaeth Cymru. Nodwyd y byddai angen cyfeirio'r ymholiad penodol hwn at y
Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth, fodd bynnag o ran cynllunio a datblygu
cludiant cynaliadwy, roedd yn hanfodol integreiddio'r elfennau trafnidiaeth a
chreu lleoedd; roedd angen edrych ar gludiant a'r agenda teithio llesol gyda'i
gilydd fel rhwydwaith integredig, yn hytrach nag ar wahân. Esboniwyd bod
datblygiadau ar raddfa fwy yn gofyn am syniad ehangach o sut y byddai'r
gwahanol elfennau'n cyd-fynd â'i gilydd; y cysylltiadau a'r cysylltwaith, nid
yn unig o fewn y safle ei hun ond sut mae'r safle'n cysylltu â chymunedau o'i
amgylch. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn gweithio gyda'r gwahanol adrannau
trafnidiaeth o fewn yr Awdurdod ac yn edrych ar y Cynllun Datblygu Lleol.
Trafododd y Pwyllgor
ddarparu beiciau trydan a'r hyn a ddisgwylir ohonynt. Nodwyd y byddai defnyddio
beiciau trydan yn ehangu cwmpas y llwybrau y gellid eu defnyddio, ond roedd her
i gael lefel sylweddol o gyllid gan Lywodraeth Cymru; hyd yma, canolbwyntiwyd
ar yr ardaloedd adeiledig lle gellid sicrhau'r enillion uwch o deithio llesol.
O ran MRhTLl Castell-nedd Port Talbot, sylweddolodd Swyddogion
bwysigrwydd edrych ar sut y gellid gwella cysylltiadau mewn ardaloedd adeiledig
ond hefyd sut y gellid gwella'r cysylltiadau rhwng aneddiadau, yn enwedig yng
nghymunedau'r cymoedd; yr her wrth symud ymlaen oedd sut y byddai'n cael ei
gyflawni. Ychwanegwyd y gallai'r beic trydan wella'r achos a'r cyfiawnhad i
allu darparu'r llwybrau hirach.
Ar ôl i'r cyhoedd
gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, pwysleisiodd yr Aelodau bwysigrwydd sicrhau bod
ymatebion Swyddogion mor gywir â phosib a'u bod yn cynnwys y manylion
perthnasol er mwyn i'r cyhoedd ddeall safbwynt y cyngor mewn perthynas â
llwybrau penodol. Aeth yr Aelodau ymlaen wedyn i ofyn a oedd rhestr
flaenoriaeth ar gyfer darparu llwybrau, ac os felly, sut y sefydlwyd hyn.
Mynegwyd pryderon arbennig ynglŷn â darparu llwybrau yng nghymunedau'r
cymoedd.
Cadarnhaodd swyddogion
fod elfen flaenoriaethu i'r fethodoleg, ar ôl yr ymgynghoriad a chyn i'r MRhTLl
gael ei gyflwyno i'w gymeradwyo gan weinidogion, ac roedd y tîm yn
blaenoriaethu'r cynlluniau'n ddyheadau tymor byr, canolig a hwy; roedd elfennau
amrywiol yn gysylltiedig â chanfod beth oedd angen bod ar frig y rhestr
flaenoriaethau gan gynnwys asesu'r gallu i gyflawni cynllun a chostau.
Ychwanegwyd bod gan Lywodraeth Cymru fatrics i'w ddilyn a oedd yn ei gwneud yn
ofynnol i Swyddogion ymchwilio i ffactorau fel dwysedd y boblogaeth, y pellter
i leoliad addysg, y pellter i safleoedd cyflogaeth, hamdden ac iechyd.
Cadarnhaodd swyddogion y gallent ymchwilio i gwmpas y meini prawf a phenderfynu
a allai meini prawf y cymoedd fod yn wahanol i'r rheini ar y coridorau
arfordirol oherwydd y pryderon a fynegwyd gan aelodau.
Yn dilyn ymatebion
swyddogion, cynhaliwyd trafodaeth fer mewn perthynas â'r Ganolfan Ragoriaeth
Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd. Dywedwyd bod potensial, er y tu allan i'r broses
gynllunio, i ddefnyddio manteision cymunedol fel ffordd i Aelodau drafod â
datblygwr; gellid ystyried hyn er mwyn helpu i ddarparu rhai o'r llwybrau nad
ydynt efallai tua pen uchaf y rhestr flaenoriaethau.
Dywedwyd ei bod yn
bwysig rheoli disgwyliadau'r cyhoedd ac anfon y negeseuon priodol mewn
perthynas â theithio llesol. Soniodd swyddogion eu bod wedi cael trafodaethau'n
ddiweddar â chydweithwyr yn y Tîm Cyfathrebu ynglŷn â hyrwyddo'r gwahanol
raglenni gwaith; roedd gan y Tîm Cyfathrebu rôl bwysig o ran sicrhau bod y
cyhoedd yn cael eu hysbysu'n gywir.
I gloi, dywedodd Swyddogion
eu bod yn cydnabod y cyfyngiadau a phryderon yr Aelodau, a rhoesant sicrwydd
bod teithio llesol yn rhywbeth y bydd y cyngor yn ymdrechu ac yn ymrwymo i'w
wella drwy'r blynyddoedd; cafwyd ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru a byddai'r
cyngor yn ceisio bod mor uchelgeisiol â phosib.
Yn dilyn craffu, roedd
y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet