Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy - Dydd Gwener, 30ain Gorffennaf, 2021 10.00 am

Lleoliad: Remotely via Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Cynllun Llesol i Wenyn CNPT

Cyflwynwyd adroddiad i'r aelodau mewn perthynas â Chynllun Llesol i Wenyn Castell-nedd Port Talbot.

Dywedodd swyddogion fod y cynllun hwn yn cynnig newid trefn reoli a thorri ymylon sy’n eiddo i’r cyngor, er mwyn annog glaswelltiroedd blodau gwyllt i ddatblygu, a fydd hefyd yn cyd-fynd â'r gofynion a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth y cyngor a Chynllun Gweithredu Adferiad Natur Castell-nedd Port Talbot.

Nodwyd bod y seminar diweddar ar gyfer yr holl aelodau a gynhaliwyd i drafod y pwnc hwn yn ddefnyddiol iawn ac yn caniatáu i'r aelodau roi eu mewnbwn; Ystyriodd swyddogion lawer o'r sylwadau a'r awgrymiadau a wnaed.

Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd cynnal y defnydd o fannau gwyrdd ar gyfer amwynder, yn enwedig yn yr ardaloedd trefol; roedd yn bwysig cael cefnogaeth gan y gymuned a chael ymgysylltiad cymunedol cadarn. Soniwyd bod Tai Tarian yn berchen ar hanner yr ardaloedd gwyrdd ac yn eu rheoli a bod yr hanner arall yn eiddo i'r cyngor ac yn cael eu rheoli ganddo; roedd angen cydlyniad rhwng y ddau grŵp er mwyn sicrhau bod cymysgedd priodol rhwng cadw mannau amwynder a ddefnyddiwyd yn aml, a chyflwyno'r gwelliannau pwysig i fioamrywiaeth.

Rhannodd yr aelodau stori arfer da gan Tai Tarian, lle’r ymgysyllton nhw â chymdogion mewn ardal, mewn perthynas â newid man gwyrdd, ac roeddent wedi gallu gwneud mân newidiadau i’w cynlluniau gwreiddiol i ganiatáu i weithgareddau cymunedol ddigwydd yn y man gwyrdd, yn ogystal â chael yr ychwanegiadau bioamrywiaeth angenrheidiol; roedd ymgysylltu â'r cyhoedd yn bwysig iawn gan ei fod yn rhoi dealltwriaeth o sut roedd y gymuned yn defnyddio lleoedd.

Cadarnhaodd swyddogion fod mannau amwynder yn hanfodol bwysig yn y gymuned, a'i bod hefyd yn bwysig sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r cynllun hwn fel eu bod yn deall y rhesymau pam yr oedd angen gwelliannau i fioamrywiaeth; byddai cyfathrebu a brandio'r cynllun hwn yn hanfodol, a gwnaed awgrymiadau mewn perthynas â ffyrdd o'i hyrwyddo i'r cyhoedd

Soniwyd bod aelodau'r Tîm Bioamrywiaeth wedi anfon llythyrau at Gynghorwyr ac wedi cynnal cyfarfodydd unigol â nhw yn eu Wardiau i drafod ardaloedd penodol, gan fod anghenion penodol gwahanol ar draws yr amrywiaeth o fannau awyr agored.

Hysbyswyd yr aelodau fod angen i'r cyngor sicrhau bod ei sefyllfa a'i weithdrefnau wedi'u sefydlu, ac yna byddai staff yn trafod y mater hwn â gwahanol sefydliadau i sicrhau eu bod eu hymagwedd yn cyd-fynd ag ymagwedd y cyngor. Ychwanegodd swyddogion mai diogelwch fyddai'r flaenoriaeth gyntaf yn y gwaith a wneir.

Gofynnwyd a fyddai'r cynllun yn cael ei ehangu i ardaloedd tir llwyd a thir diwydiannol nas defnyddir. Esboniodd swyddogion mai'r ffocws presennol oedd edrych ar yr ymylon presennol ar dir sy'n eiddo i'r cyngor; byddai'r cynllun yn cymryd peth amser i symud drwy'r gwahanol feysydd, gan fod Swyddogion yn awyddus iddo weithio'n effeithiol. Fodd bynnag, cadarnhawyd y gallai fod yn bosib ymchwilio i'r ardaloedd tir llwyd i ddod â blodau gwyllt  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.

2.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2021/22.