Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Cynllun Llesol i Wenyn CNPT
Cyflwynwyd adroddiad i'r
aelodau mewn perthynas â Chynllun Llesol i Wenyn Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd swyddogion fod y
cynllun hwn yn cynnig newid trefn reoli a thorri ymylon sy’n eiddo i’r cyngor,
er mwyn annog glaswelltiroedd blodau gwyllt i ddatblygu, a fydd hefyd yn
cyd-fynd â'r gofynion a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Cynllun Dyletswydd
Bioamrywiaeth y cyngor a Chynllun Gweithredu Adferiad Natur Castell-nedd Port
Talbot.
Nodwyd bod y seminar diweddar
ar gyfer yr holl aelodau a gynhaliwyd i drafod y pwnc hwn yn ddefnyddiol iawn
ac yn caniatáu i'r aelodau roi eu mewnbwn; Ystyriodd swyddogion lawer o'r
sylwadau a'r awgrymiadau a wnaed.
Pwysleisiodd y Pwyllgor
bwysigrwydd cynnal y defnydd o fannau gwyrdd ar gyfer amwynder, yn enwedig yn
yr ardaloedd trefol; roedd yn bwysig cael cefnogaeth gan y gymuned a chael
ymgysylltiad cymunedol cadarn. Soniwyd bod Tai Tarian yn berchen ar hanner yr
ardaloedd gwyrdd ac yn eu rheoli a bod yr hanner arall yn eiddo i'r cyngor ac
yn cael eu rheoli ganddo; roedd angen cydlyniad rhwng y ddau grŵp er mwyn
sicrhau bod cymysgedd priodol rhwng cadw mannau amwynder a ddefnyddiwyd yn aml,
a chyflwyno'r gwelliannau pwysig i fioamrywiaeth.
Rhannodd yr aelodau stori
arfer da gan Tai Tarian, lle’r ymgysyllton nhw â chymdogion mewn ardal, mewn
perthynas â newid man gwyrdd, ac roeddent wedi gallu gwneud mân newidiadau i’w
cynlluniau gwreiddiol i ganiatáu i weithgareddau cymunedol ddigwydd yn y man
gwyrdd, yn ogystal â chael yr ychwanegiadau bioamrywiaeth angenrheidiol; roedd
ymgysylltu â'r cyhoedd yn bwysig iawn gan ei fod yn rhoi dealltwriaeth o sut
roedd y gymuned yn defnyddio lleoedd.
Cadarnhaodd swyddogion fod
mannau amwynder yn hanfodol bwysig yn y gymuned, a'i bod hefyd yn bwysig
sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r cynllun hwn fel eu bod yn deall y
rhesymau pam yr oedd angen gwelliannau i fioamrywiaeth; byddai cyfathrebu a
brandio'r cynllun hwn yn hanfodol, a gwnaed awgrymiadau mewn perthynas â ffyrdd
o'i hyrwyddo i'r cyhoedd
Soniwyd bod aelodau'r Tîm
Bioamrywiaeth wedi anfon llythyrau at Gynghorwyr ac wedi cynnal cyfarfodydd
unigol â nhw yn eu Wardiau i drafod ardaloedd penodol, gan fod anghenion
penodol gwahanol ar draws yr amrywiaeth o fannau awyr agored.
Hysbyswyd yr aelodau fod angen
i'r cyngor sicrhau bod ei sefyllfa a'i weithdrefnau wedi'u sefydlu, ac yna
byddai staff yn trafod y mater hwn â gwahanol sefydliadau i sicrhau eu bod eu
hymagwedd yn cyd-fynd ag ymagwedd y cyngor. Ychwanegodd swyddogion mai
diogelwch fyddai'r flaenoriaeth gyntaf yn y gwaith a wneir.
Gofynnwyd a fyddai'r cynllun
yn cael ei ehangu i ardaloedd tir llwyd a thir diwydiannol nas defnyddir.
Esboniodd swyddogion mai'r ffocws presennol oedd edrych ar yr ymylon presennol
ar dir sy'n eiddo i'r cyngor; byddai'r cynllun yn cymryd peth amser i symud
drwy'r gwahanol feysydd, gan fod Swyddogion yn awyddus iddo weithio'n
effeithiol. Fodd bynnag, cadarnhawyd y gallai fod yn bosib ymchwilio i'r
ardaloedd tir llwyd i ddod â blodau gwyllt yn ôl iddynt; gallai swyddogion
drafod cynlluniau i archwilio'r ardaloedd hyn a nodi a oedd unrhyw fanciau
hadau presennol y gellid eu hailhadu er mwyn iddo dyfu'n ddôl blodau gwyllt.
Ychwanegwyd bod y cyngor am osgoi cyflwyno rhywogaethau anfrodorol a
chymysgeddau hadau gan fod elfen gost i hynny, ac roedd am annog rhywogaethau
brodorol i dyfu. Byddai swyddogion yn cysylltu â Chydlynydd y Bartneriaeth
Natur Leol i drefnu trafodaeth â’r aelod â diddordeb am yr ardaloedd tir llwyd
yr oeddent yn cyfeirio atynt; yna gellid cynnwys yr ardal ar y map, ac os yw'r
ardal yn dir sy'n eiddo i'r cyngor, gellid cynnal arolwg i gael dealltwriaeth
o'r ardal a'r hyn y gellid ei wneud i wella bioamrywiaeth.
O ran canfyddiad y cyhoedd,
nodwyd bod angen dosbarthu negeseuon clir pan fydd cynlluniau'n cael eu llunio,
er mwyn esbonio i'r cyhoedd ble byddai'r gwaith yn digwydd. Tynnodd swyddogion
sylw at y ffaith eu bod yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Tîm
Gwasanaethau Cyfathrebu a Digidol i sicrhau bod y negeseuon cywir yn cael eu
postio ar y cyfryngau cymdeithasol; bydd y negeseuon hyn yn cynnwys
ffotograffau cyn ac ar ôl y gwaith, gan y bydd y rhain yn dangos yn glir pa
wahaniaeth y bydd y gwaith yn ei wneud.
Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Ystyried Cynllun Datblygu
Lleol Newydd Castell-nedd Port Talbot
Derbyniodd y Pwyllgor
adroddiad i ystyried Cynllun Datblygu Lleol Newydd Castell-nedd Port Talbot
2021-2036, Ymgynghoriad Drafft y Cytundeb Cyflawni ac Ymgynghoriad Drafft yr
Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig; dyddiad dechrau'r ymgynghoriad arfaethedig
oedd 16 Awst 2021, a bydd yn dod i ben chwe wythnos yn ddiweddarach ar 27 Medi
2021.
Hysbyswyd yr aelodau fod
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol y cyngor wedi'i fabwysiadu am 15
mlynedd (o 2011 i 2026) ac y bydd angen i'r cyngor adnewyddu'r cynllun hwn bob
pedair blynedd; roedd swyddogion wedi cyflwyno adroddiad adolygu ac yn paratoi
CDLl newydd, felly pan fydd y cynllun newydd yn cael ei fabwysiadu, byddai'n
disodli'r CDLl presennol.
Oherwydd cychwyniad y
pandemig, tynnwyd sylw at y ffaith bod rhywfaint o oedi wedi bod yn y broses.
Roedd swyddogion wedi ailddechrau gweithio ar y Cytundeb Cyflawni Drafft a oedd
yn nodi'r canlynol:
·
Yr amserlen – roedd angen llunio'r cynllun o fewn 3.5
mlynedd, ac nid oedd yn rhoi llawer o amser i lunio'r cynllun cynhwysfawr hwn;
·
Y cynllun cynnwys y gymuned – roedd hyn yn cynnwys gyda phwy
y byddai’r cyngor yn cysylltu, pryd y cysylltir â nhw a sut y cysylltir â nhw;
·
Yr adnoddau y bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn eu
defnyddio i baratoi'r cynllun;
·
Y gyllideb ar gyfer llunio'r cynllun o fewn yr amserlen.
Nodwyd bod yr Arfarniad Cynaliadwyedd
Integredig (ACI) yn broses ailadroddol ar ffurf adroddiad; roedd angen anfon
unrhyw bolisïau neu strategaethau etc. a luniwyd wrth i'r cynllun gael ei
baratoi fynd drwy'r broses ACI i'w hasesu. Soniwyd y bydd yr asesiad hwn yn
penderfynu a oedd y gwahanol bolisïau dogfennau eraill yn addas i fodloni
gofynion cynaliadwyedd y cynllun cyffredinol; os penderfynir nad ydynt yn
addas, bydd angen i Swyddogion eu diwygio.
Cyfeiriwyd at gynnwys y
gymuned a sut roedd hyn yn allweddol wrth ddatblygu'r CDLl; yn y blynyddoedd
blaenorol, roedd y cyngor wedi anfon taflenni at breswylwyr, ond nid oedd hyn
yn llwyddo i’w hannog i ymwneud â'r CDLl. Nododd yr aelodau bwysigrwydd
cyrraedd pob etholwr gan ei fod yn ymarfer ymgynghori sylweddol iawn. Gwnaed
awgrym ynghylch gwella ymgysylltiad y cyhoedd sef bod llythyr yn cael ei lunio
mewn ffordd debyg i'r ffordd y cafodd y preswylwyr eu llythyr treth y cyngor,
gan mai dyma'r math o wybodaeth y byddai gan y rhan fwyaf o’r cyhoedd
ddiddordeb ynddo, ac felly’n byddent yn ei agor a’i ddarllen, ac roedd hefyd yn
ffordd llai costus o gael mwy o bobl i ymgysylltu. Nododd swyddogion y sylwadau
a wnaed ar gyfer gohebiaeth yn y dyfodol; roedd y tîm bob amser yn chwilio am
syniadau newydd, ac os oedd gan yr aelodau unrhyw awgrymiadau pellach, fe'u
hanogwyd i gysylltu â'r tîm. Cytunwyd, yn amodol ar gymeradwyaeth, y byddai'r
awgrym yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad cyn dechrau'r ymgynghoriad.
Cynhaliwyd trafodaeth mewn
perthynas â sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol. Gofynnwyd a allai'r Tîm
Cyfathrebu helpu gyda hyn ac ymateb yn uniongyrchol i sylwadau ar dudalennau
cyfryngau cymdeithasol, er mwyn ceisio annog preswylwyr i ymateb i'r
ymgynghoriad yn y ffordd gywir; byddai hyn yn helpu i sicrhau na chollir
sylwadau defnyddiol, a bod preswylwyr yn cael gwybod am y broses gywir o
gyflwyno sylwadau. Cadarnhaodd swyddogion fod deddfwriaeth ar waith mewn
perthynas â chyflwyno sylwadau, naill ai drwy ffurflen neu ar y porth
ymgynghori; ni ellid derbyn sylwadau/awgrymiadau a wnaed ar gyfryngau
cymdeithasol. Nodwyd y byddai angen adnoddau er mwyn monitro sylwadau ar
gyfryngau cymdeithasol ac ni ellid cadarnhau hyn. Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod angen iddynt ystyried ffyrdd o ymgysylltu â phob grŵp o bobl,
gan gynnwys y rheini nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd. Soniwyd y byddai'r
defnydd o jargon yn cael ei leihau er mwyn sicrhau bod gan y cyhoedd
ddealltwriaeth glir o'r hyn yr oedd y cyngor yn ceisio'i gyflawni; Roedd
swyddogion yn gweithio gyda chwmni lleol i ailfrandio'r CDLl a chyflwyno fideos
a oedd yn symleiddio'r broses ac yn cynnwys pobl. Awgrymwyd y gallai aelodau
fod yn rhan o'r gynrychiolaeth ar gyfryngau cymdeithasol i gyfeirio'r cyhoedd
i'r cyfeiriad cywir.
Mewn perthynas â'r cyfarfodydd
rhanddeiliaid, roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi y byddai'r cyfarfodydd
yn cael eu cynnal ar-lein; Gofynnodd yr aelodau a fyddai'n bosib cynnal
cyfarfodydd wyneb yn wyneb pe bai'r cyfyngiadau'n caniatáu hynny, gan y byddai'n
dangos pwysigrwydd ac arwyddocâd yr hyn yr oedd y cyngor yn ei wneud.
Cadarnhaodd swyddogion, pe bai canllawiau'r Llywodraeth yn newid, y byddent yn
gallu cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb; cytunwyd y byddai Swyddogion yn
sicrhau bod hyn yn cael ei egluro yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Gofynnwyd a oedd modd lobïo
Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu ardaloedd tir llifogydd, gan fod
cryn dipyn o dir wedi'i gynnwys yn y categori hwn. Dywedodd swyddogion y byddai
llifogydd yn cyfyngu'n fawr ar ddatblygiad y gwaith hwn; roedd Nodyn Cyngor
Technegol (TAN) Llywodraeth Cymru ar lifogydd yn cael ei lunio ar hyn o bryd, a
disgwylir iddo gael ei gyhoeddi fis nesaf i Swyddogion ei ystyried. Nodwyd bod
Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddatblygu
mapiau llifogydd newydd, a fydd o bosib yn cynnwys ardaloedd llifogydd newydd;
byddai hyn yn effeithio ar sut y caiff y CDLl ei lunio, ond roedd yr amseru'n
dda o ran y cam yr oedd y tîm wrthi'n cyflawni wrth ddatblygu'r cynllun.
Hysbyswyd yr aelodau fod
rheoliadau hygyrchedd ar waith, a oedd yn golygu bod yn rhaid i bopeth fod ar
gael ar y wefan a'r deunyddiau eraill a ddefnyddir i gyfathrebu â'r cyhoedd;
roedd angen i'r negeseuon fod yn ddealladwy, yn glir ac yn gryno. Soniwyd y byddai
gan y cyhoedd ddiddordeb mewn rhai o gamau’r CDLl a rhai agweddau arno, yn
hytrach na'r holl broses; roedd angen rheoli'r pwyntiau diddordeb penodol hyn
yn y broses yn ofalus ac roedd angen i Swyddogion sicrhau bod y negeseuon cywir
yn cael eu cyfleu i'r cyhoedd.
Nodwyd bod dichonoldeb yn
elfen allweddol o’r CDLl; pan gyflwynodd datblygwyr dir, roedd yn hanfodol eu
bod yn dangos sut y byddai'r safle hwnnw'n cael ei ddatblygu, gan ystyried holl
ofynion Adran 106 y cyngor. Pan gyflwynwyd tir, dywedodd swyddogion fod angen i
dirfeddianwyr/datblygwyr y safle sicrhau bod gofynion Adran 106 yn cael eu
hystyried wrth brynu'r tir i sicrhau bod y cyfleusterau hefyd yn cael eu
darparu ac wedi'u sefydlu ar gyfer y gymuned; gan gynnwys isadeiledd gwyrdd,
teithio llesol etc., i sicrhau ei fod yn lleoliad y mae pobl eisiau byw ynddo.
Aeth y Pwyllgor drwy amserlen
y CDLl, yn enwedig yr amserlen ar gyfer cyhoeddi'r gofrestr safleoedd ymgeisiol
a'r adborth cymunedol ar safleoedd ymgeisiol. Cadarnhawyd y cyhoeddir y
gofrestr safleoedd ymgeisiol ym mis Mehefin 2022, ar ôl cyfnod yr etholiad;
bydd swyddogion yn adolygu adborth y gymuned, ond ni fyddant yn ymateb iddo gan
y byddai hyn yn cymryd cryn dipyn o amser. Ychwanegwyd y bydd y sylwadau'n cael
eu hystyried pan gaiff y safleoedd ymgeisiol eu hasesu.
Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith y byddent yn hapus i hwyluso unrhyw seminarau ar gyfer yr holl aelodau
mewn perthynas ag agweddau amrywiol ar y CDLl, pe bai'r aelodau'n gofyn am hyn.
Cynigiwyd a secondiwyd
gwelliant ffurfiol i'r argymhelliad a gynhwyswyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, a newidiodd argymhelliad rhif 1 i'r canlynol:
Cytuno ar gytundeb cyflawni
ymgynghoriad drafft y CDLl newydd fel y'i nodir yn atodiad 2 at ddibenion yr
ymgynghoriad, yn amodol ar gynnwys yr adborth gan aelodau yn y Pwyllgor Craffu
Adfywio a Datblygu Cynaliadwy mewn perthynas â chynnwys y gymuned.
Penderfynwyd bod y Pwyllgor yn
cefnogi'r diwygiad i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.