Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy - Dydd Gwener, 14eg Ionawr, 2022 10.00 am

Lleoliad: Remotely via Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr Aelod canlynol ddatganiad o fudd ar

ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd S Rahaman        Parthed: Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Dwristiaeth, 2022, gan ei fod yn gweithio mewn bwyty ar lan môr Aberafan yng Nghastell-nedd Port Talbot

 

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Dwristiaeth, 2022

Darparwyd adroddiad i'r Aelodau ynghylch y diweddaraf am Dwristiaeth ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Cyfeiriwyd at ymgysylltu, cyrhaeddiad a nifer y bobl sy'n ei 'hoffi' ar gyfryngau cymdeithasol. Roedd gan yr Aelodau ddiddordeb mewn gweld cyrhaeddiad yr ymgyrch farchnata y tu allan i'r Fwrdeistref Sirol, a gofynnwyd a oedd dadansoddiad, yn ddaearyddol, o rywfaint o'r data hwnnw, yn enwedig mewn perthynas â dilynwyr cyfryngau cymdeithasol. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn ymchwilio i ba ddata y gellid ei dynnu ynghyd; fodd bynnag, gofynnwyd i'r Aelodau gadw mewn cof mai dim ond am bedwar mis yr oedd yr ymgyrch wedi bod yn rhedeg yn ystod cyfnod y gaeaf. Byddai swyddogion yn dosbarthu'r data ar ôl iddo gael ei goladu.

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn dweud y byddai Aelodau a rhanddeiliaid yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithdai fel rhan o'r broses, i ddyfeisio'r Cynllun Rheoli Cyrchfannau newydd; ac yn amodol ar gaffael, dylai'r cynllun newydd fod ar waith erbyn haf 2022. Gofynnodd yr Aelodau pryd y byddai'r gweithdai'n cael eu cynnal. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd y contractwr ar gyfer y gweithdai wedi'i benodi eto; unwaith y caiff ei benodi, byddai'r trefniadau'n cael eu rhoi ar waith o ran amserlenni. Esboniodd swyddogion y byddai'r gweithdai'n cael eu cynnal ar-lein pe bai cyfyngiadau'n dal i fod ar waith; os yn bosib, byddant yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb.

Gofynnodd y Pwyllgor a allai Swyddogion fonitro'r defnydd o safleoedd gyda chyflenwad trydan a oedd ar waith ar draws y Fwrdeistref Sirol; ac os nodwyd eu bod yn cael eu defnyddio'n aml, gofynnwyd a fyddai'n bosib ymchwilio i leoedd eraill ar draws y Fwrdeistref Sirol, a allai elwa o gyflenwadau trydanol.

O ran y cysylltiadau cludiant cyhoeddus â thwristiaeth, gofynnwyd sut roedd y cyngor yn annog ymwelwyr i gyrraedd Castell-nedd Port Talbot (CNPT) drwy gludiant cyhoeddus, a sut roedd y cyngor yn ymgysylltu â'r gwahanol weithredwyr trafnidiaeth. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod cludiant cyhoeddus i deithio i'r cyrchfan, ac o'i gwmpas, yn ystyriaeth allweddol i ymwelwyr, ond roedd problemau amrywiol o ran argaeledd ac amlder gwasanaethau ar gyfer llawer o gynghorau. Dywedwyd bod costau sylweddol yn gysylltiedig â rhoi cymhorthdal i wasanaethau, ac anawsterau wrth berswadio pobl i ddefnyddio'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus, gan ei bod weithiau'n anodd cyrraedd lleoedd a/neu byddai'n cymryd amser hir iawn; y ddarpariaeth sydd ei hangen i ddiwallu anghenion ymwelwyr a bod yn gyfleus iddynt ei defnyddio. Er gwaethaf y problemau, hysbyswyd yr Aelodau fod y cyngor wedi gweithio gyda Bay Trans a oedd wedi llunio cyfres o 'Droeon i'w cyrraedd ar Fws' gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn CNPT; roedd y cyngor hefyd yn gweithio gyda Great Western Railway ar hyn o bryd, ac roedd yr ardal i'w chynnwys yn eu hymgyrch arfaethedig, gyda phosteri mewn gorsafoedd trên/ar drenau ac ar gyfryngau cymdeithasol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd y materion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 453 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at y gweithdai ar gyfer y Cynllun Rheoli Cyrchfannau, a sut y byddai'r Pwyllgor yn rhan o'r gwaith hwn yn y dyfodol; Gofynnwyd i Swyddogion roi'r diweddaraf i'r Aelodau ar hyn.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch ansawdd aer, a oedd yn bwnc a gynhwyswyd yng nghylch gwaith y Pwyllgor hwn. Gofynnwyd i'r Aelodau anfon e-bost at y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd i egluro'u pryderon, ac i dynnu sylw at ba wybodaeth bellach y gellid ei hychwanegu at yr adroddiad blynyddol ar ansawdd aer.

 Nododd yr Aelodau'r Blaenraglen Waith Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2021/22.