Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Dewisodd y pwyllgor graffu ar
yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Adroddiad ynghylch y
Diweddaraf am Dwristiaeth, 2022
Darparwyd adroddiad i'r
Aelodau ynghylch y diweddaraf am Dwristiaeth ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot.
Cyfeiriwyd at ymgysylltu,
cyrhaeddiad a nifer y bobl sy'n ei 'hoffi' ar gyfryngau cymdeithasol. Roedd gan
yr Aelodau ddiddordeb mewn gweld cyrhaeddiad yr ymgyrch farchnata y tu allan
i'r Fwrdeistref Sirol, a gofynnwyd a oedd dadansoddiad, yn ddaearyddol, o
rywfaint o'r data hwnnw, yn enwedig mewn perthynas â dilynwyr cyfryngau
cymdeithasol. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn ymchwilio i ba ddata y gellid
ei dynnu ynghyd; fodd bynnag, gofynnwyd i'r Aelodau gadw mewn cof mai dim ond
am bedwar mis yr oedd yr ymgyrch wedi bod yn rhedeg yn ystod cyfnod y gaeaf.
Byddai swyddogion yn dosbarthu'r data ar ôl iddo gael ei goladu.
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn dweud y byddai Aelodau a rhanddeiliaid yn cael eu gwahodd i
gymryd rhan mewn gweithdai fel rhan o'r broses, i ddyfeisio'r Cynllun Rheoli
Cyrchfannau newydd; ac yn amodol ar gaffael, dylai'r cynllun newydd fod ar
waith erbyn haf 2022. Gofynnodd yr Aelodau pryd y byddai'r gweithdai'n cael eu
cynnal. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd y contractwr ar gyfer y gweithdai
wedi'i benodi eto; unwaith y caiff ei benodi, byddai'r trefniadau'n cael eu
rhoi ar waith o ran amserlenni. Esboniodd swyddogion y byddai'r gweithdai'n
cael eu cynnal ar-lein pe bai cyfyngiadau'n dal i fod ar waith; os yn bosib,
byddant yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb.
Gofynnodd y Pwyllgor a allai
Swyddogion fonitro'r defnydd o safleoedd gyda chyflenwad trydan a oedd ar waith
ar draws y Fwrdeistref Sirol; ac os nodwyd eu bod yn cael eu defnyddio'n aml,
gofynnwyd a fyddai'n bosib ymchwilio i leoedd eraill ar draws y Fwrdeistref
Sirol, a allai elwa o gyflenwadau trydanol.
O ran y cysylltiadau cludiant
cyhoeddus â thwristiaeth, gofynnwyd sut roedd y cyngor yn annog ymwelwyr i
gyrraedd Castell-nedd Port Talbot (CNPT) drwy gludiant cyhoeddus, a sut roedd y
cyngor yn ymgysylltu â'r gwahanol weithredwyr trafnidiaeth. Tynnodd swyddogion
sylw at y ffaith bod cludiant cyhoeddus i deithio i'r cyrchfan, ac o'i gwmpas,
yn ystyriaeth allweddol i ymwelwyr, ond roedd problemau amrywiol o ran
argaeledd ac amlder gwasanaethau ar gyfer llawer o gynghorau. Dywedwyd bod
costau sylweddol yn gysylltiedig â rhoi cymhorthdal i wasanaethau, ac
anawsterau wrth berswadio pobl i ddefnyddio'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus,
gan ei bod weithiau'n anodd cyrraedd lleoedd a/neu byddai'n cymryd amser hir
iawn; y ddarpariaeth sydd ei hangen i ddiwallu anghenion ymwelwyr a bod yn
gyfleus iddynt ei defnyddio. Er gwaethaf y problemau, hysbyswyd yr Aelodau fod
y cyngor wedi gweithio gyda Bay Trans a oedd wedi llunio cyfres o 'Droeon i'w
cyrraedd ar Fws' gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn CNPT; roedd y cyngor
hefyd yn gweithio gyda Great Western Railway ar hyn o bryd, ac roedd yr ardal
i'w chynnwys yn eu hymgyrch arfaethedig, gyda phosteri mewn gorsafoedd trên/ar
drenau ac ar gyfryngau cymdeithasol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd y
materion hyn yn unigryw i CNPT; roedd llawer o ardaloedd eraill yng Nghymru
mewn sefyllfa debyg, yn enwedig lle mae gan awdurdodau gymysgedd o dirweddau
gwledig amrywiol.
Gofynnwyd i swyddogion
ddarparu gwybodaeth am yr ymatebion i'r Ymgyrch Marchnata Cyrchfannau, gan
newyddiadurwyr yng Nghymru a'r tu allan iddi; holwyd hefyd a oedd unrhyw
gynlluniau i ehangu'r gwaith hyrwyddo i gyhoeddiadau/wasanaethau ar-lein
eraill. Cadarnhawyd bod y Tîm ar hyn o bryd yn gweithio ar gael sylw
cenedlaethol yn y wasg. Fodd bynnag, hysbyswyd yr Aelodau mai nod yr ymgyrch
oedd ymgysylltu'n uniongyrchol â chynulleidfaoedd; roedd yn anodd olrhain
cynnydd ar hyn drwy ryddhau erthyglau mewn papurau, yn hytrach roedd Swyddogion
yn olrhain ac yn mesur llwyddiant drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a
dadansoddeg gwefannau etc. Roedd rhai enghreifftiau o hysbysebu â thâl yn
cynnwys Bristol Live a Birmingham Live gyda Reach PLC; Roedd swyddogion hefyd
wedi bod yn ymgysylltu â chyhoeddiadau fel Active Traveller Magazine sy'n
apelio at farchnad darged allweddol. Rhoddodd swyddogion sicrwydd i'r Aelodau y
byddent yn manteisio ar bob cyfle i farchnata'r ymgyrch, ac roeddent mewn
trafodaethau â gwahanol gwmnïau sy'n anfon datganiadau i'r wasg; Yn ddiweddar
cyhoeddodd Golwg erthygl ar yr ymgyrch ar ôl dangos diddordeb yn y gwaith oedd
yn cael ei wneud. Soniwyd bod yr ymgyrch yn y camau cynnar, ac roedd Swyddogion
yn bwriadu marchnata'r gwaith hwn hyd at ddiwedd 2022; disgwylid llawer mwy i
ddangos diddordeb ynddi yn y misoedd i ddod.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd y
cyngor yn marchnata'r ymgyrch yng Nghymru, yn ogystal â'r tu allan i Gymru; gan
nad yw rhai pobl yn yr ardal, a'r ardaloedd cyfagos, yn gwybod beth oedd gan
CNPT i'w gynnig o ran cyrchfannau twristiaeth. Er bod trigolion Cymru'n rhan
o'r farchnad darged, nodwyd nad oedd cyllideb wedi'i neilltuo i fynd ati i
dargedu cyfryngau lleol gan mai diben yr ymgyrch oedd annog seibiannau
byr/arosiadau dros nos; byddai cyfryngau lleol yn helpu i dargedu ymwelwyr dydd
ond nid oedd hyn yn un o amcanion yr ymgyrch ar hyn o bryd. Soniodd swyddogion
fod annog seibiannau byr ac arosiadau dros nos yn amcan allweddol, a'r rheswm
pam yr ailsefydlwyd y Tîm Twristiaeth; Roedd 91% o ymwelwyr CNPT eisoes yn
ymwelwyr dydd, ac roedd yn hysbys o ymchwil, er bod croeso i ymwelwyr dydd ac y
byddant yn cael eu hannog, fod yr ymwelwyr a oedd yn aros dros nos yn gwneud
cyfraniad sylweddol i'r economi leol. Er nad oedd Swyddogion wrthi'n targedu'r
wasg leol, tynnwyd sylw at y ffaith y byddent yn ymwybodol o'r datganiadau i'r
wasg a'r newyddion a gyhoeddwyd ynglŷn â'r gwaith hwn; pe bai unrhyw
gyfle'n codi, byddai Swyddogion yn bwrw ymlaen ag ef, er na fyddai'r cyngor o
reidrwydd yn talu am farchnata.
Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
darpariaethau gwersylla a chyfleusterau cyflenwadau trydan ar draws y
Fwrdeistref Sirol.
Yn dilyn sôn am Barc Gwledig y
Gnoll, dywedodd Swyddogion fod amodau cynllunio sensitif yn gysylltiedig â'r
ardal oherwydd ei fod yn dirwedd restredig; roedd hyn yn golygu mai prin oedd
yr opsiynau llety a ganiateir. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y gwaith o amgylch Prif
Gynllun y Gnoll yn cynnwys edrych ar wahanol opsiynau llety ar gyfer y Gnoll;
daethpwyd i'r casgliad bod darparu podiau/llety hunanarlwyo yn addas ac y byddai'n
ateb y galw gan ymwelwyr. Soniodd swyddogion eu bod yn ystyried opsiynau
ariannu i fwrw ymlaen â hyn.
O ran darparu gwersylla a
charafanio, tynnwyd sylw at y ffaith bod y cyngor wedi derbyn nifer o
ymholiadau gan unigolion â thir, a oedd am sefydlu safleoedd ar gyfer hyn;
roedd y broses yn cynnwys Swyddogion yn mynd â'r ymholiadau hyn i'w llawn
botensial, a'u cefnogi drwy'r cymorth ariannol a oedd ar gael. Fodd bynnag,
esboniwyd bod meini prawf cynllunio amrywiol y byddai angen i'r safleoedd hyn
eu bodloni, nad oeddent bob amser yn apelio at berchennog y tir. Roedd
swyddogion yn ymwybodol o'r galw am gyfleusterau gwersylla a charafanio, a
byddent yn helpu i'w hwyluso lle bo hynny'n bosib; fodd bynnag, yr unig ffordd
o gyflawni hyn oedd pe bai'r sector preifat yn cyflwyno'r tir.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd
modd rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ar dir sy'n eiddo i'r cyngor, ac os
felly, a ellid cynnal astudiaeth dichonoldeb ar gyfer hyn. Esboniodd swyddogion
y byddai angen rhoi isadeiledd ar waith er mwyn hwyluso gwersylla a charafanio;
roedd hefyd yn bwysig sicrhau bod y ddarpariaeth yn y lle iawn ac yn hygyrch i
ymwelwyr. Nodwyd bod y cyngor eisoes wedi edrych ar Barc Margam fel ardal bosib
i ddarparu ar gyfer y math hwn o lety, y gellid ymchwilio iddo eto yn y dyfodol
ar ôl i'r cynigion presennol ar gyfer y parc gael eu cwblhau.
Yn dilyn yr uchod, dywedodd
Swyddogion na fyddai darparu gwersylla a charafanio o reidrwydd yn darparu elw
ariannol i'r cyngor; roedd angen rheoli'r safleoedd hyn yn effeithlon, a
fyddai'n cynnwys cael gweithwyr ar y safle yn barhaus i ateb ymholiadau
cwsmeriaid a datrys unrhyw broblemau. Hysbyswyd yr Aelodau nad oedd y cyngor
mewn sefyllfa i allu gwneud hynny ar hyn o bryd; fodd bynnag, roedd Swyddogion
yn gallu helpu i annog y sector preifat i edrych ar y cyfleoedd amrywiol sydd
ar gael.
Dywedodd y Rheolwr Twristiaeth
y gallai'r ddarpariaeth ar gyfer gwersylla a charafanio fod yn ymarfer cwmpasu
i'w gwblhau, ond byddai'n fuddiol fel cam gweithredu o fewn y Cynllun Rheoli
Cyrchfannau newydd yn hytrach na darn o waith ar wahân; roedd y Tîm Twristiaeth
yn dîm bach a byddai angen adnoddau sylweddol ar gyfer y math hwn o waith pe
bai'n cael ei wneud ar wahân. Tynnodd Swyddogion sylw at yr angen i ymchwilio
i'r ddarpariaeth hon, ac roeddent wedi cynnwys cyfeiriad ato yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd
Soniwyd bod ardaloedd ar draws
y Fwrdeistref Sirol a allai ddarparu ar gyfer carafanau hunangynhwysol, na
fyddai angen fawr ddim o ran isadeiledd arnynt; gallai hyn fod yn opsiwn i'w
archwilio. Cadarnhaodd Swyddogion nad oedd angen cyfleusterau cyflenwad trydan
bob amser i ddarparu ar gyfer y farchnad gwersylla a charafanio; roedd hwn yn
faes o'r farchnad yr oedd y Tîm yn cadw llygad arno. Ychwanegwyd, lle mae
cyfleoedd ariannu'n codi a fyddai'n caniatáu i'r cyngor hwyluso hyn ar ei dir,
y byddai Swyddogion yn ymchwilio ymhellach iddo.
Gofynnodd yr Aelodau a ellid
defnyddio tir ger y Metal Box, Milland Road, Castell-nedd i hwyluso llety
gwersylla a charafanio. Dywedodd Swyddogion fod y tir hwn yn ardal fasnachol, a
bod symudiadau cerbydau dros y bont yn anodd; felly, ni fyddai'r cyngor yn
ystyried defnyddio'r safle hwn at y dibenion a amlygwyd.
Cadarnhaodd yr Aelod Lleol
dros Ddwyrain Sandfields fod Aelodau'r Ward ger ardal glan môr Aberafan wedi
bod yn cysylltu â Swyddogion ynghylch defnyddio tir o amgylch glan y môr at
ddibenion gwersylla a charafanio; a byddent yn parhau i drafod y gwahanol
bosibiliadau wrth symud ymlaen.
I gloi, dywedodd Swyddogion eu
bod wedi archwilio safleoedd amrywiol ar draws y Fwrdeistref Sirol i nodi'r
potensial ar gyfer cyfleusterau gwersylla a charafanio, ac y byddent yn parhau
i wneud hynny; fodd bynnag, roedd yn bwysig i Swyddogion ddeall sut maent yn
cael eu gwasanaethu, a pha ymrwymiad ac isadeiledd y byddai eu hangen. Nodwyd y
gellid cynnwys unrhyw gynigion gan Aelodau yn y Cynllun Rheoli Cyrchfannau
newydd, gan y byddai hyn yn rhoi darlun cydlynol a strategol o'r hyn yr oedd y
cyngor yn ceisio'i gyflawni yn y Fwrdeistref Sirol.
Codwyd y cyfleoedd posib a
allai godi o'r Ganolfan Fyd-eang ar gyfer Rhagoriaeth Rheilffyrdd. Cadarnhaodd
swyddogion y byddai'r Tîm, wrth i gynlluniau ddatblygu ymhellach ar gyfer hyn,
yn manteisio ar unrhyw gyfleoedd i ymgysylltu â thwristiaid a chynyddu
twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol.
Cynhaliwyd trafodaeth
ynglŷn â Chronfa Codi'r Gwastad a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn y
dyfodol. Soniodd yr Aelodau fod cyfleoedd i fuddsoddi mewn trafnidiaeth yng
Nghronfa Codi'r Gwastad, ac y byddai'n ddefnyddiol cynnal astudiaeth
dichonoldeb o amgylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin, er mwyn cyflawni'r potensial
llawn o'r rownd ariannu honno. Tynnwyd sylw at y ffaith mai cronfa gyfalaf oedd
Cronfa Codi'r Gwastad, a bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn seiliedig ar
refeniw; Nid oedd gan Swyddogion fanylion llawn y Gronfa Ffyniant Gyffredin,
gan nad oeddent wedi cael eu rhyddhau eto, ond byddent yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Aelodau pan fyddai'r wybodaeth ar gael.
Anogodd Aelod y Cabinet dros
Adfywio a Datblygu Cynaliadwy'r holl Aelodau i lobïo am gyllid sy'n ymwneud â
Thwristiaeth, er mwyn gwella'r adnoddau o fewn y cyngor yn well.
Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad.
Bwrdd Cynllunio Ardal Bae'r
Gorllewin - Fframwaith Llywodraethu a Llywodraethu Ariannol a Chytundeb Rhannu
Risgiau
Cyflwynwyd adroddiad i'r
Pwyllgor a oedd yn cynnig cymeradwyo fframwaith Llywodraethu Bwrdd Cynllunio
Ardal Bae'r Gorllewin ac yn ceisio cymeradwyaeth i ymrwymo i gytundeb
Llywodraethu Ariannol a Rhannu Risgiau gyda'r awdurdodau cyfrifol i'r Bwrdd
Cynllunio Ardal (BCA).
Hysbyswyd yr Aelodau am
gamgymeriad a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, sef bod rhan o'r
templed ysgrifennu adrodd safonol wedi'i adael yn yr adroddiad o dudalennau 32
i 34.
Rhoddodd Swyddogion drosolwg
byr o'r adroddiad, yn ôl cais y Pwyllgor. Nodwyd nad oedd y BCA yn endid
cyfreithiol ynddo'i hun, felly ni allai wneud gwaith penodol yn enw Bwrdd
Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin; roedd hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i un o'r
awdurdodau cyfrifol gymryd rôl banciwr ar gyfer y BCA. Hysbyswyd yr Aelodau fod
Cyngor CNPT wedi ymgymryd â'r rôl hon; byddai'r cyngor yn derbyn unrhyw arian,
yn talu'r cyllid i ddarparwyr a byddai hefyd yn gyfrifol am unrhyw gontractio
neu gomisiynu. Tynnwyd sylw at y ffaith bod Cyngor CNPT, dros y blynyddoedd, ar
ran y BCA, wedi bod yn talu am gontractau hanesyddol ac etifeddiaeth yn unig;
yr oedd Swyddogion wedi gallu eu diwygio, ond nid eu newid yn sylfaenol.
Dywedwyd pe bai'r cyngor yn rhoi'r gwaith ar dendr neu debyg, byddai ar hyn o
bryd yn ysgwyddo'r holl risg o her ar draws y rhanbarth.
Dywedwyd bod Swyddogion wedi
parhau i fonitro a gwerthuso gwasanaethau, a sicrhau ansawdd y gwasanaethau a
oedd wedi'u darparu; yn ogystal â gweithio o fewn y ddarpariaeth
ddeddfwriaethol i greu gwasanaethau newydd a lliniaru risgiau i'r cyngor. Fodd
bynnag, esboniwyd nad oeddent wedi gallu rheoleiddio na ffurfioli contractau
presennol; nid oedd hyn yn ddelfrydol i'r awdurdod. Hysbyswyd y Pwyllgor fod
Swyddogion wedi bod yn ceisio gweithio ar gytundebau amrywiol ers nifer o
flynyddoedd lle y cytunwyd naill ai i rannu cyllid neu rannu risgiau; roedd
wedi cymryd cryn dipyn o amser i gyrraedd y pwynt hwn lle'r oedd y BCA wedi
mabwysiadu Fframwaith Llywodraethu a Llywodraethu Ariannol a Chytundeb Rhannu
Risgiau.
Esboniodd Swyddogion fod y
Fframwaith Llywodraethu'n nodi sut y bydd yn gweithredu'r broses o wneud
penderfyniadau, er mwyn sicrhau ei fod yn ymddwyn mewn modd tebyg i fusnes;
mae'n deall y cylch gwaith y gall weithredu oddi mewn iddo a'r pwerau sydd
ganddo. Ychwanegwyd bod y cytundeb Llywodraethu Ariannol a Rhannu Risgiau'n
sicrhau y gellid rheoleiddio contractau sy'n bod, ailgomisiynu gwasanaethau a
defnyddio'r broses dendro wrth symud ymlaen; caiff y ddogfen hon ei llofnodi
gan bob sefydliad cyfrifol i'r BCA, y bydd angen iddynt, yn yr un modd, geisio
cymeradwyaeth drwy eu strwythurau llywodraethu priodol. Ychwanegwyd y bydd hyn
yn sicrhau bod y risg sy'n ymwneud â chontractio'n cael ei rhannu ar draws yr
holl bartneriaid, ac nad Cyngor CNPT oedd yn ei dal yn unig.
Holodd yr Aelodau pam yr oedd
wedi cymryd cymaint o amser i sefydlu'r fframwaith a'r cytundeb. Mae Swyddogion
yn cydnabod faint o amser y cymerodd i gyrraedd y pwynt hwn, a thynnwyd sylw at
y ffaith bod trafodaethau wedi bod yn digwydd ers nifer o flynyddoedd, gyda
chytundebau amrywiol wedi'u hystyried; roedd rhai o'r cytundebau hyn wedi symud
ymlaen i bwynt penodol, ac yna wedi'u tynnu, felly bu'n rhaid i'r broses
ddechrau eto.
Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.