Lleoliad: Committee Rooms A/B - Neath Civic Centre
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fudd Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod:- Y Cynghorydd S Bamsey - Adroddiad ar y cyd y Pennaeth Cynllunio a
Diogelu'r Cyhoedd a'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio - oherwydd bod ei berthynas yn
berchen ar eiddo a allai fod yn derbyn iawndal. |
|
Blaenraglen Waith 2019-20 PDF 56 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|
Ymgynghoriad ar Gyllideb ac Arbedion Drafft Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd ar gyfer 2020/21 PDF 119 KB Report
of the Director of Environment and Regeneration Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o wybodaeth atodol
Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ynghylch cynigion arbedion ar gyfer cyllideb
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd ac Adfywio, fel y nodwyd yn adroddiad y Cabinet ar
20 Ionawr, 2020. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr arbedion ar
gyfleusterau cyhoeddus, ac esboniodd swyddogion y bu newid i'r ddeddfwriaeth
gan olygu na fyddai angen talu ardrethi. Caiff adroddiad ei gyflwyno i Fwrdd y
Cabinet yn y dyfodol. Esboniodd swyddogion fod cynnydd wedi bod yn yr
incwm o ganlyniad i godi'r rhent ychydig yng Nghanolfan Fusnes Sandfields;
byddai hyn yn golygu ein bod yn arbed ychydig o arian. Dywedodd y swyddogion wrth yr aelodau fod nifer yr
adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor wedi lleihau dros y blynyddoedd, ac roedd hyn
yn golygu y bu gostyngiad o £25,000 ar gyfer cynnal a chadw adeiladau. Nodwyd
bod y cyngor yn parhau i gynnal a chadw'r adeiladu sy'n eiddo i'r cyngor, a
rhoddwyd rhaglen dreigl ar waith i arolygu'r adeiladau hyn yn flynyddol, er bod
llawer o waith i'w wneud o hyd. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr angen am ragor o
unedau diwydiannol a chefnogi busnesau sydd eisoes yn bodoli. Esboniodd y swyddogion fod Tîm Cefnogaeth
Busnes y cyngor ar gael i gynghori busnesau a'u helpu â'u ceisiadau am grantiau
etc. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith bod nifer o fusnesau lleol yn
llwyddiannus, ac roedd un busnes yn cyflogi dros 35 aelod o staff. Er bod angen
cymorth ychwanegol gyda thaliadau ar rai busnesau, roedd rhai busnesau a oedd
yn cael trafferth yn gallu talu'r arian sy'n ddyledus dros gyfnod o amser.
Dywedodd swyddogion fod y cyngor yn awyddus i ehangu ar fusnesau lleol ac roedd
y staff yn ymrwymedig i sicrhau bod gan fusnesau gymaint o gefnogaeth â phosib.
Atgoffwyd y Cynghorwyr y byddai
eu sylwadau yn sgil y cyfarfod
hwn yn rhan
o’r ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer
y Gyllideb 2020/21. Gofynnwyd
iddynt roi gwybod i swyddogion os oedd ganddynt
unrhyw gynigion eraill nad
oeddent wedi’u cynnwys yn yr
adroddiad atodedig fel bod modd eu
hystyried Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Ystyriodd y pwyllgor y materion canlynol: Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot
(CDLl) 2011-2026 - Ystyried y canlynol:
Adroddiad Adolygu'r CDLl drafft; a rhoi'r gweithdrefnau
cyhoeddi/ymgynghori ar waith Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith mai pwrpas cam
cyntaf yr adolygiad oedd paratoi a chyhoeddi "Adroddiad Adolygu" sy'n
nodi materion allweddol i'w hystyried wrth symud ymlaen â'r CDLl sydd eisoes yn
bodoli, a byddai hyn yn nodi'r meysydd lle'r oedd y CDLl presennol yn cyflawni
ac yn perfformio'n dda, yn ogystal â'r meysydd hynny lle bydd angen newidiadau
o bosib. Gofynnodd aelodau a fyddwn yn parhau â'r
strategaeth twf a arweinir gan yr economi neu os bydd dewisiadau amgen.
Esboniodd swyddogion y byddant yn parhau i edrych ar strategaeth a arweinir gan
yr economi, a nodwyd nad oedd dewisiadau eraill yn glir erbyn hyn gan eu bod yn
y camau cynnar. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr Agenda Datgarboneiddio'n cael
ei gyhoeddi, a byddai swyddogion yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cynnwys
rhanddeiliaid/y cyhoedd ac yn datblygu'r dewisiadau amgen ar gyfer y cam
Strategaeth a Ffefrir. Holodd yr aelodau ynghylch y pryder cynyddol
ynghylch dichonoldeb tir gan fod y dichonoldeb yn gywir ar adeg yr asesiad yn
unig. Esboniodd swyddogion fod model/astudiaeth ddichonoldeb ranbarthol newydd
yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gyda chydweithwyr yn yr awdurdod lleol yng
Nghanolbarth a De-orllewin Cymru. Nodwyd bod angen i ni wneud pethau'n wahanol
yn ystod cam y Safle Ymgeisiol, ac na fyddai safleoedd yn cael eu cynnwys yn y
cynllun heb dystiolaeth ddigonol (gan gynnwys asesiadau dichonoldeb). Esboniodd swyddogion fod diffyg arbenigedd o ran yr
amgylchedd hanesyddol a bod angen ymagwedd fwy cydweithredol. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod y polisi hwn yn dda a bod angen i ni nodi adnoddau i fynd i'r afael
â'r materion hyn wrth symud ymlaen. Esboniodd swyddogion fod cronfa wrth gefn y CDLl ar gael, a bod y CDLl yn
cael ei osod yn y gyllideb fel pwysau bob blwyddyn. Nodwyd bod y tair uwch-swydd wedi mynd, felly defnyddiwyd yr
arian wrth gefn i brynu arbenigedd i lenwi'r bwlch. Roedd aelodau'n falch o glywed y byddai'r materion
sy'n ymwneud â Thai Amlfeddiannaeth (HMO) yn cael eu hasesu fel rhan o'r gwaith
paratoi ar gyfer y Cynllun Disodli na fyddai ganddo unrhyw ddylanwad nes iddo
gael ei fabwysiadu yn 2024. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith y byddai seminar
yn cael ei gynnal ar 12 Chwefror, 2020 ac anogwyd yr aelodau i fod yn
bresennol. Cynhaliwyd trafodaeth am y cymoedd, a chytunodd
aelodau ei fod yn dda ein bod ni'n canolbwyntio ar y Cymoedd. Dywedodd y
swyddogion fod angen i ni barhau i'w hystyried ac o bosib gwneud mwy. Byddai
twristiaeth yn cael ei chyflwyno fel rhan o'r cymoedd, er bod cynigion eisoes
ar waith mewn meysydd penodol. Gofynnodd yr aelodau beth fydda'n digwydd gyda'r CDLl o ganlyniad i newid cynghorwyr mewn etholiad newydd (y disgwylir ei chynnal yn 2022) a sut y byddai hyn yn cyflawni'r hyn rydym am ei gael. Esboniodd swyddogion fod hyn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd
i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem
ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran
4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod Cofnodion: PENDERFYNWYD: Gwahardd y cyhoedd, yn
unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 18c Adran 4 o
Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Cyn Penderfynu (Preifat) Dewis eitemau priodol o
Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr
Aelodau Craffu) Cofnodion: Ystyriodd y pwyllgor y materion canlynol: Safle Cyflogaeth Strategol Glannau'r Harbwr Port
Talbot - Tir a Hawliau ynghylch Perchnogaeth Cymdeithas Porthladdoedd Prydain Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Talu
iawndal dan ddarpariaethau Rhan 1 Deddf Iawndal Tir 1971 Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Gwaredu rhan o Hen Iard Burrows yn ogystal ag adfer
tir a gedwir gan y cyngor Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Canolbwyntio ar y Gymuned - Rhaglen Beilot Monitro Ansawdd
Aer Ardal Gyfan Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. |