Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Ystyriodd y pwyllgor y materion canlynol:
Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot
(CDLl) 2011-2026 - Ystyried y canlynol:
Adroddiad Adolygu'r CDLl drafft; a rhoi'r gweithdrefnau
cyhoeddi/ymgynghori ar waith
Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith mai pwrpas cam
cyntaf yr adolygiad oedd paratoi a chyhoeddi "Adroddiad Adolygu" sy'n
nodi materion allweddol i'w hystyried wrth symud ymlaen â'r CDLl sydd eisoes yn
bodoli, a byddai hyn yn nodi'r meysydd lle'r oedd y CDLl presennol yn cyflawni
ac yn perfformio'n dda, yn ogystal â'r meysydd hynny lle bydd angen newidiadau
o bosib.
Gofynnodd aelodau a fyddwn yn parhau â'r
strategaeth twf a arweinir gan yr economi neu os bydd dewisiadau amgen.
Esboniodd swyddogion y byddant yn parhau i edrych ar strategaeth a arweinir gan
yr economi, a nodwyd nad oedd dewisiadau eraill yn glir erbyn hyn gan eu bod yn
y camau cynnar. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr Agenda Datgarboneiddio'n cael
ei gyhoeddi, a byddai swyddogion yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cynnwys
rhanddeiliaid/y cyhoedd ac yn datblygu'r dewisiadau amgen ar gyfer y cam
Strategaeth a Ffefrir.
Holodd yr aelodau ynghylch y pryder cynyddol
ynghylch dichonoldeb tir gan fod y dichonoldeb yn gywir ar adeg yr asesiad yn
unig. Esboniodd swyddogion fod model/astudiaeth ddichonoldeb ranbarthol newydd
yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gyda chydweithwyr yn yr awdurdod lleol yng
Nghanolbarth a De-orllewin Cymru. Nodwyd bod angen i ni wneud pethau'n wahanol
yn ystod cam y Safle Ymgeisiol, ac na fyddai safleoedd yn cael eu cynnwys yn y
cynllun heb dystiolaeth ddigonol (gan gynnwys asesiadau dichonoldeb).
Esboniodd swyddogion fod diffyg arbenigedd o ran yr
amgylchedd hanesyddol a bod angen ymagwedd fwy cydweithredol. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod y polisi hwn yn dda a bod angen i ni nodi adnoddau i fynd i'r afael
â'r materion hyn wrth symud ymlaen.
Esboniodd swyddogion fod cronfa wrth gefn y CDLl ar gael, a bod y CDLl yn
cael ei osod yn y gyllideb fel pwysau bob blwyddyn. Nodwyd bod y tair uwch-swydd wedi mynd, felly defnyddiwyd yr
arian wrth gefn i brynu arbenigedd i lenwi'r bwlch.
Roedd aelodau'n falch o glywed y byddai'r materion
sy'n ymwneud â Thai Amlfeddiannaeth (HMO) yn cael eu hasesu fel rhan o'r gwaith
paratoi ar gyfer y Cynllun Disodli na fyddai ganddo unrhyw ddylanwad nes iddo
gael ei fabwysiadu yn 2024. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith y byddai seminar
yn cael ei gynnal ar 12 Chwefror, 2020 ac anogwyd yr aelodau i fod yn
bresennol.
Cynhaliwyd trafodaeth am y cymoedd, a chytunodd
aelodau ei fod yn dda ein bod ni'n canolbwyntio ar y Cymoedd. Dywedodd y
swyddogion fod angen i ni barhau i'w hystyried ac o bosib gwneud mwy. Byddai
twristiaeth yn cael ei chyflwyno fel rhan o'r cymoedd, er bod cynigion eisoes
ar waith mewn meysydd penodol.
Gofynnodd yr aelodau beth fydda'n digwydd gyda'r
CDLl o ganlyniad i newid cynghorwyr mewn etholiad newydd (y disgwylir ei
chynnal yn 2022) a sut y byddai hyn yn cyflawni'r hyn rydym am ei gael.
Esboniodd swyddogion fod hyn yn broblem gan mai 2026 yw'r dyddiad gorffen, ac
mae'r CDLl yn cwmpasu cyfnod o 15 mlynedd. Yn 2022 byddai'r cynllun wedi mynd
drwy gam ffurfiol cyntaf y broses baratoi: y 'strategaeth a ffefrir'. Unwaith y
byddwn wedi cyrraedd yr ail gam ffurfiol, sef y cam 'adnau' (a drefnwyd ar
gyfer 2023) ni ellir ei newid gan fod y cyngor yn dweud mai dyma'r cynllun
rydym am ei gael. Roedd angen i swyddogion ymdrin â hyn fel rhan o'r CDLl
cyntaf lle'r oedd newid i'r weinyddiaeth; roedd y swyddogion wedi cynnal
seminar i'r holl aelodau er mwyn trafod materion a oedd yn ymwneud â'r ardal
ofodol a'r wardiau a amlinellwyd yr hyn a wnaed yn y gorffennol yn seiliedig ar
dystiolaeth. Byddai swyddogion yn cynnwys yr aelodau trwy gydol y broses, a
byddai'r holl benderfyniadau a wnaed gan y cyngor yn cael eu cefnogi â
thystiolaeth.
Nodwyd bod cyd-bwyllgor newydd yn cael ei sefydlu i
fynd i'r afael â phroblemau cludiant yn Ne-orllewin Cymru. Byddai'r Prif
Weithredwr yn ei arwain a'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth yn cefnogi.
Byddai agor rheilffordd y cwm yn ddrud iawn.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.