Lleoliad: Committee Rooms A/B - Neath Civic Centre
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fudd Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod:- Y Cynghorydd
S Rahaman - Adroddiad ar y cyd gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd a
Phennaeth Eiddo ac Adfywio - gan ei fod yn gweithio yn y fasnach bwyd yng
Nghastell-nedd Port Talbot. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 57 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir. |
|
Dewis eitemau priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeëdig ar gyfer yr aelodau craffu) Cofnodion: Craffodd y pwyllgor ar eitemau canlynol Bwrdd y
Cabinet: Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2019/2020 -
Chwarter 1 (1 Ebrill 2019 - 30 Mehefin 2019) Derbyniodd yr aelodau drosolwg o'r dangosyddion
perfformiad allweddol ar gyfer y chwarter 1af, fel a nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Nodwyd bod y ffigurau cyffredinol ar gyfer
bioamrywiaeth yn dda, er roedd y rhain yn anodd eu mesur gan fod bioamrywiaeth
yn faes eang sy'n newid drwy'r amser. Esboniodd y swyddogion y byddai rhagor o brosiectau
bioamrywiaeth, ond roeddent yn ddibynnol ar arian gan Lywodraeth Cymru.
Amlygwyd y ffaith y derbyniwyd arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn
gwneud gwaith i adfywio'r mawn yng Ngwm Afan, ond byddai rhagor o arian yn ein
helpu i ddarparu prosiectau ychwanegol i'r gymuned ehangach. Nodwyd y byddai adroddiad drafft ar Fioamrywiaeth
yn cael ei gyflwyno i Bwrdd y Cabinet ym mis Hydref 2019. Cafwyd trafodaeth am berfformiad busnesau risg
uchel a oedd yn atebol am archwiliadau gan Safonau Masnach, ac amlygwyd y
ffaith bod salwch yn y tîm wedi effeithio ar y rhaglen. Esboniwyd bod trefniadau wedi'u gwneud i
sicrhau bod yr holl fusnesau risg uchel yn cael eu harchwilio erbyn y trydydd
chwarter. Yn dilyn proses graffu, cytunwyd i nodi'r
adroddiad. Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 - ystyried
yr Ymgynghoriad Drafft ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, a rhoi
gweithdrefnau'r cyhoeddiad/ymgynghoriad ar waith Derbyniodd y pwyllgor wybodaeth ynghylch yr
Ymgynghoriad Drafft ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, a'r gweithdrefnau
ymgynghori i'w rhoi ar waith. Cafwyd trafodaeth am y Ddeddf Teithio Llesol
(Cymru), ac esboniwyd bod cysylltiadau â Theithio Llesol yn yr ymgynghoriad
drafft a ddosbarthwyd. Mewn perthynas â Hawliau Tramwy Cyhoeddus i lwybrau
beicio a llwybrau ceffyl, nodwyd bod gofyniad i ddangos tystiolaeth o ddefnydd
o’r rhain gan fod fframwaith cyfreithiol i'w ddilyn. Roedd yr aelodau'n falch bod rhannau o lwybrau
halio'r camlesi yng Nghastell-nedd wedi cael eu gwella'n ddiweddar, a'u bod
bellach ar agor i feicwyr. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach: Cynllun Cyflawni'r Gwasanaeth Bwyd a
Phorthiant 2019-2020 ac Adolygiad Gorfodi'r Gyfraith Bwyd a Phorthiant
2018-2019 Derbyniodd y pwyllgor wybodaeth am gynllun gwaith
Gwasanaeth Gorfodi'r Gyfraith Bwyd a Phorthiant yr awdurdod lleol ar gyfer
2019-2020, ac adolygiad o Wasanaeth Gorfodi'r Ddeddf Bwyd a Phorthiant ar gyfer
2018-2019, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Esboniwyd bod targedau presennol yn cael eu
cyflawni, er y byddai uchafbwyntiau ac isafbwyntiau oherwydd y galw. Os bydd perchnogion busnes yn anhapus â sgôr yr
arolygiad cyntaf o'u mangreoedd bwyd, esboniodd y swyddogion fod ganddynt hawl
i wneud cais am ymweliad ailsgorio. Roedd yr ymweliad cyntaf am ddim ac yn
ddirybudd, a byddai angen codi tâl am unrhyw ymweliad ailsgorio. Byddai
swyddogion yn ailymweld â'r eiddo ymhen 3 mis, ac fe'i nodwyd bod hyn yn
gweithio'n dda, er roedd rhai gweithredwyr bwyd yn gofyn iddynt ailymweld yn
gynt, ac nid oedd hyn bob amser yn bosib. Yn dilyn proses graffu, cytunwyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Eitemau brys Cofnodion: Gyda chaniatâd y Cadeirydd, codwyd yr eitem
ganlynol fel eitem frys yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972. Rhesymau dros y brys: Oherwydd yr elfen amser. |
|
Mynediad at gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Cofnodion: PENDERFYNWYD: yn unol ag Adran
100A(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwaherddir y cyhoedd o'r eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o'r Ddeddf uchod. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor drosolwg o'r eitemau preifat
canlynol a oedd yn eitemau brys gan Fwrdd y Cabinet:- Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Estyn
y cyfnod statudol ar gyfer y cais am iawndal gan Associated British Ports
Holdings Ltd. Roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w
hystyried gan Fwrdd y Cabinet. |