Cofnodion:
Craffodd y pwyllgor ar eitemau canlynol Bwrdd y
Cabinet:
Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2019/2020 -
Chwarter 1 (1 Ebrill 2019 - 30 Mehefin 2019)
Derbyniodd yr aelodau drosolwg o'r dangosyddion
perfformiad allweddol ar gyfer y chwarter 1af, fel a nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Nodwyd bod y ffigurau cyffredinol ar gyfer
bioamrywiaeth yn dda, er roedd y rhain yn anodd eu mesur gan fod bioamrywiaeth
yn faes eang sy'n newid drwy'r amser.
Esboniodd y swyddogion y byddai rhagor o brosiectau
bioamrywiaeth, ond roeddent yn ddibynnol ar arian gan Lywodraeth Cymru.
Amlygwyd y ffaith y derbyniwyd arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn
gwneud gwaith i adfywio'r mawn yng Ngwm Afan, ond byddai rhagor o arian yn ein
helpu i ddarparu prosiectau ychwanegol i'r gymuned ehangach.
Nodwyd y byddai adroddiad drafft ar Fioamrywiaeth
yn cael ei gyflwyno i Bwrdd y Cabinet ym mis Hydref 2019.
Cafwyd trafodaeth am berfformiad busnesau risg
uchel a oedd yn atebol am archwiliadau gan Safonau Masnach, ac amlygwyd y
ffaith bod salwch yn y tîm wedi effeithio ar y rhaglen. Esboniwyd bod trefniadau wedi'u gwneud i
sicrhau bod yr holl fusnesau risg uchel yn cael eu harchwilio erbyn y trydydd
chwarter.
Yn dilyn proses graffu, cytunwyd i nodi'r
adroddiad.
Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 - ystyried
yr Ymgynghoriad Drafft ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, a rhoi
gweithdrefnau'r cyhoeddiad/ymgynghoriad ar waith
Derbyniodd y pwyllgor wybodaeth ynghylch yr
Ymgynghoriad Drafft ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, a'r gweithdrefnau
ymgynghori i'w rhoi ar waith.
Cafwyd trafodaeth am y Ddeddf Teithio Llesol
(Cymru), ac esboniwyd bod cysylltiadau â Theithio Llesol yn yr ymgynghoriad
drafft a ddosbarthwyd.
Mewn perthynas â Hawliau Tramwy Cyhoeddus i lwybrau
beicio a llwybrau ceffyl, nodwyd bod gofyniad i ddangos tystiolaeth o ddefnydd
o’r rhain gan fod fframwaith cyfreithiol i'w ddilyn.
Roedd yr aelodau'n falch bod rhannau o lwybrau
halio'r camlesi yng Nghastell-nedd wedi cael eu gwella'n ddiweddar, a'u bod
bellach ar agor i feicwyr.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach: Cynllun Cyflawni'r Gwasanaeth Bwyd a
Phorthiant 2019-2020 ac Adolygiad Gorfodi'r Gyfraith Bwyd a Phorthiant
2018-2019
Derbyniodd y pwyllgor wybodaeth am gynllun gwaith
Gwasanaeth Gorfodi'r Gyfraith Bwyd a Phorthiant yr awdurdod lleol ar gyfer
2019-2020, ac adolygiad o Wasanaeth Gorfodi'r Ddeddf Bwyd a Phorthiant ar gyfer
2018-2019, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Esboniwyd bod targedau presennol yn cael eu
cyflawni, er y byddai uchafbwyntiau ac isafbwyntiau oherwydd y galw.
Os bydd perchnogion busnes yn anhapus â sgôr yr
arolygiad cyntaf o'u mangreoedd bwyd, esboniodd y swyddogion fod ganddynt hawl
i wneud cais am ymweliad ailsgorio. Roedd yr ymweliad cyntaf am ddim ac yn
ddirybudd, a byddai angen codi tâl am unrhyw ymweliad ailsgorio. Byddai
swyddogion yn ailymweld â'r eiddo ymhen 3 mis, ac fe'i nodwyd bod hyn yn
gweithio'n dda, er roedd rhai gweithredwyr bwyd yn gofyn iddynt ailymweld yn
gynt, ac nid oedd hyn bob amser yn bosib.
Yn dilyn proses graffu, cytunwyd i nodi'r
adroddiad.