Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Hysbyswyd y pwyllgor am gamgymeriad yn yr adroddiad
canlynol ar Agenda Bwrdd y Cabinet: ·
Eitem 8 ar yr
Agenda – Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2019/2020 – Chwarter 1 (1 Ebrill
2021 – 30 Mehefin 2021) Nodwyd y dylai teitl yr
adroddiad ddarllen 'Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2020/2021 – Chwarter
1 (1 Ebrill 2021 – 30 Mehefin 2021)' Yn dilyn y diweddariad, nododd yr aelodau'r
camgymeriad. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fuddiant: Y Cyng. S Rahaman - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet – Cymorth
Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei
fod yn berchen ar fusnes lleol o fewn y Fwrdeistref Sirol a gafodd gymorth
grant. Y Cyng. S Pursey - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth
Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei
fod yn Ymddiriedolwr Llyfrgell Gymunedol Tai-bach sydd wedi derbyn cymorth
grant. Y Cyng. S Knoyle - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth
Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan mai
ef yw Cyfarwyddwr Clwb Rygbi Glyn-nedd ac mae ganddo hefyd fusnes lleol o fewn
y Fwrdeistref Sirol sydd wedi derbyn cymorth grant. Y Cyng. R. Taylor - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth
Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei
bod yn Ymddiriedolwr Llyfrgell Gymunedol Tai-bach sydd wedi derbyn cymorth
grant. Y Cyng. D Cawsey - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth
Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei
fod yn Ymddiriedolwr ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer elusennau a
sefydliadau amrywiol a dderbyniodd gymorth grant. Y Cyng. S Hunt - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth Grant
COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei fod yn
Gadeirydd ac yn aelod o elusennau a sefydliadau amrywiol a dderbyniodd gymorth
grant. Y Cyng. F. James - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth
Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r Presennol, gan ei
fod yn Gadeirydd Awdurdod Porthladd Castell-nedd a gafodd gymorth grant. Y Cyng. M. Hunt - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth
Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei
fod yn berchen ar fusnes lleol o fewn y Fwrdeistref Sirol a gafodd gymorth
grant. Y Cyng. C Jones - Parthed. Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Cymorth
Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol, gan ei
fod yn swyddog yng Nghlwb Rygbi'r Allt-wen ac yn berchen ar fusnes lleol o fewn
y Fwrdeistref Sirol a gafodd gymorth grant. |
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 161 KB ·
30 Gorffennaf 2021 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
30 Gorffennaf, 2021. |
|||
Adroddiad am Fuddion Cymunedol PDF 347 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd adroddiad i'r aelodau
ar allbynnau a chanlyniadau cyflwyno budd i'r gymuned drwy gyfnod adeiladu
Ysgol Gyfun Cefn Saeson. Dywedwyd bod holl brosiectau
adeiladu'r cyngor wedi'u cysylltu â Fframwaith Rhanbarthol Contractwyr De
Cymru; a bod gan bob un ohonynt fudd i'r gymuned cytundebol o fewn y prosiectau
adeiladu. Soniwyd eu bod yn seiliedig ar recriwtio a hyfforddiant wedi'u
targedu; er enghraifft derbyn pobl ddi-waith leol, darparu cyfleoedd profiad
gwaith, derbyn prentisiaethau lleol gan ddefnyddio'r gadwyn gyflenwi leol a
chefnogi mentrau cymunedol. Esboniodd swyddogion eu bod
wedi penderfynu defnyddio Ysgol Gyfun Cefn Saeson fel enghraifft gan eu bod,
gwaethaf y pandemig, wedi mynd y tu hwnt i'w holl dargedau; ar wahân i'r targed
cyfranogiad ysgolion a oedd yn anodd ei gyflawni oherwydd y pandemig. Tynnwyd
sylw at y ffaith y gobeithiwyd cyflawni'r targed hwn erbyn diwedd y flwyddyn
nesaf. Cynhaliwyd trafodaeth
ynglŷn â chynaliadwyedd y prosiectau. Nodwyd bod y cyngor wedi ariannu'r
cynllun prentisiaeth a rennir yn rhannol, sydd wedi galluogi cwblhau profiad
gwaith a phrentisiaethau a rennir; mae hyn wedi rhoi cyfleoedd i unigolion gael
swyddi lleol gan eu bod wedi cael eu uwchsgilio a'u hyfforddi i wneud hynny.
Hysbyswyd yr aelodau fod unigolion di-waith hirdymor wedi'u cyflogi drwy'r
Prosiect Gweithffyrdd a Chymunedau am Waith; roedd y contractwr hefyd wedi
gweithio gyda mentrau cymdeithasol lleol gan gynnwys cangen menter gymdeithasol
Cymorth i Fenywod, Thrive, ac wedi rhoi cyfleoedd cyflogaeth iddynt. Nododd y pwyllgor yr
adroddiad. |
|||
Cyflwyniad Cymdeithas Twneli’r Rhondda PDF 9 MB Cofnodion: Cadarnhawyd y byddai Cyflwyniad Cymdeithas Twneli’r
Rhondda yn cael ei ohirio i gyfarfod y pwyllgor yn y dyfodol oherwydd
amgylchiadau nas rhagwelwyd. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Grant Eiddo Masnachol: 23 Maes yr Eglwys,
Castell-nedd SA11 3LL Derbyniodd y pwyllgor
adroddiad ynghylch y cynnig i ariannu’n rhannol welliannau'n i ymddangosiad
allanol yr eiddo masnachol yn 23 Maes yr Eglwys, Castell-nedd SA11 3LL. Esboniwyd y byddai'r grant hwn
yn gwella cymeriad Maes yr Eglwys ac Ardal Gadwraeth Castell-nedd yn ffisegol,
gan fod y rendro presennol mewn cyflwr gwael a bellach yn berygl diogelwch i
gerddwyr gan fod y rendro'n malurio ac yn syrthio i'r stryd. Ychwanegodd
swyddogion y byddai'r grant yn cael ei ddefnyddio i ailwneud Hen Stryd y
Farchnad ac ystlysluniau'r adeilad. Cyfeiriwyd at feysydd targed y
Grant Eiddo Masnachol yr oedd un ohonynt
yn ganolfannau masnachol penodol. Cadarnhawyd y gellid cynnig y grant i
ganolfannau masnachol amrywiol ar draws y Fwrdeistref Sirol gyfan; fodd bynnag,
roedd yn rhaid iddynt fod mewn man hynod weledol. Hysbyswyd yr aelodau mai
bwriad y Grant Eiddo Masnachol oedd gwella'r strydlun, felly'r adeiladau a oedd
yn weladwy iawn i'r cyhoedd. Holodd yr aelodau sut byddai'r
adeilad yn edrych ar ôl iddo gael ei orffen, a thynnodd sylw at bwysigrwydd
ymddangosiad gweledol Ardal Gadwraeth Castell-nedd. Cadarnhaodd swyddogion y
byddant yn cysylltu â chydweithwyr yn y Gwasanaeth Cynllunio i sicrhau bod y
gwaith rendro newydd yn cyd-fynd â'r ardal gadwraeth. Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Cymorth Grant COVID-19 ar
gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol (Y Cyng. S Rahaman, y Cyng. N
Hunt, y Cyng. S Knoyle a'r Cyng. Cadarnhaodd y Cynghorydd C Jones ei fudd ar y
pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod) Darparwyd adroddiad diweddaru
i'r aelodau ar weithgareddau'r Gwasanaeth Datblygu Economaidd wrth brosesu
cymorth ariannol COVID-19 ar gyfer busnesau lleol o fis Mawrth 2020 i fis Awst
2021. Nodwyd bod Llywodraeth y DU,
ym mis Mawrth 2020, wedi cyhoeddi y byddai'r wlad yn dechrau cyfyngiadau symud;
yn dilyn hyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddent yn defnyddio system
ardrethi annomestig i ddarparu taliadau grant brys i fusnesau ledled Cymru.
Cadarnhaodd swyddogion, bryd hynny, i fod yn gymwys i gael cymorth grant, fod
angen i fusnesau naill ai fod yn derbyn cymorth ardrethi busnes bach, bod yn
gweithredu o fewn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch neu fod yn elusen
gofrestredig neu'n glwb chwaraeon cymunedol; i ddechrau roedd y grantiau hyn
oddeutu £10k a £25k, ac roedd lefel y cymorth yn dibynnu ar werth ardrethol eu
heiddo. Hysbyswyd yr aelodau iddi ddod i’r amlwg yn gyflym y byddai galw mawr am wasanaethau, o ran rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau lleol i'w helpu i gael gafael ar y cymorth perthnasol; mewn ymateb i hyn, neilltuwyd tri aelod o'r Tîm Datblygu Economaidd yn syth i gefnogi'r Tîm Ardrethi Busnes. Dywedwyd bod hyn wedi galluogi'r Tîm Ardrethi Busnes i ganolbwyntio ar brosesu'r grantiau a darparu taliadau i fusnesau mor effeithlon â phosibl; canolbwyntiodd y Tîm Datblygu Economaidd ar ymdrin â'r holl ymholiadau a oedd yn dod i mewn, a oedd yn eithaf sylweddol ar y pryd. Ychwanegwyd bod y timau, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||
Cofnodion: Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith Craffu Adfywio
a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2021/22. |
|||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi’u heithrio) yn ol
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag
Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u
cynnwys yng Nghofnod Rhif. 11 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r
eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol
rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd). Rhesymau dros y brys: Oherwydd yr elfen amser. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu
a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem
ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran
4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau preifat priodol
o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer
yr aelodau craffu). Cofnodion: Craffodd y pwyllgor ar yr
eitem breifat ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Cynnig arfaethedig i gaffael
Tir a Garej Ddomestig ar gyffordd yr A48 â Stryd y Dŵr, Margam ar gyfer y
cynllun llwybr troed/llwybr beicio arfaethedig sy'n cysylltu Eglwys Nunydd a
Pharc Dewi Sant, Margam Rhoddwyd adroddiad i aelodau
ynghylch cynnig arfaethedig i gaffael Tir a Garej Ddomestig ar gyffordd yr A48
â Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. |
|||
Cynnig arfaethedig i waredu tir yng Nglannau'r Harbwr i Goleg CNPT ar y cyd â'r cynnig arfaethedig i gaffael tir yn Fabian Way gan Lywodraeth Cymru Cofnodion: Rhoddwyd adroddiad i'r aelodau a oedd yn manylu ar
y bwriad i werthu tir yng Nglannau'r Harbwr i Goleg CNPT ynghyd â'r bwriad i Gaffael
Tir yn Fabian Way gan Lywodraeth Cymru. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. |