Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant - Dydd Iau, 12fed Medi, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 Mehefin a 4 Gorffennaf 2019.

 

Darparu prydau iachus a gweithgareddau corfforol yn ystod gwyliau haf yr ysgol

 

Derbyniodd y Pwyllgor y diweddaraf gan Gadeirydd y Pwyllgor Addysg, Sgiliau a Diwylliant, a ddywedodd y byddai'r llythyr a oedd yn nodi barn y Pwyllgor ynghylch y cynllun yn cael ei ddosbarthu i aelodau cyn cael ei anfon at y Gweinidog Addysg.

 

2.

Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol pdf eicon PDF 78 KB

Adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth newydd a'r arweiniad statudol i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a'r cynnydd ynghylch y Rhaglen Drawsnewid ADY fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch yr angen i'r maes llafur hyfforddiant athrawon gynnwys gwybodaeth am ymdrin â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd awdurdodau lleol wedi crybwyll yr angen hwn gyda Llywodraeth Cymru a'r gobaith oedd y byddai'n cael ei gynnwys yn y cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf.

 

Yn ychwanegol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi trefnu â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddarparu hyfforddiant ôl-raddedig i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd 19 o leoedd wedi'u cadarnhau ar gyfer eleni, a bydd rhagor o hyfforddiant yn cael ei roi'r flwyddyn nesaf.

 

Gofynnodd aelodau a fyddai unrhyw oblygiadau ariannol i'r cyngor o ganlyniad i Ddiwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol.  Esboniwyd bod Castell-nedd Port Talbot wedi cyfrannu £700,000 o arian ychwanegol at gyllideb y flwyddyn nesaf er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r cynnydd yn y galw. Roedd arian ar gael gan Lywodraeth Cymru ond ni fyddai hyn yn parhau wedi 2020. Nid oedd unrhyw arian ar gael ar gyfer diwygio.

 

Cafwyd trafodaeth arall ynghylch y pryder yr oedd rhai athrawon yn eu teimlo o ran ansawdd y Cynlluniau Datblygu Unigol a oedd yn cael eu cwblhau, oherwydd nifer y ffurflenni a'u cymhlethdod. Esboniodd swyddogion nad oedd unrhyw feini prawf yn berthnasol i'r côd, ond ni ddisgwylir unrhyw newidiadau. Cynhaliwyd cyfnodau peilot a chafwyd adborth cadarnhaol o'r rhain. Roedd hyfforddiant ar gyfer nodi'r anghenion y mae angen eu hystyried yn parhau.

 

Ceisiwyd eglurhad ynghylch cylch gwaith y cyngor mewn perthynas â phlant y mae eu rhieni'n dewis eu haddysgu gartref. Esboniwyd nad oedd gan y cyngor unrhyw fynediad cyfreithiol at y plant hyn gan mai dewis y rhieni yw hwn. Yn ychwanegol, roedd niferoedd y plant hyn yn cynyddu ar draws Cymru. Roedd nifer o resymau dros rieni'n dewis addysgu eu plant yn y cartref, e.e. materion presenoldeb, iechyd meddwl, ffobia ysgol.  Ni fyddai Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol yn effeithio ar y ffigurau hyn gan nad oedd y plant yn elwa o leoliad ysgol. Gweithiodd y Gwasanaethau Cymdeithasol, y gwasanaethau Iechyd a Thai, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a'r adran Addysg ar y cyd i weld a nodwyd unrhyw broblemau ar gyfer plentyn penodol.

 

Byddai trefniadau'n cael eu gwneud i gynnal sesiwn cynyddu ymwybyddiaeth i aelodau ynghylch Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Yn dilyn proses graffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad.

 

 

 

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

Cofnodion:

Data Rheoli Perfformiad Chwarterol 2019-2020 - Perfformiad Chwarter 1 (1 Ebrill 2019 tan 30 Mehefin 2019)

 

Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am Ddata Rheoli Perfformiad Chwarterol 2019-2020 fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Codwyd y materion canlynol gan yr aelodau:

 

·        Pam nad oedd canran y bobl ifanc rhwng 11 ac 19 a oedd mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth Ieuenctid yn cyflawni ei tharged? Esboniwyd bod hyn o ganlyniad i salwch a swyddi gwag yn y tîm, a oedd wedi effeithio ar nifer y cysylltiadau a wnaed. Cadarnhawyd bod y mater hwn bellach wedi'i ddatrys.

·        Oedd y galw am leoedd gofal plant llawn amser yn cael ei fonitro? Cafwyd cadarnhad bod monitro'n cael ei wneud ac o ganlyniad roedd rhagor o leoedd ar gael mewn rhagor o ardaloedd. Hefyd, cynhaliwyd ymgyrch cyfryngau i sicrhau bod yr holl deuluoedd cymwys yn ymwybodol o'r cynnig.

·        Gofynnwyd pam bod Castell-nedd Port Talbot wedi dod yn 20fed yn y Data Cymru Gyfan ar gyfer presenoldeb ysgol mewn ysgolion cynradd. Rhoddwyd esboniad ond nid oedd unrhyw gysylltiadau rhwng absenoldeb a’r ardaloedd difreintiedig. Castell-nedd Port Talbot oedd un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Roedd Swyddogion Lles Addysg yn rhagweithiol wrth weithio gyda theuluoedd, yn enwedig teuluoedd â hanes o absenoldeb reolaidd. Ffocws pob ysgol oedd pwysigrwydd presenoldeb. Un broblem oedd absenoldeb heb ganiatâd, ac roedd hyn yn digwydd pan fyddai rhieni'n cymryd eu plant allan o'r ysgol i fynd ar eu gwyliau. Roedd gwaith yn parhau ynghylch rhoi cosb ariannol ar gyfer absenoldeb heb ganiatâd, ond gan ystyried yr hinsawdd economaidd, roedd rhieni'n dal i gymryd eu plant allan o'r ysgol ar gyfer gwyliau.

·        Beth yw sgôr 9 wedi'i chapio?

Roedd y dangosydd hwn yn un o'r newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd data'n cael ei gasglu ar hyn o bryd a byddai ar gael ar gyfer cyfarfod mis Ionawr 2020.

·        Pam roedd yr ymweliadau â chanolfannau hamdden wedi'u hamlygu'n goch? Trafodwyd hyn yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor Hamdden a Diwylliant, lle'r esboniwyd mai'r broblem oedd y data a oedd yn cael ei gasglu, a bod anghysondebau rhwng pob awdurdod lleol. Byddai'r esboniad a roddwyd i'r Is-bwyllgor yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor.

 

Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Cynnig i sefydlu darpariaeth Arbenigol i Ddisgyblion Uwchradd ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA)

 

Derbyniodd y Pwyllgor drosolwg o'r cynnig i ymgynghori ar sefydlu darpariaeth arbenigol i ddisgyblion oedran uwchradd ag anhwylder y sbectrwm awtistig (ASA) yn Ysgol Gyfun Dŵr y Felin, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Codwyd y materion canlynol gan Aelodau:

 

·        Faint o ysgolion oedd wedi gwneud cais ar gyfer y ddarpariaeth Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) newydd? Roedd dwy ysgol wedi mynegi diddordeb, ond roedd un wedi tynnu yn ôl. Yn ychwanegol, mae'r ddarpariaeth eisoes yn bodoli mewn sawl ysgol.

·        Mynegwyd pryder ynghylch a ydym ni'n ateb y galw? Esboniwyd bod nifer y disgyblion wedi cynyddu 47% ar draws pob oed ysgol. O ganlyniad, roedd angen mwy o allu mewn ysgolion er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd hwn.

 

Yn dilyn craffu, roedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.