Cofnodion:
Data Rheoli Perfformiad Chwarterol 2019-2020 -
Perfformiad Chwarter 1 (1 Ebrill 2019 tan 30 Mehefin 2019)
Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am Ddata Rheoli
Perfformiad Chwarterol 2019-2020 fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Codwyd y materion canlynol gan yr aelodau:
·
Pam nad oedd canran y bobl
ifanc rhwng 11 ac 19 a oedd mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth Ieuenctid yn
cyflawni ei tharged? Esboniwyd bod hyn o ganlyniad i salwch a swyddi gwag yn y tîm,
a oedd wedi effeithio ar nifer y cysylltiadau a wnaed. Cadarnhawyd bod y mater
hwn bellach wedi'i ddatrys.
·
Oedd y galw am leoedd gofal
plant llawn amser yn cael ei fonitro? Cafwyd cadarnhad bod monitro'n cael ei
wneud ac o ganlyniad roedd rhagor o leoedd ar gael mewn rhagor o ardaloedd.
Hefyd, cynhaliwyd ymgyrch cyfryngau i sicrhau bod yr holl deuluoedd cymwys yn
ymwybodol o'r cynnig.
·
Gofynnwyd pam bod Castell-nedd
Port Talbot wedi dod yn 20fed yn y Data Cymru Gyfan ar gyfer presenoldeb ysgol
mewn ysgolion cynradd. Rhoddwyd esboniad ond nid oedd unrhyw gysylltiadau rhwng
absenoldeb a’r ardaloedd difreintiedig. Castell-nedd Port Talbot oedd un o'r
ardaloedd mwyaf difreintiedig. Roedd Swyddogion Lles Addysg yn rhagweithiol
wrth weithio gyda theuluoedd, yn enwedig teuluoedd â hanes o absenoldeb
reolaidd. Ffocws pob ysgol oedd pwysigrwydd presenoldeb. Un broblem oedd
absenoldeb heb ganiatâd, ac roedd hyn yn digwydd pan fyddai rhieni'n cymryd eu
plant allan o'r ysgol i fynd ar eu gwyliau. Roedd gwaith yn parhau ynghylch
rhoi cosb ariannol ar gyfer absenoldeb heb ganiatâd, ond gan ystyried yr
hinsawdd economaidd, roedd rhieni'n dal i gymryd eu plant allan o'r ysgol ar
gyfer gwyliau.
·
Beth yw sgôr 9 wedi'i chapio?
Roedd y dangosydd hwn
yn un o'r newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd data'n cael ei
gasglu ar hyn o bryd a byddai ar gael ar gyfer cyfarfod mis Ionawr 2020.
·
Pam roedd yr ymweliadau â
chanolfannau hamdden wedi'u hamlygu'n goch? Trafodwyd hyn yng nghyfarfod yr
Is-bwyllgor Hamdden a Diwylliant, lle'r esboniwyd mai'r broblem oedd y data a
oedd yn cael ei gasglu, a bod anghysondebau rhwng pob awdurdod lleol. Byddai'r
esboniad a roddwyd i'r Is-bwyllgor yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor.
Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Cynnig i sefydlu darpariaeth Arbenigol
i Ddisgyblion Uwchradd ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA)
Derbyniodd y Pwyllgor drosolwg o'r cynnig i ymgynghori ar sefydlu
darpariaeth arbenigol i ddisgyblion oedran uwchradd ag anhwylder y sbectrwm
awtistig (ASA) yn Ysgol Gyfun Dŵr y Felin, fel a fanylwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd.
Codwyd y materion canlynol gan Aelodau:
·
Faint o ysgolion oedd wedi
gwneud cais ar gyfer y ddarpariaeth Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) newydd?
Roedd dwy ysgol wedi mynegi diddordeb, ond roedd un wedi tynnu yn ôl. Yn
ychwanegol, mae'r ddarpariaeth eisoes yn bodoli mewn sawl ysgol.
·
Mynegwyd pryder ynghylch a
ydym ni'n ateb y galw? Esboniwyd bod nifer y disgyblion wedi cynyddu 47% ar
draws pob oed ysgol. O ganlyniad, roedd angen mwy o allu mewn ysgolion er mwyn
mynd i'r afael â'r cynnydd hwn.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Y Diweddaraf am Bresenoldeb Disgyblion
Derbyniwyd gwybodaeth a data mewn perthynas â
phresenoldeb disgyblion Castell-nedd Port Talbot, fel a fanylwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd aelodau'n falch bod yr adroddiad i'w ystyried
heddiw yn cynnwys astudiaethau achos a oedd yn llawn gwybodaeth, ac a oedd yn
amlygu pwysigrwydd cynnwys y Gwasanaeth Lles Addysg yn gynnar.
Unwaith eto, roedd yr aelodau wedi canmol y
swyddogion am y gwaith a wnaed gan y Swyddogion Lles Addysg, gan gydnabod eu
gwerth o ran cynyddu presenoldeb a rheoli materion lles disgyblion.
Codwyd y materion canlynol gan yr aelodau:
·
A yw'r data'n cynnwys
disgyblion ag amserlenni llai? Roedd
disgyblion ag amserlenni llai yn rhan o'r data, ond nid plant y mae eu rhieni
wedi penderfynu eu haddysgu gartref. Nid
oedd gan yr awdurdod unrhyw gyfrifoldeb am ddarparu addysg iddynt.
Yn dilyn proses graffu,
cytunwyd i nodi'r adroddiad.