Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar
16 Mehefin a 4 Gorffennaf 2019. Darparu prydau iachus a gweithgareddau corfforol yn
ystod gwyliau haf yr ysgol Derbyniodd y Pwyllgor y diweddaraf gan Gadeirydd y
Pwyllgor Addysg, Sgiliau a Diwylliant, a ddywedodd y byddai'r llythyr a oedd yn
nodi barn y Pwyllgor ynghylch y cynllun yn cael ei ddosbarthu i aelodau cyn
cael ei anfon at y Gweinidog Addysg. |
|
Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol PDF 78 KB Adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth mewn perthynas â'r
ddeddfwriaeth newydd a'r arweiniad statudol i ddysgwyr ag anghenion dysgu
ychwanegol (ADY), a'r cynnydd ynghylch y Rhaglen Drawsnewid ADY fel a fanylwyd
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cafwyd trafodaeth ynghylch yr angen i'r maes llafur
hyfforddiant athrawon gynnwys gwybodaeth am ymdrin â phlant ag anghenion dysgu
ychwanegol. Roedd awdurdodau lleol wedi crybwyll yr angen hwn gyda Llywodraeth
Cymru a'r gobaith oedd y byddai'n cael ei gynnwys yn y cwricwlwm newydd sy'n
cael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf. Yn ychwanegol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot wedi trefnu â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddarparu
hyfforddiant ôl-raddedig i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd
19 o leoedd wedi'u cadarnhau ar gyfer eleni, a bydd rhagor o hyfforddiant yn
cael ei roi'r flwyddyn nesaf. Gofynnodd aelodau a fyddai unrhyw oblygiadau
ariannol i'r cyngor o ganlyniad i Ddiwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol. Esboniwyd bod Castell-nedd Port Talbot wedi
cyfrannu £700,000 o arian ychwanegol at gyllideb y flwyddyn nesaf er mwyn
ceisio mynd i'r afael â'r cynnydd yn y galw. Roedd arian ar gael gan Lywodraeth
Cymru ond ni fyddai hyn yn parhau wedi 2020. Nid oedd unrhyw arian ar gael ar
gyfer diwygio. Cafwyd trafodaeth arall ynghylch y pryder yr oedd
rhai athrawon yn eu teimlo o ran ansawdd y Cynlluniau Datblygu Unigol a oedd yn
cael eu cwblhau, oherwydd nifer y ffurflenni a'u cymhlethdod. Esboniodd
swyddogion nad oedd unrhyw feini prawf yn berthnasol i'r côd, ond ni ddisgwylir
unrhyw newidiadau. Cynhaliwyd cyfnodau peilot a chafwyd adborth cadarnhaol o'r
rhain. Roedd hyfforddiant ar gyfer nodi'r anghenion y mae angen eu hystyried yn
parhau. Ceisiwyd eglurhad ynghylch cylch gwaith y cyngor
mewn perthynas â phlant y mae eu rhieni'n dewis eu haddysgu gartref. Esboniwyd
nad oedd gan y cyngor unrhyw fynediad cyfreithiol at y plant hyn gan mai dewis
y rhieni yw hwn. Yn ychwanegol, roedd niferoedd y plant hyn yn cynyddu ar draws
Cymru. Roedd nifer o resymau dros rieni'n dewis addysgu eu plant yn y cartref,
e.e. materion presenoldeb, iechyd meddwl, ffobia ysgol. Ni fyddai Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol
yn effeithio ar y ffigurau hyn gan nad oedd y plant yn elwa o leoliad ysgol.
Gweithiodd y Gwasanaethau Cymdeithasol, y gwasanaethau Iechyd a Thai, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Bae Abertawe a'r adran Addysg ar y cyd i weld a nodwyd unrhyw
broblemau ar gyfer plentyn penodol. Byddai trefniadau'n cael eu gwneud i gynnal sesiwn
cynyddu ymwybyddiaeth i aelodau ynghylch Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol. Yn dilyn proses graffu, cytunwyd i nodi'r
adroddiad. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Cofnodion: Data Rheoli Perfformiad Chwarterol 2019-2020 -
Perfformiad Chwarter 1 (1 Ebrill 2019 tan 30 Mehefin 2019) Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am Ddata Rheoli
Perfformiad Chwarterol 2019-2020 fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Codwyd y materion canlynol gan yr aelodau: ·
Pam nad oedd canran y bobl
ifanc rhwng 11 ac 19 a oedd mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth Ieuenctid yn
cyflawni ei tharged? Esboniwyd bod hyn o ganlyniad i salwch a swyddi gwag yn y tîm,
a oedd wedi effeithio ar nifer y cysylltiadau a wnaed. Cadarnhawyd bod y mater
hwn bellach wedi'i ddatrys. ·
Oedd y galw am leoedd gofal
plant llawn amser yn cael ei fonitro? Cafwyd cadarnhad bod monitro'n cael ei
wneud ac o ganlyniad roedd rhagor o leoedd ar gael mewn rhagor o ardaloedd.
Hefyd, cynhaliwyd ymgyrch cyfryngau i sicrhau bod yr holl deuluoedd cymwys yn
ymwybodol o'r cynnig. ·
Gofynnwyd pam bod Castell-nedd
Port Talbot wedi dod yn 20fed yn y Data Cymru Gyfan ar gyfer presenoldeb ysgol
mewn ysgolion cynradd. Rhoddwyd esboniad ond nid oedd unrhyw gysylltiadau rhwng
absenoldeb a’r ardaloedd difreintiedig. Castell-nedd Port Talbot oedd un o'r
ardaloedd mwyaf difreintiedig. Roedd Swyddogion Lles Addysg yn rhagweithiol
wrth weithio gyda theuluoedd, yn enwedig teuluoedd â hanes o absenoldeb
reolaidd. Ffocws pob ysgol oedd pwysigrwydd presenoldeb. Un broblem oedd
absenoldeb heb ganiatâd, ac roedd hyn yn digwydd pan fyddai rhieni'n cymryd eu
plant allan o'r ysgol i fynd ar eu gwyliau. Roedd gwaith yn parhau ynghylch
rhoi cosb ariannol ar gyfer absenoldeb heb ganiatâd, ond gan ystyried yr
hinsawdd economaidd, roedd rhieni'n dal i gymryd eu plant allan o'r ysgol ar
gyfer gwyliau. ·
Beth yw sgôr 9 wedi'i chapio? Roedd y dangosydd hwn
yn un o'r newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd data'n cael ei
gasglu ar hyn o bryd a byddai ar gael ar gyfer cyfarfod mis Ionawr 2020. ·
Pam roedd yr ymweliadau â
chanolfannau hamdden wedi'u hamlygu'n goch? Trafodwyd hyn yng nghyfarfod yr
Is-bwyllgor Hamdden a Diwylliant, lle'r esboniwyd mai'r broblem oedd y data a
oedd yn cael ei gasglu, a bod anghysondebau rhwng pob awdurdod lleol. Byddai'r
esboniad a roddwyd i'r Is-bwyllgor yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor. Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Cynnig i sefydlu darpariaeth Arbenigol
i Ddisgyblion Uwchradd ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) Derbyniodd y Pwyllgor drosolwg o'r cynnig i ymgynghori ar sefydlu
darpariaeth arbenigol i ddisgyblion oedran uwchradd ag anhwylder y sbectrwm
awtistig (ASA) yn Ysgol Gyfun Dŵr y Felin, fel a fanylwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd. Codwyd y materion canlynol gan Aelodau: ·
Faint o ysgolion oedd wedi
gwneud cais ar gyfer y ddarpariaeth Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) newydd?
Roedd dwy ysgol wedi mynegi diddordeb, ond roedd un wedi tynnu yn ôl. Yn
ychwanegol, mae'r ddarpariaeth eisoes yn bodoli mewn sawl ysgol. ·
Mynegwyd pryder ynghylch a
ydym ni'n ateb y galw? Esboniwyd bod nifer y disgyblion wedi cynyddu 47% ar
draws pob oed ysgol. O ganlyniad, roedd angen mwy o allu mewn ysgolion er mwyn
mynd i'r afael â'r cynnydd hwn. Yn dilyn craffu, roedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |