Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Periodi cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd L Jones yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 67 KB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
18 Hydref, 2019. |
|
Grant Eiddo Masnachol: 60 Heol yr Orsaf, Port Talbot PDF 3 MB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo, dan y cynllun Grant Eiddo Masnachol,
rhoi cymorth grant ar gyfer y gwaith gwella allanol yn 60 Heol yr Orsaf, Port
Talbot. Rheswm dros y Penderfyniad: Rhoi darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol
ar waith yn unol â'r meini prawf a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu
at adfywio canol tref Port Talbot Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|
Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2019/2020 - Chwarter 2 (1 Ebrill 2019 i 30 Medi 2019) PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Blaenraglen Waith 2019/2 PDF 82 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen
12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5)
Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwaherddir y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes
ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a
diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Tendr Anffurfiol ar gyfer cael gwared â Hen Ganolfan Hamdden yr Afan Lifo a Safle'r Maes Parcio Gorlif Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Cynnig arfaethedig i gael gwared â thir i'r Gogledd o Faes T? Canol, Baglan, Port Talbot Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo gwaredu tir i'r gogledd o Faes Tŷ
Canol, Baglan, Port Talbot, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi gwaredu tir dros ben a chael derbynneb cyfalaf. Ymgynghoriad: Cynhaliwyd ymgynghoriad â chynghorwyr ward lleol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|
Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Ymestyn y cyfnod statudol ar gyfer cais gan Associated British Ports Holdings Ltd. am iawndal Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo'r terfyn amser i gyd-drafod yr hawliad
gan Associated British Ports Holdings Ltd, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat
a gylchredwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer y camau gweithredu
di-oed mewn perthynas â hawliadau dan Gynllun Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol
Port Talbot. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|
Eitem Frys Cofnodion: Oherwydd yr angen i ymdrin yn awr â'r materion a
gynhwysir yng Nghofnod Rhif 12 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau
hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd). Rheswm: Oherwydd yr elfen amser. |
|
Ffordd Fynediad Ddeheuol Coed Darcy a Cham 2 Ffordd Amazon - Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol 2010 - Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Ymestyn y cyfnod statudol ar gyfer hawliadau sy'n weddill Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo ymestyn y cyfnod statudol ar gyfer
hawliadau sy'n weddill, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer y gweithredu di-oed
sy'n ofynnol mewn perthynas â hawliadau o dan gynllun Ffordd Fynediad Coed
Darcy a Cham 2 Ffordd Amazon. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |