Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Wingrave yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 66 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
29 Tachwedd 2019. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Bydd Cyngor Bwrdeistref
Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ymrwymo i gytundeb â Grŵp Tai Coastal,
gan roi caniatâd y cyngor (fel perchennog rhydd-daliad y tir) i Coastal ymrwymo
i gytundeb dargyfeirio carthffos Is-adran 185 Deddf y Diwydiant Dŵr 1991
gyda Dŵr Cymru a Gweinidogion Cymru. 2.
Bod y cytundeb â Coastal
yn gofyn i Coastal indemnio'r cyngor, mewn perthynas â'r cyfrifoldebau a'r
rhwymedigaethau sy'n codi o gytundeb Is-adran 185. Rheswm dros y Penderfyniadau: Mae angen gwneud y penderfyniadau fel y gellir
datblygu'r tir fel rhan o'r cynlluniau ailddatblygu cyffredinol ar gyfer canol
tref Castell-nedd, yn unol â chynigion adfywio'r cyngor. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo cynnig grant o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd
Cymru mewn perthynas â phrosiect Di-waith yn Tymor Byr Gweithffyrdd+. Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi prosiect
Gweithffyrdd+ i barhau i gyflwyno yn unol â'r cynllun busnes a llythyr cynnig
grant Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|
Blaenraglen Waith 2019-2020 PDF 66 KB Cofnodion: Penderfyniad: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol
yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol
2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd
yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14
Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot, Cam 2 - Rhan 1 Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo talu symiau iawndal i'r partïon yr
effeithiwyd arnynt, fel y manylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Talu iawndal o ganlyniad i Gynllun Cam 2 Ffordd
Ddosbarthu Ymylol Port Talbot. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|
Cynnig cyfnewid tir Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo'r amodau a thelerau (ar yr amod nad oes
unrhyw wrthwynebiadau yn dilyn hysbysebu statudol) cyfnewid tir a chymeradwyo
diwygiad i'r cynllun ffiniau ar gyfer y Warchodfa Natur Leol, fel y manylwyd yn
yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Mynd i'r afael â
thresbasu parhaus a darparu dewis amgen addas a chynnwys tir bioamrywiaeth well
yn y Warchodfa Natur Leol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |