Agenda a Chofnodion

Bwrdd Adfywio a Datblygu Cynaliadwy’r Cabinet - Dydd Gwener, 29ain Tachwedd, 2019 10.05 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Periodi cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd L Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2019.

 

3.

Grant Eiddo Masnachol: 60 Heol yr Orsaf, Port Talbot pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo, dan y cynllun Grant Eiddo Masnachol, rhoi cymorth grant ar gyfer y gwaith gwella allanol yn 60 Heol yr Orsaf, Port Talbot.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Rhoi darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol ar waith yn unol â'r meini prawf a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu at adfywio canol tref Port Talbot

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

4.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2019/2020 - Chwarter 2 (1 Ebrill 2019 i 30 Medi 2019) pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

 

5.

Blaenraglen Waith 2019/2 pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

6.

Mynediad i gyfarfodydd

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:        Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwaherddir y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

7.

Tendr Anffurfiol ar gyfer cael gwared â Hen Ganolfan Hamdden yr Afan Lifo a Safle'r Maes Parcio Gorlif

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

8.

Cynnig arfaethedig i gael gwared â thir i'r Gogledd o Faes T? Canol, Baglan, Port Talbot

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo gwaredu tir i'r gogledd o Faes Tŷ Canol, Baglan, Port Talbot, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi gwaredu tir dros ben a chael derbynneb cyfalaf.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad â chynghorwyr ward lleol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

9.

Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Ymestyn y cyfnod statudol ar gyfer cais gan Associated British Ports Holdings Ltd. am iawndal

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo'r terfyn amser i gyd-drafod yr hawliad gan Associated British Ports Holdings Ltd, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer y camau gweithredu di-oed mewn perthynas â hawliadau dan Gynllun Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

10.

Eitem Frys

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin yn awr â'r materion a gynhwysir yng Nghofnod Rhif 12 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rheswm: Oherwydd yr elfen amser.

 

11.

Ffordd Fynediad Ddeheuol Coed Darcy a Cham 2 Ffordd Amazon - Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol 2010 - Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Ymestyn y cyfnod statudol ar gyfer hawliadau sy'n weddill

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo ymestyn y cyfnod statudol ar gyfer hawliadau sy'n weddill, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer y gweithredu di-oed sy'n ofynnol mewn perthynas â hawliadau o dan gynllun Ffordd Fynediad Coed Darcy a Cham 2 Ffordd Amazon.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.