Agenda a Chofnodion

Bwrdd Adfywio a Datblygu Cynaliadwy’r Cabinet - Dydd Gwener, 18fed Hydref, 2019 10.05 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd L C Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 6 Medi 2019.

 

3.

Isafbris Uned ar gyfer Alcohol pdf eicon PDF 173 KB

Adroddiad ar y cyd gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd, y Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog Digidol

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Diwygio'r trefniadau dirprwyo mewn perthynas â Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach a nodir yn fersiwn 2.08/16 o gyfansoddiad y cyngor [h.y. Rhan 3 - Swyddog Trefniadau Dirprwyo'r cyngor: {c} Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach - Atodlen 1] i:

 

a)           Ychwanegu rheoliadau swyddogol Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009, Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 a Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 a Deddf Cyfraith Eiddo 1925 at y rhestr o ddeddfwriaethau [a nodir yn y ddogfen y cyfeirir ati uchod, Atolden 1] a ddirprwyir i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd a Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach;

 

b)           Dirprwyo'r swyddogion hynny [a] uchod yn yr awdurdod i awdurdodi swyddogion unigol, cymwys a chymwysedig i weithredu o dan y ddeddfwriaeth honno;

 

c)           Dirprwyo'r swyddogion hynny [a] uchod yn yr awdurdod i gychwyn achos cyfreithiol dan y ddarpariaethau a gynhwysir yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009, Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 a Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 a Deddf Cyfraith Eiddo 1925 yn unol â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol [gan gynnwys llofnodi unrhyw rybuddion yn unol â chanllawiau'r Swyddfa Gartref] a, lle bo troseddwr honedig yn cael ei gadw yn y ddalfa mewn perthynas â throsedd, i gychwyn achos drwy ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn;

 

d)           Bod Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn cael ei awdurdodi i geisio diwygio cyfansoddiad y cyngor maes o lawr er mwyn adlewyrchu'r newidiadau uchod i drefniadau dirprwyo'r awdurdod.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Sicrhau bod y cyfansoddiad yn adlewyrchu rhoi'r darn ychwanegol hon o'r ddeddfwriaeth ar waith.

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

4.

Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot (CDLl) - Ystyried y canlynol: y canfyddiadau, y casgliadau a'r argymhellion o drydydd Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) y CDLl pdf eicon PDF 3 MB

Adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

5.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040 - Ymgynghoriad Drafft pdf eicon PDF 405 KB

Adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cytuno ar yr ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fersiwn ddrafft y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (NDF) 2020-2040 a nodwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad a gylchredwyd a rhoi caniatâd i gyflwyno ymateb i Lywodraeth Cymru.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau bod buddion yr awdurdod yn cael eu cynrychioli a'u bod yn unol â'i ddyletswyddau statudol amrywiol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

6.

Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2019 pdf eicon PDF 11 MB

Adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1)       Nodi cynnwys Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2019 a'r Asesiad Manwl o Ansawdd Aer a chytuno arnynt.

 

2)       Cyhoeddi Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2019 ar wefan y cyngor fel ei fod ar gael i'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill ac anfon copi at Lywodraeth er gwybodaeth.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Darparu gwybodaeth am ansawdd aer yn unol â gofynion deddfwriaethol.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

 

 

 

 

 

 

7.

Adroddiad Archwiliad Cymru - Iechyd yr Amgylchedd pdf eicon PDF 2 MB

Adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd

 

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Nodi canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru o'r gwaith dilynol a wnaed sy'n seiliedig ar adroddiad: 'Cyflwyno gyda llai - Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd'.

 

2.           Cymeradwyo'r cynllun gweithredu mewn ymateb i'r cynigion gwella a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. 

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Er mwyn anfon y cynllun gweithredu a gymeradwywyd ymlaen at Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

8.

Blaenraglen Waith 2019/2 pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2019/20.