Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd L C Jones yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 60 KB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 12 Gorff 2019. |
|
Cofnodion: Penderfyniad: Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2019/20. |
|
Adroddiad ar y cyd gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r
Cyhoedd, Pennaeth Eiddo ac Adfywio a Phennaeth y
Gwasanaethau i Oedolion Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Cymeradwyo'r Ymgynghoriad ar y
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy drafft, fel y'i hamlinellir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, fel sail
ar gyfer ymgynghoriad; 2.
Rhoi'r trefniadau cyhoeddi ac
ymgynghori, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, ar waith. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Er mwyn sicrhau y cydymffurfir â Deddf Cefn Gwlad a
Hawliau Tramwy (CROW) 2000, a sefydlu fframwaith ar gyfer rheoli a gwella ein
Hawliau Tramwy Cyhoeddus dros y 10 mlynedd nesaf. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol. |
|
Adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r
Cyhoedd Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r
adroddiad. |
|
Adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Gwneud Gorchymyn Addasu dan ddarpariaeth Deddf
Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 er mwyn ychwanegu hyd y llwybr troed o Gae'r
Parc i'r llwybr troed mabwysiedig sy'n cysylltu Dulais Fach â Stryd y Parc yng
nghymuned Tonna (A-B-C, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd) i'r Map
a'r Datganiad Diffiniol, ac os nad oes unrhyw wrthwynebiadau, ei gadarnhau fel
gorchymyn diwrthwynebiad. Rheswm dros y penderfyniad: 1.
Nid oes unrhyw dystiolaeth yn
erbyn y cais neu i herio bod y preswylwyr wedi gallu cerdded ar hyd y llwybr am
y cyfnodau a honnwyd. 2.
Mae'r rhesymau dros
ddefnyddio'r llwybr hwn yn amrywiol ac fe'u cefnogir gan niferoedd sylweddol
sy'n cynrychioli'r cyhoedd yn gyffredinol. 3.
Mae'r dystiolaeth map yn
dangos bod y llwybr wedi bodoli ers o leiaf 1984, ac mae hyn ynghyd â
disgrifiadau'r rheini sy'n cefnogi'r cais yn dangos bod y llwybr wedi bod ar
gael ac wedi cael ei ddefnyddio ers o leiaf y dyddiad hwn. 4.
Mae'r lluniau a dynnwyd o'r
llwybr cyn iddo gael ei lenwi â cherrig a choncrit yn dangos cyfres o risiau a
chanllaw sy'n amlwg yn cefnogi'r honiad y bwriedid i'r grisiau hyn gael eu
defnyddio, p'un ai; (i) At ddefnydd preswylwyr Cysgodfa yn unig neu, (ii) At ddefnydd y cyhoedd
cyffredinol pan gwblhawyd y tai yng Nghae'r Parc. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i
mewn. Ymgynghoriad: Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol. |
|
Adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Gwrthod y cais (Llwybr ceffyl cyhoeddus honedig o
Dan-y-Bont, Pontrhydyfen i'r briffordd, Efail Fach yng nghymunedau Pelenna a
Chwmafan), fel y'i fanylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: 1.
Ni ellir gwneud cais am lwybr
ceffyl cyhoeddus o dan Adran 31 Deddf Priffyrdd 1980 o gofio bod y llwybr wedi
bod ar dir y Goron ers 1960. Nid oes unrhyw dystiolaeth defnyddwyr yn ystod y
cyfnod perthnasol rhwng 1940 a 1960. 2.
Ni ellir gwneud cais am lwybr ceffyl
cyhoeddus dan gyfraith gwlad, oherwydd presenoldeb gât gloëdig ym mhen deheuol
y llwybr, darpariaeth allweddi ar gyfer y gât honno i unigolion penodol ac
oherwydd rhoddwyd mynediad caniataol ers symud y gât hon sydd ar glo. 3.
Yn yr un modd â phwynt 1
uchod, ni all unrhyw gais am lwybr cyhoeddus lwyddo o ganlyniad i'r dystiolaeth
defnyddwyr a ddarparwyd o dan Adran 31 o Ddeddf Priffyrdd 1980 gan fod y
defnydd hwnnw'n digwydd ar dir y Goron. 4.
Yn olaf, am y rhesymau a
roddwyd ym mhwynt 2 uchod, bydd angen i geisiadau i gadarnhau bodolaeth llwybr
cyhoeddus dan gyfraith gwlad hefyd ddangos bod perchennog y tir wedi cymryd
mesurau penodol er mwyn cyflwyno'r llwybr yn arbennig i'r cyhoedd. Nid yw
bodolaeth gât dan glo a rhoi caniatâd i ddefnyddwyr ar droed yn sefydlu
rhagdybiaeth o'r fath. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad
allanol. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen
12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5)
Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem
fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a
ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Cynnig arfaethedig i waredu tir
Adroddiad preifat gan
Bennaeth Eiddo ac Adfywio Cofnodion: Penderfyniad: Derbyn y cynnig argymelledig a dderbyniwyd i waredu
tir ger Heol Tabor, Cwmafan, Castell-nedd Port Talbot (fel y manylir yn yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd). Rheswm dros y Penderfyniad: Caniatáu gwerthu eiddo dros ben ac ennill derbyniad
cyfalaf. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Ymgynghorwyd â'r aelodau lleol ar yr eitem hon. |
|
Eitem Brys Cofnodion: O ganlyniad i'r angen i ymdrin â'r materion yng
Nghofnodion Rhif 12 ac 13 isod ar unwaith, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r
rhain yn ystod cyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol
2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd). Rheswm: Oherwydd yr elfen amser. |
|
Ffordd Dosbarthu Ymylol Port Talbot Cam 2 - Ymestyn y Cyfnod Statudol ar gyfer yr Hawliad gan Associated British Ports Holdings Ltd am Iawndal Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo ymestyn y terfyn amser er mwyn trafod y
cais gan Associated British Ports Holdings Ltd dan Gam 2 Ffordd Ddosbarthu
Ymylol Port Talbot, tan 31 Rhagfyr 2019. Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer y camau gweithredu
di-oed y mae eu hangen mewn perthynas â hawliadau dan Gynllun Cam 2 Ffordd
Ddosbarthu Ymylol Port Talbot. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Adnewyddu Prydles i lety'r Cyngor yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Cimla Cofnodion: Derbyniodd aelodau ddiweddariad gan swyddogion er
mwyn diwygio'r geiriad yn y penderfyniad i "yn adolygol". Penderfyniad: Bydd y cyngor yn gyfrifol am y brydles newydd ar
gyfer Canolfan Adnoddau Cymuned Cimla, yn adolygol o 1 Medi 2019, yn unol â'r
telerau a amlinellir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd adnewyddu'r brydles yn galluogi staff y
Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i barhau i ddefnyddio'r llety a chynnal
amgylchedd cydweithio er mwyn ymgysylltu â chydweithwyr Iechyd yn effeithiol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |