Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd L C Jones yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 75 KB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 6 Medi 2019. |
|
Isafbris Uned ar gyfer Alcohol PDF 173 KB Adroddiad ar y cyd gan Bennaeth Cynllunio a
Diogelu'r Cyhoedd, y Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog Digidol Cofnodion: Penderfyniadau: Diwygio'r trefniadau
dirprwyo mewn perthynas â Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach a
nodir yn fersiwn 2.08/16 o gyfansoddiad y cyngor [h.y. Rhan 3 - Swyddog
Trefniadau Dirprwyo'r cyngor: {c} Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach -
Atodlen 1] i: a)
Ychwanegu rheoliadau swyddogol Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a
Bwyd (Cymru) 2009, Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion
Perthynol (Cymru) 2011 a Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 a Deddf Cyfraith
Eiddo 1925 at y rhestr o ddeddfwriaethau [a nodir yn y ddogfen y cyfeirir ati
uchod, Atolden 1] a ddirprwyir i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd, Pennaeth Cynllunio
a Diogelu'r Cyhoedd a Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach; b)
Dirprwyo'r swyddogion hynny [a] uchod yn yr awdurdod i awdurdodi swyddogion
unigol, cymwys a chymwysedig i weithredu o dan y ddeddfwriaeth honno; c)
Dirprwyo'r swyddogion hynny [a] uchod yn yr awdurdod i gychwyn achos
cyfreithiol dan y ddarpariaethau a gynhwysir yn Rheoliadau Rheolaethau
Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009, Rheoliadau'r Fasnach mewn
Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 a Rheoliadau Hylendid Bwyd
(Cymru) 2006 a Deddf Cyfraith Eiddo 1925 yn unol â Phennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol [gan gynnwys llofnodi unrhyw rybuddion yn unol â chanllawiau'r
Swyddfa Gartref] a, lle bo troseddwr honedig yn cael ei gadw yn y ddalfa mewn
perthynas â throsedd, i gychwyn achos drwy ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn; d)
Bod Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn cael ei awdurdodi i geisio diwygio
cyfansoddiad y cyngor maes o lawr er mwyn adlewyrchu'r newidiadau uchod i
drefniadau dirprwyo'r awdurdod. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Sicrhau bod y cyfansoddiad yn adlewyrchu rhoi'r
darn ychwanegol hon o'r ddeddfwriaeth ar waith. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd Cofnodion: Penderfyniad: Cytuno ar yr ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fersiwn ddrafft
y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (NDF) 2020-2040 a nodwyd yn Atodiad 3 yr
adroddiad a gylchredwyd a rhoi caniatâd i gyflwyno ymateb i Lywodraeth Cymru. Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau bod buddion yr awdurdod yn cael eu cynrychioli
a'u bod yn unol â'i ddyletswyddau statudol amrywiol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|
Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2019 PDF 11 MB Adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd Cofnodion: Penderfyniadau: 1)
Nodi
cynnwys Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2019 a'r Asesiad Manwl o Ansawdd Aer a
chytuno arnynt. 2)
Cyhoeddi
Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2019 ar wefan y cyngor fel ei fod ar gael i'r
cyhoedd a rhanddeiliaid eraill ac anfon copi at Lywodraeth er gwybodaeth. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Darparu gwybodaeth am
ansawdd aer yn unol â gofynion deddfwriaethol. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Adroddiad Archwiliad Cymru - Iechyd yr Amgylchedd PDF 2 MB Adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Nodi canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru o'r gwaith
dilynol a wnaed sy'n seiliedig ar adroddiad: 'Cyflwyno gyda llai - Gwasanaethau
Iechyd yr Amgylchedd'. 2.
Cymeradwyo'r cynllun gweithredu mewn ymateb i'r cynigion
gwella a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Er mwyn anfon y cynllun gweithredu a gymeradwywyd ymlaen at Swyddfa
Archwilio Cymru. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Blaenraglen Waith 2019/2 PDF 81 KB Cofnodion: Penderfyniad: Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2019/20. |