Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Trefniadau Uwch Reolwyr PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Prif Weithredwr drosolwg i'r aelodau o'r
adroddiad a ddosbarthwyd. Mewn ymateb i ymholiadau aelod,
esboniwyd y byddai gwaith ychwanegol yn cael ei wneud fel rhan o gynllunio adferiad
i sicrhau bod ymagwedd gryfach at ddatblygu cymunedau. Byddai hyn yn sicrhau
aliniad rhwng Cydlynu Ardaloedd Lleol a datblygu cymunedol arall a gwaith sy'n
seiliedig ar leoedd ar draws y cyngor. Holodd yr aelodau ai'r Gwasanaethau
Cymdeithasol ddylai fod yn gyfrifol am Ddiogelwch Cymunedol. Eglurodd y Prif Weithredwr fod gan y
swyddogaeth synergedd â'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg, Hamdden a Dysgu
Gydol Oes. Ar y cyfan, roedd mwy o le yn debygol o fod ar gael yn y
Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes ar hyn o bryd i gynnal y
gwaith presennol. Esboniwyd nad oedd Diogelwch Cymunedol yn berthnasol i un
maes yn unig, roedd yn cwmpasu agendâu'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg. Holodd yr aelodau a fyddai gwrthdaro o
ran budd o ran y ffaith bod y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
yn cadeirio'r Grŵp Llywodraethu Corfforaethol. Sicrhaodd y Prif Weithredwr yr aelodau fod y
Grŵp Llywodraethu Corfforaethol yn cydlynu ac yn darparu goruchwyliaeth
broffesiynol o drefniadau llywodraethu'r cyngor ac yn cymryd cyfrifoldeb am
baratoi'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a gyflwynir i'r Cabinet unwaith y
flwyddyn ac a gymeradwyir hefyd gan y Pwyllgor Archwilio fel rhan o'r broses o
gyfrifo prosesau cyfrifon. Cafwyd trafodaeth ynghylch cyfuno rolau
Gwasanaethau Cyfreithiol, Gwasanaethau Democrataidd a Gwasanaethau
Etholiadol. Eglurodd y Prif Weithredwr
fod gan y Gwasanaethau Democrataidd berthynas weithredol agos â'r Gwasanaethau
Cyfreithiol, a oedd yn cynnwys cyswllt eang rhwng Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd.
O ran y Gwasanaethau Etholiadol, tynnwyd sylw at y ffaith bod gan y
cyngor Reolwr Etholiadau profiadol, ond am resymau cynllunio olyniaeth a chynllunio
cadernid byddai'r cynigion yn caniatáu i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol
gymryd mwy o ran yn y gwaith hwn. Holodd yr aelodau a fyddai’r cynigion
yn cael effaith ar gyflog swyddogion. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw effeithiau
o'r fath yn deillio o'r cynigion ar gyfer y Penaethiaid Gwasanaeth neu'r
Cyfarwyddwyr yr effeithiwyd arnynt. PENDERFYNWYD: cymeradwyo'r
argymhellion canlynol: 1.
Dileu swydd y Prif
Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog Digidol. 2. Creu
swydd newydd ar raddfa pennaeth gwasanaeth, sef y Prif Swyddog Digidol, gan
adrodd yn uniongyrchol i'r Cyfarwyddwr Cyllid a’r Gwasanaethau Corfforaethol. 3. Bod
y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gydraddoldebau a
Gwasanaethau Corfforaethol yn cael eu hawdurdodi i baratoi disgrifiad swydd a
manyleb person addas ar gyfer rôl y Prif
Swyddog Digidol ac i gychwyn y prosesau
sy'n angenrheidiol i recriwtio person addas i'r rôl. 4. Caiff
y gwaith hwnnw o reoli'r Is-adran Gwasanaethau Digidol ei ymgorffori ym mhortffolio'r
Prif Swyddog Digidol. 5. Bydd
datblygu Strategaeth Creu Incwm y cyngor yn rhan o rôl y Pennaeth Cyllid. Trosglwyddo
rheolaeth llinell y Cydlynydd Masnachol i'r Pennaeth Cyllid. Bydd y Pennaeth
Cyllid hefyd yn gyfrifol am gadeirio Grŵp Llywio'r Rhaglen Gyfalaf ac
adrodd i'r Grŵp Cyfarwyddwyr Corfforaethol ar faterion rhaglenni cyfalaf. 6. Diwygio portffolio'r Cyfarwyddwr Cyllid ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |