Cofnodion:
Rhoddodd y Prif Weithredwr drosolwg i'r aelodau o'r
adroddiad a ddosbarthwyd.
Mewn ymateb i ymholiadau aelod,
esboniwyd y byddai gwaith ychwanegol yn cael ei wneud fel rhan o gynllunio adferiad
i sicrhau bod ymagwedd gryfach at ddatblygu cymunedau. Byddai hyn yn sicrhau
aliniad rhwng Cydlynu Ardaloedd Lleol a datblygu cymunedol arall a gwaith sy'n
seiliedig ar leoedd ar draws y cyngor.
Holodd yr aelodau ai'r Gwasanaethau
Cymdeithasol ddylai fod yn gyfrifol am Ddiogelwch Cymunedol. Eglurodd y Prif Weithredwr fod gan y
swyddogaeth synergedd â'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg, Hamdden a Dysgu
Gydol Oes. Ar y cyfan, roedd mwy o le yn debygol o fod ar gael yn y
Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes ar hyn o bryd i gynnal y
gwaith presennol. Esboniwyd nad oedd Diogelwch Cymunedol yn berthnasol i un
maes yn unig, roedd yn cwmpasu agendâu'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg.
Holodd yr aelodau a fyddai gwrthdaro o
ran budd o ran y ffaith bod y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
yn cadeirio'r Grŵp Llywodraethu Corfforaethol. Sicrhaodd y Prif Weithredwr yr aelodau fod y
Grŵp Llywodraethu Corfforaethol yn cydlynu ac yn darparu goruchwyliaeth
broffesiynol o drefniadau llywodraethu'r cyngor ac yn cymryd cyfrifoldeb am
baratoi'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a gyflwynir i'r Cabinet unwaith y
flwyddyn ac a gymeradwyir hefyd gan y Pwyllgor Archwilio fel rhan o'r broses o
gyfrifo prosesau cyfrifon.
Cafwyd trafodaeth ynghylch cyfuno rolau
Gwasanaethau Cyfreithiol, Gwasanaethau Democrataidd a Gwasanaethau
Etholiadol. Eglurodd y Prif Weithredwr
fod gan y Gwasanaethau Democrataidd berthynas weithredol agos â'r Gwasanaethau
Cyfreithiol, a oedd yn cynnwys cyswllt eang rhwng Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd.
O ran y Gwasanaethau Etholiadol, tynnwyd sylw at y ffaith bod gan y
cyngor Reolwr Etholiadau profiadol, ond am resymau cynllunio olyniaeth a chynllunio
cadernid byddai'r cynigion yn caniatáu i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol
gymryd mwy o ran yn y gwaith hwn.
Holodd yr aelodau a fyddai’r cynigion
yn cael effaith ar gyflog swyddogion. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw effeithiau
o'r fath yn deillio o'r cynigion ar gyfer y Penaethiaid Gwasanaeth neu'r
Cyfarwyddwyr yr effeithiwyd arnynt.
PENDERFYNWYD: cymeradwyo'r
argymhellion canlynol:
1.
Dileu swydd y Prif
Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog Digidol.
2. Creu
swydd newydd ar raddfa pennaeth gwasanaeth, sef y Prif Swyddog Digidol, gan
adrodd yn uniongyrchol i'r Cyfarwyddwr Cyllid a’r Gwasanaethau Corfforaethol.
3. Bod
y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd ac
Aelod Cabinet dros Gydraddoldebau a
Gwasanaethau Corfforaethol yn cael eu hawdurdodi i baratoi disgrifiad swydd a
manyleb person addas ar gyfer rôl y Prif
Swyddog Digidol ac i gychwyn y prosesau
sy'n angenrheidiol i recriwtio person addas i'r rôl.
4. Caiff
y gwaith hwnnw o reoli'r Is-adran Gwasanaethau Digidol ei ymgorffori ym mhortffolio'r
Prif Swyddog Digidol.
5. Bydd
datblygu Strategaeth Creu Incwm y cyngor yn rhan o
rôl y Pennaeth Cyllid. Trosglwyddo
rheolaeth llinell y Cydlynydd Masnachol i'r Pennaeth Cyllid. Bydd y Pennaeth
Cyllid hefyd yn gyfrifol am gadeirio Grŵp Llywio'r Rhaglen Gyfalaf ac
adrodd i'r Grŵp Cyfarwyddwyr Corfforaethol ar faterion rhaglenni cyfalaf.
6. Diwygio
portffolio'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol i gynnwys
cyfrifoldeb am gadeirio'r Grŵp Llywodraethu Corfforaethol, trosolwg o'r gwaith
o baratoi'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a gweithgareddau cysylltiedig; ac
ymgorffori cyfrifoldebau'r Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth.
7. Diwygio rôl
y Rheolwr Strategol ar gyfer Polisi a
Gwasanaethau Democrataidd i ddileu'r
cyfrifoldeb am y
Gwasanaethau Democrataidd a’r
Gwasanaethau Etholiadol ac i gynyddu lefel
cyfrifoldeb y rôl ar gyfer y
swyddogaethau gweddilliol. Ail-ddynodi'r swydd yn Rheolwr Strategol ar
gyfer Polisi a
Chymorth Gweithredol.
8. Ail-ddynodi
Pennaeth yr Adnoddau Dynol yn Bennaeth Datblygiad Dynol a Sefydliadol, gan
adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr. Bydd y rôl yn cynnwys
cyfrifoldebau presennol y Pennaeth
Adnoddau Dynol ond hefyd yn cynnwys bod yn rheolwr llinell y Rheolwr Strategol
ar gyfer Polisi a Chymorth Gweithredol
9. Ail-ddynodi
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol yn Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd, gan adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr. Bydd y rôl yn
cynnwys swyddogaethau presennol Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol ond caiff ei
hehangu i gynnwys bod yn rheolwr linell i'r Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol a'r
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.
10. Newid rheolwr
linell y Partneriaethau Rheolwyr Strategol
a Chydlyniant Cymunedol gyda'r
swydd a bod y gweithlu/portffolio cysylltiedig
yn adrodd yn uniongyrchol i'r Pennaeth Cyfranogiad.
Dogfennau ategol: