Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo - Dydd Llun, 25ain Tachwedd, 2019 10.02 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cais i amrywio Trwydded Mangre - Premier Stores

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i amrywio Trwydded Mangre a gymeradwywyd o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Enw'r fangre

Premier Stores

Cyfeiriad y fangre

Stryd Fawr, Cwmgwrach, SA115TA

Enw'r ymgeisydd

Rebecca James

Cyfeiriad yr ymgeisydd

Tŷ Siloh, Heol Wenallt, Cwmgwrach

Enw'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig

Andrea Dawn Davies

 

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo'r cais i amrywio Trwydded Mangre –

                                   Premier Stores, Stryd Fawr, Cwmgwrach, SA11 5TA a wnaed gan Rebecca James, Tŷ Siloh, Heol Wenallt, Cwmgwrach, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac yn amodol ar yr amodau canlynol;

 

1.        Estyn y fangre i gynnwys lle i werthu ar y safle ac oddi yno a newid cynllun y fangre i gynnwys caffi bistro yn y cefn.

2.        Cyflenwi alcohol yn y fangre ac oddi arni:

Dydd Llun i ddydd Sul:     06:00 – 23:30

Mae'r ymgeisydd wedi cytuno â'r heddlu y bydd alcohol yn cael ei werthu o'r caffi/bistro yn unig rhwng 11:00 a 23:30

3.        Oriau agor y fangre:

Dydd Llun i ddydd Sul:     06:00 - 23:30

Mae'r ymgeisydd wedi cytuno â'r heddlu y bydd alcohol yn cael ei werthu o'r caffi/bistro yn unig rhwng 11:00 a 23:30

 

 

 

Amodau

 

Trosedd ac Anhrefn:

4.        Gosodir teledu cylch cyfyng fel y gellir monitro ardaloedd trwyddedadwy gan gynnwys mynedfeydd, allanfeydd a chefn y fangre. Cedwir y ffilm am o leiaf 28 niwrnod a bydd ar gael i'w harchwilio gan swyddogion awdurdodedig.

5.        Ni chaniateir mynediad ar unrhyw adeg i unrhyw un sy'n cario gwydrau agored neu wydrau a seliwyd.

6.        Ni chaniateir mynd ag alcohol sydd wedi'i brynu yn y siop i mewn i'r bistro dan unrhyw amgylchiadau. Caiff pob diod ei gweini mewn gwydr, ni fydd caniau na photeli ar gael.

7.        Bydd llyfr cofnod achosion yn cael ei gadw yn y fangre ar gyfer archwiliadau gan swyddogion awdurdodedig.

8.        Ni chaniateir mynediad ac ni werthir alcohol i unrhyw berson sy'n feddw ac/neu sy'n ymddwyn yn afreolus ac ni chaniateir iddo aros yn y fangre.

Diogelwch y Cyhoedd:

9.        Bydd cofnod neu system recordio yn cael ei gadw yn y fangre ac ynddo nodir manylion yr archwiliadau a wnaed; y rheini y mae'n ofynnol eu gwneud yn statud a gwybodaeth a gasglwyd i gydymffurfio ag unrhyw amod sy'n ymwneud â diogelwch y cyhoedd sydd ynghlwm wrth y drwydded mangre sy'n gofyn am gofnodi gwybodaeth o'r fath. Bydd y llyfr cofnodion ar gael i'w archwilio pan fydd yn ofynnol gan bersonau a awdurdodwyd gan Ddeddf Trwyddedu 2003 neu ddeddfwriaeth gysylltiedig.

10.     Darperir mynediad digonol ar gyfer cerbydau brys a phersonol.

11.     Bydd pob rhan o'r fangre a'r holl osodiadau a chyfarpar ynddi, gan gynnwys ffasnyddion a hysbysiadau drysau a'r seddi, goleuadau, system wresogi, system drydanol, system awyru, cyfleusterau iechydol, cyfleusterau golchi a gosodiadau eraill yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da a diogel bob amser.

12.     Dylid archwilio'r fangre cyn iddi agor i'r cyhoedd i sicrhau nad oes unrhyw risgiau i gwsmeriaid a bod yr holl ragofalon diogelwch ar waith.

13.     Hyfforddiant priodol ynghylch rhagofalon a gweithdrefnau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.